Neidio i'r cynnwys

Aldi

Oddi ar Wicipedia
Aldi
Math
cadwyn o archfarchnadoedd
Diwydiantmanwerthu, Tŷ disgownt
Sefydlwyd1961
PencadlysEssen
Gwefanhttps://www.aldi.com/, https://www.aldi.dk/, https://www.aldi.es, https://store.aldi.com.au/, https://www.aldi.it/, https://aldi.de/ Edit this on Wikidata
2015

Mae Aldi yn archfarchnad sydd a'i gwreiddiau yn yr Almaen ac sydd â phresenoldeb bellach yn y rhan fwyaf o wledydd yr Undeb Ewropeaidd. Mae yna siopau Aldi hefyd yn Awstralia a'r Unol Daleithiau. Mae o leiaf un siop Aldi yn y mwyafrif o drefi a phentrefi'r Almaen. Mae tua 4,100 o siopau Aldi yn yr Almaen a thua 7,600 ledled y byd. Daw enw'r cwmni o lythrennau cyntaf y geiriau ALbrecht-DIskont (Disgownt Albrecht).

Prif fusnes y cwmni yw adwerthu bwyd ond mae hefyd yn gwerthu nwyddau eraill ar adegau.

Aldi'r De a'r Gogledd

Cafodd y cwmni ei sefydlu ym 1913 fel busnes groser teuluol yn Essengan Anna Albrech. Ym 1946 daeth y brodyr Karl Albrecht (1920 - 2014) a Theo Albrecht (1922 -2010) yn berchenogion y busnes trwy ei hetifeddu gan eu mam. Y brodyr Albrecht oedd y cyntaf i sefydlu siopau disgownt yn yr Almaen trwy gael ystod gyfyngedig o nwyddau yn eu siopau. Mae'r rhan fwyaf o'r nwyddau sy'n cael eu gwerthu yn y siopau yn rhai "brand eu hunain", ond yn wahanol i'r rhan fwyaf o archfarchnadoedd eraill dydy labeli'r nwyddau ddim yn ymddangos fel eu bod yn berchen i'r siop yn y modd y mae brandiau megis "Asda Smart Price" neu "Tesco Finest" yn gwneud; er enghraifft mae sglodion tatws Aldi yn cael eu gwerthu gyda'r enw Champion Chips[1] yng Nghymru a Lloegr, gan roi'r argraff eu bod yn sglodion brand annibynnol yn hytrach na brand y siop.

Ym 1960 bu anghydfod rhwng y brodyr parthed gwerthu sigarennau a chafodd y cwmni ei rannu'n ddwy, Aldi Nord (Aldi'r Gogledd) o dan reolaeth Theo, ac Aldi Sud (Aldi'r De) o dan reolaeth Karl.

Dosbarthiad Rhyngwladol

[golygu | golygu cod]
Gwlad Enw Grŵp Aldi Ers Allfeydd
 Almaen Aldi Nord 1946 2,400
Aldi Süd 1946 1,790[2]
 Awstralia Aldi Süd 2001 311[3]
 Awstria Hofer Süd 1968 430[2]
Baner Gwlad Belg Gwlad Belg Aldi Nord 1973 380
 Denmarc Aldi Nord 1977 244
 Ffrainc Aldi Nord 1988 680
 Hwngari Aldi Süd 2008 75 [4]
 Iwerddon Aldi Süd 1998 105
 Lwcsembwrg Aldi Nord 1990 12
Baner Yr Iseldiroedd Yr Iseldiroedd Aldi Nord 1975 406
 Gwlad Pwyl Aldi Nord 2008 72
 Portiwgal Aldi Nord 2006 36
Baner Slofenia Slofenia Hofer Süd 2005 71
 Sbaen Aldi Nord 2002 250 [5]
 Y Swistir Aldi Suisse Süd 2005 130[2]
 Y Deyrnas Unedig Aldi Süd 1989 500[6]
 Unol Daleithiau America Aldi Süd 1976 1,200[7]
Trader Joe's Nord 1979 399
cyfanswm nifer siopau Aldi Nord 4,805
cyfanswm nifer siopau Aldi Süd 4,430
cyfanswm cyfunol o siopau Aldi 9,235

Aldi ym Mhrydain Fawr

[golygu | golygu cod]

Agorodd Aldi ei siop gyntaf ym Mhrydain Fawr ym 1990 gan gynyddu'r nifer i 500 erbyn 2013, erbyn hyn mae gan y cwmni tua 4.7% o gyfran y farchnad ym Mhrydain. Er ddechrau fel siop rad mae'r cwmni bellach wedi dechrau agor siopau mewn lleoliadau cefnog megis Knutsford a Bury St Edmunds ac wedi gweld cynnydd sylweddol yn y nifer o'r bobl o ddosbarthiadau cymdeithasol AB sydd yn defnyddio'r siopau (tua 20% ym mis Orffennaf 2014) wedi newid ei stoc i ddarparu ar eu cyfer.[8]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. https://www.aldi.co.uk/en/product-range/frozen/chips/ Archifwyd 2014-08-04 yn y Peiriant Wayback adalwyd 8 Rhagfyr 2014
  2. 2.0 2.1 2.2 "Aldi Süd Facts and Figures". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2008-12-22. Cyrchwyd 2008-12-06. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)
  3. http://www.theaustralian.com.au/business/companies/aldi-goes-online-to-brew-a-new-battle/story-fn91v9q3-1226667829517
  4. Maarten Reul (24 Hydref 2011). "Aldi Hungary to open 40 new stores, chooses quality over price". RetailDetail. Cyrchwyd 9 Rhagfyr 2013.[dolen farw]
  5. "Aldi abrirá su tienda española número 250 en Cataluña y prevé más aperturas". Cinco Dias (yn Spanish). 7 Tachwedd 2011. Cyrchwyd 9 Rhagfyr 2013.CS1 maint: unrecognized language (link)
  6. http://www.telegraph.co.uk/foodanddrink/10412195/How-Aldi-won-the-class-war-and-became-the-fastest-growing-supermarket-in-Britain.html
  7. "Discount grocer opens North Bergen store" Archifwyd 2015-09-24 yn y Peiriant Wayback. The Hudson Reporter. 26 Mawrth 2013.
  8. "BBC News -Five ways Aldi cracked the supermarket business" adalwyd 8 Rhagfyr 2014