Gwlad Hud
Wonderland | |
![]() | |
Arfbais Gwlad Hud | |
---|---|
Ffynhonnell | Anturiaethau Alys yng Ngwlad Hud |
Crëwr | Lewis Carroll |
Genre | Llyfr plant |
Llywodraeth - Brenin - Brenhines |
Brenhiniaeth Brenin y Calonnau Brenhines y Calonnau |
Lleoliad ffuglennol ar gyfer y llyfr plant Anturiaethau Alys yng Ngwlad Hud yw Gwlad Hud neu Wonderland.
Daearyddiaeth[golygu | golygu cod]
Yn y stori, tanddaearol ydy Gwlad Hud, ac mae Alys yn ei chyrraedd trwy fynd i lawr twll cwningen, ar lan Afon Tafwys yn bosibl.[1] Nid yw Carroll yn enwi pa mor bell tanddaearol yw Gwlad Hud, ond mae Alys yn dyfalu a yw'n agos i ganol y ddaear neu'r cyferbwyntiau[2], lle dywed Alys "...rhaid imi ofyn iddyn nhw enw'r wlad. Os gwelwch yn dda, Ma'am, ai Seland Newydd ynteu Awstralia ydi'r lle yma?". Coediog yw'r wlad lle mae llawer o fadarch yn tyfu. Ceir gerddi a gynhelir a thai sylweddol, fel tai'r Dduges a'r gwningen. Mae gan Gwald Hud arfordir, lle mae'r Crwban Ffug yn byw.
Llywodraeth[golygu | golygu cod]
Rheolir y wlad yn unbenaethol gan Frenin a'r Frenhines y Calonnau sy'n gorfodi eu chwilod yn aml trwy archddyfarniadau'r gosb eithaf a phrofion ffug. Mae o leiaf un Dduges yng Ngwlad Hud.
Trigolion[golygu | golygu cod]
Mae prif boblogaeth Gwald Hud yn cynnwys cardiau chwarae animeiddiedig: y teulu brenhinol (y Calonnau), gwŷr llys (Diemwntau), milwyr (Clybiau), a gweision (Rhawiau). Hefyd, mae llawer o anifeiliaid siarad. Ymhlith y cymeriadau sy'n cwrdd ag Alys yw:
- Bil y Fadfall
- Y Lygoden
- Y Gath Swydd Gaer
- Y Dodo
- Y Lindysyn
- Y Dduges
- Y Hetiwr Gwallgof
- Y Sgwarnog Fawrth
- Y Pathew
- Y Frenhines y Calonnau
- Y Brenin y Calonnau
- Y Jac y Calonnau
- Y Griffwn
- Y Crwban Ffug
- Y Gogyddes
- Y Gwningen Wen
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]
- ↑ The Dictionary of Imaginary Places, Alberto Manguel, Gianni Guadalupi, Harcourt, San Diego ISBN 0156008726 [1]
- ↑ The Making of the Alice Books: Lewis Carroll's Uses of Earlier Children's Literature, McGill-Queen's University Press ISBN 0773520813 [2]
Dolenni allanol[golygu | golygu cod]
- (Saesneg) Map o "Alice's Wonderland"