David Walliams
David Walliams | |
---|---|
Ganwyd | 20 Awst 1971 Wimbledon, Banstead, Llundain |
Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | actor, digrifwr, ysgrifennwr, nofelydd, hunangofiannydd, awdur plant, sgriptiwr, actor llwyfan, actor ffilm, cyflwynydd teledu, cynhyrchydd teledu, actor teledu, gwneuthurwr teledu |
Priod | Lara Stone |
Gwobr/au | OBE |
Gwefan | https://www.worldofdavidwalliams.com/ |
Chwaraeon |
Digrifwr, awdur, cyflwynydd teledu a beirniad ar Britain's Got Talent ydy David Edward Walliams (ganed 20 Awst 1971). Fe'i ganwyd yn Merton, Llundain, Lloegr. Priododd y model Lara Stone yn 2010 ond fe ysgarwyd y cwpl yn 2015, mae ganddynt un plentyn o'r enw Alfred Walliams. Mae ef fwyaf adnabyddus am ei waith gyda Matt Lucas.
Graddiodd o Brifysgol Bryste gyda BA mewn Drama ym 1992.
Ers 2012 mae Walliams wedi bod yn feirniad ar sioe dalent ITV Britain's Got Talent gydag Amanda Holden, Alesha Dixon a Simon Cowell. Yn 2015, 2018 a 2019, cafodd ei gydnabod yn y Gwobrau Teledu Cenedlaethol fel y Barnwr Gorau am ei ran yn y gyfres. Mae ei berthynas efo Simon Cowell wedi cael ei ganmol. Enillodd y Best TV Judge yn y 2015 National Television Awards.
Enillodd y Pride Of Britain Award yn 2006 am Nofio'r Sianel a chodi £1 miliwn i'r elusen Sport Relief. Mae llyfrau David wedi ennill llawer o wobrau, yn enwedig y rhai y mae plant yn pleidleisio drostyn nhw. Enillodd y Specsavers Children Book Award am 'Ratburger'. Yn Rhagfyr 2013 enilloedd eto am Demon Dentist, ac eto yn 2014 am Awful Auntie. Roedd Awful Auntie hefyd wedi ennill 2014 Specsavers National Book Award am Lyfr Clywedol y Flwyddyn.
Nofiodd David 140 milltir i lawr Afon Tafwys i godi arian ar gyfer Sports Relief.
Bywyd personol
[golygu | golygu cod]Roedd yn briod â model o'r Iseldiroedd Lara Stone ond fe ysgarodd y cwpl yn 2015.
Llyfryddiaeth
[golygu | golygu cod]Ffeithiol
[golygu | golygu cod]- Inside Little Britain (gyda Boyd Hilton a Matt Lucas): London: Ebury Press: 2006: ISBN 0-09-191231-8
- Hunangofiant
- Camp David (2012)
Ffuglen i blant
[golygu | golygu cod]- Nofelau
- The Boy in the Dress (darluniwyd gan Quentin Blake) (2008)
- Mr Stink (darluniwyd gan Quentin Blake) (2009)
- Billionaire Boy (darluniwyd gan Tony Ross) (2010)
- Gangsta Granny (darluniwyd gan Tony Ross) (2011)
- Ratburger (darluniwyd gan Tony Ross) (2012)
- Demon Dentist (darluniwyd gan Tony Ross) (2013)
- Awful Auntie (darluniwyd gan Tony Ross) (2014)
- Grandpa's Great Escape[1] (darluniwyd gan Tony Ross) (2015)
- The World's Worst Children (darluniwyd gan Tony Ross) (2016)
- The Midnight Gang (darluniwyd gan Tony Ross) (2016)
- The World's Worst Children 2 (darluniwyd gan Tony Ross) (2017)
- Bad Dad (darluniwyd gan Tony Ross) (2017)
- Llyfrau lluniau
- The Slightly Annoying Elephant (2013)
- The First Hippo on the Moon (2014)
- The Queen's Orang-utan (2015, ar gyfer Comic Relief)
- The Bear Who Went Boo! (2015)
- There's a Snake in My School! (2016)
Llyfrau Cymraeg
[golygu | golygu cod]Troswyd nifer o lyfrau nofelau i blant a llyfrau lluniau Walliams i'r Gymraeg.
- Cyfrinach Nana Crwca (cyfieithwyd gan Gruffudd Antur) (2014)[2]
- Deintydd Dieflig (cyfieithwyd gan Gruffudd Antur) (2015)[3]
- Yr Hipo Cyntaf ar y Lleuad (cyfieithwyd gan Gruffudd Antur) (2015)[4]
- Yr Eliffant Eithaf Digywilydd (cyfieithwyd gan Gruffudd Antur) (2016)[5]
- Mr Ffiaidd (cyfieithwyd gan Gruffudd Antur) (2016)[6]
- Yr Arth a Fu'n Bloeddio Bw! (cyfieithwyd gan Eurig Salisbury) (2016)[7]
- Anti Afiach (cyfieithwyd gan Manon Steffan Ros) (2017)[8]
- Y Biliwnydd Bach (cyfieithwyd gan Mared Llwyd) (2017)[9]
- Neidr yn yr Ysgol! (cyfieithwyd gan Eurig Salisbury) (2017)
- Y Bachgen Mewn Ffrog (cyfieithwyd gan Iwan Huws) (2017)
- Dihangfa Fawr Taid (cyfieithwyd gan Dewi Wyn Williams) (2017)
- Plant Gwaetha'r Byd (cyfieithwyd gan Manon Steffan Ros) (2018)
- Rhyw Ddrwg yn y Caws (cyfieithwyd gan Mared Llwyd) (2018)
- Y Criw Canol Nos (cyfieithwyd gan Mared Llwyd) (2018)
- Dad Drwg (cyfieithwyd gan Dewi Wyn Williams) (2018)
Rhaglenni teledu
[golygu | golygu cod]- Britain's Got Talent
- Little Britain
- Come Fly With Me
- Doctor Who (2011)
- Great Expectations (2012)
- Walliams and Friend (2016)
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "David Walliams". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-08-02. Cyrchwyd 2016-04-23.
- ↑ http://www.gwales.com/bibliographic/?isbn=9781909666948&tsid=42
- ↑ http://www.gwales.com/bibliographic/?isbn=9781910574034&tsid=44
- ↑ http://www.gwales.com/bibliographic/?isbn=9781910574119&tsid=40
- ↑ http://www.gwales.com/bibliographic/?isbn=9781910574386&tsid=40
- ↑ http://www.gwales.com/bibliographic/?isbn=9781910574492&tsid=48
- ↑ http://www.gwales.com/bibliographic/?isbn=9781910574607&tsid=50
- ↑ http://www.gwales.com/bibliographic/?isbn=9781910574683&tsid=52
- ↑ http://www.gwales.com/bibliographic/?isbn=9781910574638&tsid=54