Neidio i'r cynnwys

Alys (Anturiaethau Alys yng Ngwlad Hud)

Oddi ar Wicipedia
Alys
DinasyddiaethTeyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon Edit this on Wikidata

Cymeriad ffuglennol o'r llyfrau Alice's Adventures in Wonderland a'i ddilyniant Through the Looking-Glass, a ysgrifennwyd gan Lewis Carroll, ydy Alice, hefyd Alys. Merch ifanc ydy Alys o Loegr Oes Fictoria.

Datblygiad

[golygu | golygu cod]

Mae'r cymeriad wedi'i seilio ar Alice Liddell, plentyn oedd yn gyfeillgar â Charles Lutwidge Dodgson (enw go iawn Lewis Carroll) ond dywedodd Dodgson nad oedd ei 'arwres fach' yn seiliedig ar unrhyw blentyn go iawn a'i bod yn hollol ffuglennol.[1] Portreadwyd Alys fel merch rhesymegol, weithiau'n bedantig, yn arbennig gyda Humpty Dumpty yn yr ail lyfr. Mae Through the Looking-Glass yn dweud bod Alys yn saith a hanner mlwydd oed, ond mae hi'n aeddfed. Mae'r stori Anturiaethau Alys yng Ngwlad Hud yn digwydd ar 4 Mai, penblwydd Alice Liddell. Mae'r stori Through the Looking-Glass yn digwydd ar 4 Tachwedd, ei hanner-penblwydd (dywedodd Alys yn y llyfr ei bod hi'n "saith a hanner yn union").

Amlinelliad y cymeriad

[golygu | golygu cod]

Darlunir Alys yn boblogaidd yn gwisgo ffrog glas golau hyd at ei phenglin gyda phinaffor gwyn dros y ffrog. Roedd y ffrog yn felyn yn wreiddiol yn The Nursery "Alice", y fersiwn cyntaf o Alice's Adventures in Wonderland i ddefnyddio lliwiau. Yn y darluniau Through the Looking-Glass, mae Alys yn gwisgo rhuban llydan a, fel adlais i Alys, chaiff rwymynnau gwallt eu henwi yn 'Alice bands', yn arbennig yn y DU.

Lluniadwyd Alys yn gyntaf yn ddu a gwyn a byddai'r lliwiau yn newid o artist i artist; sut bynnag, yng ngweithiau lliw cynnar John Tenniel, roedd ffrog Alys yn las, roedd amlinell goch ar ei phinaffor gwyn a'r oedd gwallt golau ganddi[2] a dyma'r ddelwedd enwocaf o Alys heddiw, fel y gwelir gan Disney. Lluniadodd Tenniel Alys mewn dau amrywiolyn, yn Through the Looking-Glass, mae mwy ryfflau ar binaffor Alys acmae hi'n gwisgo hosanau streipïog sy'n rhan o ddelwedd Alys hyd heddiw.

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. Cohen, Morton N. The Letters of Lewis Carroll, London, Macmillan (1979) ISBN 0333089790
  2. "John Tenniel illustration for Alice's Adventures in Wonderland (1865)". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2010-10-10. Cyrchwyd 2010-09-15.

Dolenni allanol

[golygu | golygu cod]