Matt Lucas
Gwedd
| Matt Lucas | |
|---|---|
| Ffugenw | Andy Pipkin |
| Ganwyd | Matthew Richard Lucas 5 Mawrth 1974 Paddington |
| Label recordio | Charly Records |
| Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig, Yr Almaen |
| Alma mater |
|
| Galwedigaeth | actor teledu, actor, digrifwr, sgriptiwr, actor ffilm, cyflwynydd teledu, cynhyrchydd teledu, canwr |
| Adnabyddus am | The Look of Love, Wonka |
| Taldra | 1.69 metr |
| Priod | Kevin McGee |
| Gwobr/au | Uwch Ddoethor, International Emmy Award for best comedy series, OBE |
Mae Matthew Richard Lucas (ganed 5 Mawrth 1974) yn ddigrifwr ac yn actor Seisnig. Efallai ei fod yn fwyaf adnabyddus am ei waith cydnabyddedig gyda David Walliams yn y rhaglen sgets deledu Little Britain a'i gyfres o gyfweliadau sbŵf Rock Profile, yn ogystal â'i bortread swreal o'r babi 'George Dawes', a gadwai'r sgôr ar raglen gomedi Reeves a Mortimer Shooting Stars.
Ym Mai 2007, rhoddwyd Lucas ar safle rhif 8 ar restr o'r cant o bobl hoyw a lesbiaid mwyaf dylanwadol yng ngwledydd Prydain gan y papurau newydd The Independent a The Daily Mail. Roedd y rhestr yn cynnwys pobl LHDT o feysydd megis adloniant, busnes, gwleidyddiaeth a gwyddoniaeth.