Cwningen Wen

Oddi ar Wicipedia
Cwningen Wen

Cymeriad ffuglennol o'r llyfr Anturiaethau Alys yng Ngwlad Hud gan Lewis Carroll ydy'r Gwningen Wen neu The White Rabbit, yn Saesneg. Mae'n ymddangos yn y dechrau'r llyfr, yn pennod un, yn gwisgo gwasgod, ac yn mwmian "O'r annwyl! O'r annwyl! Mi fydda' i'n rhy hwyr!". Mae Alys yn ei ddilyn i lawr y twll cwningen i Wlad Hud. Mae Alys yn cyfarfod ag ef eto a mae'r gwningen yn camgymryd Alys fel ei forwyn tŷ, Meri Ann. Mae'r gwningen yn ymddangos eto fel gwas i Frenin a Brenhines y Calonnau.

Ceir cerflun o'r Gwningen Wen ger traeth Pen y Morfa yn Llandudno; roedd Alice Liddell, y ferch a ysbrydolodd cymeriad 'Alys', yn treulio gwyliau gyda'r teulu yn y dref gan aros ym Mhen y Morfa..