Johnny Depp

Oddi ar Wicipedia
Johnny Depp
GanwydJohn Christopher Depp II Edit this on Wikidata
9 Mehefin 1963 Edit this on Wikidata
Owensboro, Unol Daleithiau America Edit this on Wikidata
Man preswylLos Angeles Edit this on Wikidata
DinasyddiaethUnol Daleithiau America Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Miramar High School
  • Bournville School Edit this on Wikidata
Galwedigaethcyfarwyddwr ffilm, cynhyrchydd ffilm, sgriptiwr, actor teledu, actor ffilm, actor llais, perchennog clwb nos, gitarydd, actor, cerddor Edit this on Wikidata
Adnabyddus amPirates of the Caribbean Edit this on Wikidata
Arddullcerddoriaeth roc, ffilm ffantasi, ffilm antur, comedi rhamantaidd Edit this on Wikidata
Taldra178 centimetr Edit this on Wikidata
TadJohn Christopher Depp Edit this on Wikidata
MamBetty Sue Wells Edit this on Wikidata
PriodLori Allison, Amber Heard Edit this on Wikidata
PartnerSherilyn Fenn, Winona Ryder, Jennifer Grey, Kate Moss, Vanessa Paradis, Tally Chanel, Polina Glen Edit this on Wikidata
PlantJack Depp, Lily-Rose Depp Edit this on Wikidata
Gwobr/auGwobr People's Choice, Golden Globes, Gwobr Deledu MTV i'r Dyn Cas Gorau, Gwobr Ffilmiau MTV ar gyfer Perfformiad Gorau, Gwobrau Ffilmiau MTV ar gyfer Perfformiad Gwrywaidd Gorau, 'Disney Legends', seren ar Rodfa Enwogion Hollywood, Gwobr Donostia, Medal of the City of Paris Edit this on Wikidata
llofnod

Actor, cynhyrchydd ffilmiau a cherddor Americanaidd yw John Christopher "Johnny" Depp II[1] (ganwyd 9 Mehefin 1963). Mae ef wedi ennill Gwobr Golden Globe a gwobr y Screen Actors Guild am yr Actor Gorau. Daeth Depp i enwogrwydd yn y gyfres deledu o'r 1980au 21 Jump Street, gan ddod yn arwr i nifer o arddegwyr. Fodd bynnag, yn fuan wedi hyn dechreuodd Depp actio rhannau llawer mwy heriol fel y prif gymeriad yn Edward Scissorhands (1990). Yn ddiweddarach chwaraeoedd rannau mewn ffilmiau hynod lwyddiannus fel Sleepy Hollow (1999), Charlie and the Chocolate Factory (2005), Alice in Wonderland (2010), Rango (2011) a'r gyfres o ffilmiau Pirates of the Caribbean (2003–presennol). Mae ef wedi cydweithio gyda'r cyfarwyddwr Tim Burton mewn wyth o ffilmiau; yr un mwyaf diweddar yw Dark Shadows (2012).

Derbyniodd Depp gydnabyddiaeth am ei bortread o bobl fel Ed Wood yn Ed Wood, Joseph D. Pistone yn Donnie Brasco, Hunter S. Thompson yn Fear and Loathing in Las Vegas, George Jung yn Blow, a'r lleidr banc John Dillinger yn ffilm Michael Mann Public Enemies. Mae'r ffilmiau mae Depp wedi serennu ynddynt wedi gwneud dros $3.1 biliwn yn swyddfa docynnau'r Unmol Daleithiau a thros $7.6 biliwn yn fyd eang.[2] Cafodd ei enwebu am nifer o'r proif wobrau ar sawl achlysur, gan ennill Golden Globe am yr Actor Gorau am ei ran yn Sweeney Todd: The Demon Barber of Fleet Street. Cafodd ei enwi hefyd gan y Guiness Book of World Records yn 2012 fel yr acotr uchaf ei dâl, gyda $75 miliwn.[3]

Ei fywyd cynnar[golygu | golygu cod]

1960au–1970au[golygu | golygu cod]

