Agweddau Cristnogol i gaethwasiaeth

Oddi ar Wicipedia
Agweddau Cristnogol i gaethwasiaeth
Enghraifft o'r canlynolagwedd o hanes, perthynas Edit this on Wikidata
Mathreligious view Edit this on Wikidata
Bathodyn Y Gymdeithas Wrth Gaethwasiaeth

Mae agweddau Cristnogol i gaethwasiaeth yn amrywio yn rhanbarthol, yn hanesyddol ac yn ysbrydol. Mae caethwasiaeth ar sawl ffurf wedi bod yn rhan o'r amgylchedd cymdeithasol am lawer o hanes Cristnogaeth, yn rhychwantu ymhell dros ddeunaw canrif. Ym mlynyddoedd cynnar Cristnogaeth, roedd caethwasiaeth yn nodwedd sefydledig o'r economi a'r gymdeithas yn yr Ymerodraeth Rufeinig, a pharhaodd hyn mewn gwahanol ffurfiau a chyda gwahaniaethau rhanbarthol ymhell i'r Oesoedd Canol.[1] Disgrifiodd Saint Awstin gaethwasiaeth fel un yn erbyn bwriad Duw ac yn deillio o bechod.[2] Yn y 18g cymerodd y mudiad diddymu siâp ymhlith pobl Gristnogol ledled y byd.

Yn nadleuon y ddeunawfed a'r 19g yn y DU a'r UD, defnyddiwyd darnau yn y Beibl gan eiriolwyr o blaid gaethwasiaeth a diddymwyr i gefnogi eu priod safbwyntiau.

Yn y cyfnod modern, mae amryw o sefydliadau Cristnogol yn gwrthod caniatáu caethwasiaeth.[3]

Cyfeiriadau Beiblaidd[golygu | golygu cod]

Mae'r Beibl yn defnyddio'r term Hebraeg eved (עבד) a'r Hen Roeg doulos (δοῦλος) i gyfeirio at gaethweision. Mae gan Eved ystyr llawer ehangach na'r term Cymraeg caethwas, ac mewn llawer o amgylchiadau mae'n cael ei gyfieithu'n fwy cywir i'r Gymraeg fel gwas neu weithiwr wedi'i gyflogi.[4] Mae doulos yn fwy penodol, ond fe'i defnyddir hefyd mewn synhwyrau mwy cyffredinol; o'r proffwydi Hebraeg (Datguddiad 10:7), o agwedd arweinwyr Cristnogol tuag at y rhai y maent yn eu harwain (Mathew 20:27), Cristnogion tuag at Dduw (1 Pedr 2:16), ac Iesu ei hun (Phil 2:7). Dydy Beibl William Morgan (BMW) ddim yn defnyddio'r gair Caethwas na Beibl Saesneg y Brenin Iago (KJV) yn defnyddio'r gair Slave yn aml. Ceir 3 cyfeiriad at gaethwas yn BWM:

  • Dewteronomiwm 16:12 [5]
  • Dewteronomiwm 24:18 [6]
  • Dewteronomiwm 24:22 [7]

Pob un yn cyfeirio at gaethiwed yr Isreiliaid yn yr Aifft cyn i Moses eu harwain i Wlad yr Addewid. Gwas heb wahaniaethu rhwng caethwas a gwas cyflog sydd ymhob adnod arall sy'n cyfeirio at yr hyn, gellir tybio, sy'n cyfeirio at gaethwas.[8] Dim ond 2 ddefnydd o'r gair slave sydd yn y KJV. Mae 24 enghraifft o'r gair caethwas yn y Beibl Cymraeg Newydd [9] a 49 ar Beibl.Net [10]

Yr Hen Destament[golygu | golygu cod]

Yn hanesyddol, nid ffenomen yr Hen Destament yn unig oedd caethwasiaeth. Roedd caethwasiaeth yn cael ei ymarfer ymhob cymdeithas yr Hynfyd yn y Dwyrain Agos: yr Eifftwyr gynt, Babiloniaid, Groegwyr gynt, Rhufeinwyr ac Israeliaid, roedd hefyd yn cael ei arfer gan drigolion Cymru yn Oes yr Haearn.[11] Roedd caethwasiaeth yn rhan annatod o fasnach hynafol, trethiant, a chrefydd y deml.[12]

