Cyfrinach Nana Crwca
Enghraifft o'r canlynol | gwaith llenyddol |
---|---|
Awdur | David Walliams |
Cyhoeddwr | HarperCollins |
Iaith | Saesneg |
Dyddiad cyhoeddi | 2011 |
Rhagflaenwyd gan | Y Biliwnydd Bach |
Olynwyd gan | Rhyw Ddrwg yn y Caws |
Prif bwnc | grandmother, trosedd, Crown Jewels of the United Kingdom |
Mae Cyfrinach Nana Crwca yn llyfr ffuglen gomedi Prydeinig i blant. Ysgrifennwyd y llyfr Saesneg gwreiddiol, Gangsta Granny (2011), gan David Walliams[1] gyda darluniadau gan Tony Ross. Cyfieithwyd y llyfr i'r Gymraeg gan Gruffudd Antur a fe'i gyhoeddwyd gan Atebol yn 2014. Hon yw pedwaredd nofel Walliams a'r gyntaf i Antur drosi i'r Gymraeg.
Plot
[golygu | golygu cod]Mae'n gas gan Ben, bachgen ifanc, orfod aros gyda'i Nain bob nos Wener wrth i'w rieni fynd i weld sioe ddawnsio o'r enw Strictly Stars Dancing. Mae Nain wastad yn rhoi prydau gyda bresych iddo i'w bwyta, cawl bresych gan amlaf, ac maent drwy'r amser yn chwarae Scrabble gan nad yw'r teledu wedi gweithio ers y 1980au. Mae Ben yn dwli ar waith plymwr ac y mae'n tanysgrifio i'r cylchgrawn Plumbing Weekly ers talwm, cylchgrawn y mae'n prynu o siop Raj. Nid yw rhieni Ben am iddo fod yn blymwr, eu huchelgais oedd i'w hunig plentyn fod yn ddawnsiwr neuadd proffesiynol.
Un diwrnod, mae Ben yn ffonio ei rieni o dŷ Nain ac yn gofyn iddynt fynd ag ef adref. Mae Mam a Dad yn anwybyddu cais Ben. Awgrymir fod Nain yn gwrando ar y sgwrs gan nad yw yn gallu ei chlywed yn chwyrnu. Y bore nesaf, mae Nain yn ymddangos yn drist ac yn ddigalon.
Ar yr un bore, mae Nain yn rhoi wyau wedi'i berwi i Ben, ac mae, gan nad yw yn eu hoffi, yn fflicio'r melynwy at y ffenest. Mae Ben yn dechrau chwilio am y tun bisgedi, gan mae'n gwybod bod bisgedi siocled blasus i'w cael ynddo. Mae'n synnu o achos y mae'r tun yn teimlo'n llawer drymach na'r arfer. Mae Ben yn dadsgriwio'r caead ac mae'n darganfod nifer o ddiemyntau, modrwyau, breichledi, cadwyni a chlustdlysau wedi'i clystyru gyda'i gilydd yn y tun. Mae Ben yn clywed Nain yn dod ac mae'n rhoi'r tun yn ôl ac yn mynd yn ôl i'w sedd wrth y bwrdd.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Gangsta Granny By David Williams - Review". The Guardian. 3 January 2012. Cyrchwyd 16 April 2013.