Ganwyd Depp yn Owensboro, Kentucky,[4] a'i fagu yn Florida. Ef oedd yr ifancaf o bedwar o blant Betty Sue Palmer (née Wells), gweinyddes, a John Christopher Depp, peiriannydd sifil.[5] Ysgarodd y ddau pan oedd Johnny yn 15 oed.[6] Mewn cyfweliad yn 2002, dywedodd Depp ei fod yn credu ei fod o dras yr Americanwyr Brodorol;[7] yn 2011, manylodd trwy ddweud, "I guess I have some Native American [in me] somewhere down the line. My great-grandmother was quite a bit of Native American, she grew up Cherokee or maybe Creek Indian. Makes sense in terms of coming from Kentucky, which is rife with Cherokee and Creek."[8] Symudodd ei deulu'n rheolaidd yn ystod plentyndod Depp, ac roedd ef a'i siblingiaid wedi byw mewn dros 20 o leoliadau gwahanol, cyn ymgartrefu yn Miramar,[9] Florida, yn 1970. Ym 1978, ysgarodd rhieni Depp.[9] Fel ei hail ŵr, priododd ei fam, Robert Palmer (bu farw 2000), gŵr a ddisgrifiwyd gan Depp fel "ysbrydoliaeth i mi".[10] Aeth Depp tryw gyfnod o hunan-niweidio pan oedd yn ifanc, o ganlyniad i'r straen o ymdopi â phroblemau teuluol, ac oherwydd hyn mae ganddo nifer o greithiau. Mewn cyfweliad yn 1993, myfyriodd ar ei hunan-niweidio gan ddweud "Mae fy nghorff yn rhyw fath o gyfnodolyn. Mae'n debyg i'r hyn byddai morwyr arfer gwneud, lle mae pob tatŵ yn golygu rhywbeth, amser penodol o'ch bywyd pan rydych yn gwneud eich marc ar eich hunan, p'un ai os ydych yn ei wneud gyda chyllell neu artist tatŵ proffesiynol".[11]

1980au[golygu | golygu cod]

Pan dderbyniodd Depp gitâr wrth ei fam pan oedd yn 12, dechreuodd Depp chwarae mewn nifer o fandiau garej.[9] Flwyddyn ar ôl ysgariad ei rieni, gadawodd Depp yr ysgol er mwyn dod yn gerddor roc.[9] Ceisiodd ddychwelyd i'r ysgol bythefnos yn ddiweddarach, ond dywedodd Pennaeth yr ysgol wrtho i ddilyn ei freuddwyd o fod yn gerddor.[9] Chwaraeodd gyda "The Kids", band a gafodd rhyw faint o lwyddiant lleol. Symudodd "The Kids" i Los Angeles gyda'r nod o gael cytundeb recordio. Newidion nhw eu henw i "Six Gun Method", ond chwalodd y grŵp cyn arwyddo cytundeb recordio. Wedi hyn, perfformiodd Depp gyda'r band Rock City Angels[12] a chyd-ysgrifennodd eu cân "Mary", a ymddangosodd ar albwm cyntaf Rock City Angels ar gyfer Geffen Records o'r enw Young Man's Blues.

Bywyd personol[golygu | golygu cod]

Mae'n ef wedi cael perthynas gyda nifer o fenywod enwog, yn cynnwys y model Kate Moss a'r gantores Ffrengig Vanessa Paradis.

Ffilmiau[golygu | golygu cod]

