Alfred Onions
Alfred Onions | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd | 30 Hydref 1858 ![]() Telford ![]() |
Bu farw | 6 Gorffennaf 1921 ![]() Bedwellte ![]() |
Dinasyddiaeth | ![]() |
Galwedigaeth | gwleidydd, undebwr llafur ![]() |
Swydd | Aelod o 31ain Senedd y Deyrnas Unedig ![]() |
Plaid Wleidyddol | y Blaid Lafur ![]() |
Roedd Alfred Onions (30 Hydref 1858 – 5 Gorffennaf 1921) yn wleidydd Llafur ac yn Aelod Seneddol Caerffili[1]
Bywyd Personol
[golygu | golygu cod]Ganwyd Onions yn fab i Jabez Onions, mwynwr o bentref St George ger Telford, Swydd Amwythig, ac Ann Ellen Griffith ei wraig. Llygriad o'r enw Cymraeg Einion yw'r enw teuluol Onions. Cafodd addysg elfennol yn ysgol pentref St George.
Priododd Sarah Ann Dix ym 1887, roedd hi hefyd yn blentyn i fwynwr, bu iddynt dau fab.
Bu farw yn ei gartref ym Medwellte ym 1921
Gyrfa
[golygu | golygu cod]Wedi gadael yr ysgol yn 12 oed aeth i weithio fel mowldiwr mewn gwaith haearn yn Swydd Amwythig, rhywbryd yn y 1870au symudodd gyda'i dad a'i brodyr i ardal Hanley, Stoke on Trent a chael gwaith yn y pwll glo, symudodd o ganolbarth Lloegr i Risca lle cafodd swydd fel gwiriwr pwysau yng nglofa Abercarn.
Gyrfa Wleidyddol
[golygu | golygu cod]Etholwyd Onions yn is-lywydd Cynghrair Glowyr De Cymru a Mynwy ym 1888 [2] bu hefyd yn drysorydd y Ffederasiwn am sawl flwyddyn.
Cafodd ei ethol i fwrdd reoli Ysgol Mynyddislwyn ym 1887 a bwrdd reoli ysgol Bedwellte ym 1889. Bu yn aelod o Gyngor Dosbarth trefol Risca gan wasanaethu fel ei gadeirydd cyntaf, bu yn aelod o Gyngor Sir Fynwy o'i sefydlu ym 1888 gan wasanaethu fel ei gadeirydd ym 1918.
Cafodd ei ethol yn Aelod Seneddol Llafur Caerffili yn etholiad cyffredinol 1918 ond bu farw cyn diwedd ei dymor cyntaf fel AS. Ym 1919 aeth i Efrog Newydd fel un o gynrychiolwyr Llywodraeth Prydain i'r Confensiwn Llafur Rhyngwladol.
Roedd yn bregethwr lleyg yn yr Eglwys Fethodistaidd.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]Senedd y Deyrnas Unedig | ||
---|---|---|
Rhagflaenydd: etholaeth newydd |
Aelod Seneddol Caerffili 1918 – 1921 |
Olynydd: Morgan Jones |