Alarch y Gogledd

Oddi ar Wicipedia
Alarch y Gogledd
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Animalia
Ffylwm: Chordata
Dosbarth: Aves
Urdd: Anseriformes
Teulu: Anatidae
Genws: Cygnus
Rhywogaeth: C. cygnus
Enw deuenwol
Cygnus cygnus
(Linnaeus, 1758)
Cygnus cygnus

Mae Alarch y Gogledd (Cygnus cygnus) yn aelod o'r teulu Anatidae (yr elyrch, gwyddau a hwyaid). Mae'n aderyn cyffredin trwy'r rhan fwyaf o Ewrop a rhannau gorllewinol o Asia.

Mae'n debyg iawn i Alarch Bewick, ond mae dipyn yn fwy, 140–160 cm o hyd a 205–235 cm ar draws yr adenydd. Mae'r darn melyn ar y pig yn fwy na'r darn melyn ar big Alarch Bewick, ac yn diweddu mewn pwynt.

Maent yn magu mewn tiroedd gwlyb yng ngogledd Ewrop ac Asia, ond ychydig mwy i'r de na Alarch Bewick. Maent yn paru am oes. Yn y gaeaf maent yn symud tua'r de, er enghraifft mae nifer fach o adar o Wlad yr Iâ yn gaeafu yng Nghymru a niferoedd mwy yn Iwerddon a Lloegr.

Enwau yn yr ieithoedd Celtaidd[golygu | golygu cod]

Dyma enw'r aderyn hwn mewn rhai o'r ieithoedd Celtaidd eraill:

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]