Blwyddyn Ffilm Rôl Nodiadau
1983 The Outsiders cameo yn yr olygfa "rumble"
1984 A Nightmare on Elm Street Glen Lantz
1985 Private Resort Jack
Slow Burn Donnie Fleischer
1986 Platoon Private Gator Lerner
1990 Edward Scissorhands Edward Scissorhands
Cry-Baby Wade "Cry-Baby" Walker
1987-1991 21 Jump Street Tom Hanson Cyfres deledu
1991 Freddy's Dead: The Final Nightmare Arddegwr ar y teledu
1993 What's Eating Gilbert Grape Gilbert Grape
Benny & Joon Sam
Arizona Dream Axel
1994 Ed Wood Ed Wood
1995 Nick of Time Gene Watson
Dead Man William Blake
Don Juan DeMarco Don Juan
1997 Donnie Brasco Donnie Brasco/Joseph D. 'Joe' Pistone
The Brave Raphael Ysgrifennwy a chyfarwyddwr hefyd
1998 Fear and Loathing in Las Vegas Raoul Duke
L.A. Without A Map Ef ei hun/William Black ar boster Dead Man Cameo
1999 Sleepy Hollow Cwnstabl Ichabod Crane
The Astronaut's Wife Commander Spencer Armacost
The Ninth Gate Dean Corso
2000 Chocolat Roux
Before Night Falls Lt. Victor + Bon Bon
2001 From Hell Inspector Frederick Abberline
The Man Who Cried Cesar (Rhyddhad cyfyngedig)
Blow George Jung
2002 Lost in La Mancha Ef ei hun (Johnny Depp)
2003 Once Upon a Time in Mexico Sheldon Jeffrey Sands
Pirates of the Caribbean: The Curse of the Black Pearl Captain Jack Sparrow Nomineiddwyd - Gwobrau'r Academi, Actor Gorau
2004 Happily Ever After L'inconnu
Finding Neverland Sir James Matthew Barrie Nomineiddwyd - Gwobrau'r Academi, Actor Gorau
Secret Window Mort Rainey
2005 The Libertine John Wilmot, 2nd Earl of Rochester
Charlie and the Chocolate Factory Willy Wonka
Corpse Bride Victor Van Dort
2006 Pirates of the Caribbean: Dead Man's Chest Captain Jack Sparrow
2007 Pirates of the Caribbean: At World's End Captain Jack Sparrow
Sweeney Todd: The Demon Barber of Fleet Street Sweeney Todd Gwobrau Golden Globe, Actor Gorau mewn Ffilm Gerdd neu Gomedi
Nomineiddwyd - Gwobrau'r Academi, Actor Gorau
2009 The Imaginarium of Doctor Parnassus Tony ôl gynhyrchu; cymryd rôl gwreiddiol Heath Ledger
Public Enemies John Dillinger ffilmio
Shantaram Lindsay cyn-gynhyrchu; hefyd Cyd-gyfarwyddwr
The Rum Diary Paul Kemp cyn-gynhyrchu; hefyd Cyfarwyddwr Gweithredol

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. The Johnny Depp Zone
  2.  Johnny Depp — Box Office Data Movie Star. The-numbers.com.
  3.  Erenza (14 Medi, 2011). Justin Bieber, Miranda Cosgrove, & Lady Gaga Are Welcomed Into 2012 Guinness World Records. RyanSeacrest.com.
  4. "Celebrity Central: Johnny Depp". People. Cyrchwyd June 19, 2012.
  5. The Genealogist, "Richard T. Oren Depp ( 1 879- 1 9 1 2); m. Effie America Palmore. 9th gen. Oren Larimore Depp; m. Violet Grinstead. 10th gen. John Christopher Depp; m. Betty Sue Wells. 1 1th gen John Christopher Depp II (Johnny Depp), b. 9 June 1963, Owensboro. Gweler Warder Harrison, "Screen Star, Johnny Depp, Has Many Relatives in Ky.," Kentucky Explorer (Jackson, Ky), Gorffennaf–Awst 1997, 38–39. 247 Barren Co."
  6. Nodyn:Dyf cylchgrawn
  7.  Gwall wrth ddefnyddio Nodyn:Dyf gwe: mae'r paramedrau url a teitl yn angenrheidiol.. YouTube.
  8.  Breznican (8 Mai, 2011). Johnny Depp on 'The Lone Ranger'.
  9. 9.0 9.1 9.2 9.3 9.4 Nodwyd ar Inside the Actors Studio, 2002
  10.  Hiscock (25 Mehefin, 2009). Johnny Depp interview for Public Enemies. The Daily Telegraph.
  11.  Self Injury: A Struggle. Famous Self-Injurers.
  12.  Sleaze Roxx. ROCK CITY ANGELS.


Baner Unol Daleithiau AmericaEicon person Eginyn erthygl sydd uchod am Americanwr neu Americanes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.