Bil gwerthiant am geithwas o Swmer

Yn llyfr Genesis, mae Noa yn condemnio Canaan (Mab Ham) i gaethwasanaeth gwastadol: ‘Melltigedig fyddo Canaan; gwas i weision ei frodyr fydd’ (Gen 9:25).[13] Mae T. David Curp yn nodi bod y bennod hon wedi cael ei defnyddio i gyfiawnhau caethwasiaeth hiliol, gan fod ‘Cristnogion a hyd yn oed rhai Mwslimiaid yn y pen draw wedi nodi disgynyddion Ham fel Affricaniaid du’.[14] Dadleuodd Anthony Pagden ‘Roedd y darlleniad hwn o Lyfr Genesis yn uno'n hawdd i draddodiad eiconograffig canoloesol lle'r oedd cythreuliaid bob amser yn cael eu darlunio fel pobl dduon. Byddai damcaniaethau ffug-wyddonol diweddarach yn cael eu hadeiladu o amgylch siapiau penglog Affricaniaid, strwythur deintyddol ac osgo'r corff, mewn ymgais i ddod o hyd i ddadl nad oedd ar gael - wedi'i gwreiddio ym mha bynnag beth oedd yr idiom gyfoes fwyaf perswadiol: deddf, diwinyddiaeth, achau, neu wyddoniaeth naturiol. - Pam y dylai un rhan o'r hil ddynol fyw mewn dyled barhaus i ran arall’.[15]

Ymsefydlodd y Cananeaid yng Canaan, yn hytrach nag Affrica, lle ymsefydlodd meibion eraill Ham, Cush a Put. Dim ond i Ganaan yr oedd melltith Noa yn berthnasol, ac yn ôl y sylwebydd Beiblaidd, Gleason L. Archer, cyflawnwyd y felltith hon pan orchfygodd Josua Canaan yn 1400 CC.[12] Er bod cryn amheuaeth ynghylch natur a maint y goncwest a ddisgrifir ym mhenodau cynnar Llyfr Josua, roedd y stori ôl-lifogydd yn darparu rhesymeg dros ddarostwng y Cananeaid. Mae'n bosibl bod enwi 'Canaan' yn y stori ôl-lifogydd ynddo'i hun yn adlewyrchiad o sefyllfa rhyfela rhwng pobl yn yr amser pan ddaeth ffurf ysgrifenedig y stori i fodolaeth.

Cafodd rhai mathau o gaethwasanaeth, a oedd yn cael eu harfer yn yr Henfyd, eu cydoddef gan y Tora. Roedd deddfwriaeth Hebreig yn:

  • cynnal hawliau carennydd (Ecsodus 21: 3, 9, Lefiticus 25:41, 47-49, 54, yn darparu ar gyfer gweision dan rhwymedigaeth Hebreig),
  • hawliau priodas (Ecsodus 21: 4, 10–11, yn darparu ar gyfer gwerthu merch Hebreig i gaethwasanaeth fel rhan o gontract priodas),
  • hawliau cyfreithiol personol yn ymwneud ag amddiffyniad corfforol ac amddiffyniad rhag torri ymddygiad
  • darparu ar gyfer gweision Hebreig neu dramor o unrhyw fath, (Ecsodus 21: 20-21, 26–27)
  • darparu ar gyfer gweision Hebreig dan rwymedigaeth, rhyddid i symud, a mynediad at ryddid.(Lefiticus 25: 39-41)

Byddai Hebreaid yn cael eu cosbi pe byddent yn curo caethwas gan achosi marwolaeth cyn diwrnod neu ddau,[16] Byddai'n rhaid iddynt adael i gaethwas fynd yn rhydd pe byddent yn niweidio llygad neu ddant y caethwas,[17] Nid oeddynt yn cael gorfodi caethwas i weithio ar y Sabath,[18] Nid oeddynt yn cael dychwelyd caethwas oedd wedi dianc gan geisio lloches ymhlith yr Israeliaid,[19] nac athrodi caethwas.[20] Roedd yn gyffredin i berson werthu ei hun yn wirfoddol i gaethwasiaeth am gyfnod penodol o amser naill ai i dalu dyledion neu i gael bwyd a lloches.[21] Ystyriwyd ei bod yn gyfreithlon caethiwo caethion a gafwyd trwy ryfela,[22] ond nid trwy herwgipio [23] er mwyn eu caethiwo. Gellid hefyd gwerthu plant i gaethiwed dyled, a orchmynnwyd weithiau gan lys barn.[4][24] Mae'r Beibl yn gosod rheolau sylfaenol ar gyfer yr amodau yr oedd caethweision i'w cadw oddi tanynt. Roedd caethweision i gael eu trin fel rhan o deulu estynedig;[25] caniatawyd iddynt ddathlu gŵyl Sukkot, ac roedd disgwyl iddynt anrhydeddu'r Sabath.[26] Ni ellid gorfodi caethweision Israel i weithio yn galed,[27][28] ac roedd yn rhaid trin dyledwyr a oedd yn gwerthu eu hunain fel caethweision i'w credydwyr yr un fath â gwas wedi'i logi.[21]

Beibl William Morgan

Rhyddhawyd caethweision Israel yn awtomatig ar ôl chwe blynedd o waith, a / neu yn y jiwbilî nesaf (yn digwydd naill ai bob 49 neu bob 50 mlynedd, yn dibynnu ar y dehongliad), er na fyddai'r rheol yma'n berthnasol pe bai caethwas yn Israeliaid neu yn Israeliaid mewn caethiwed dyled.[29] Byddai caethweision yn cael eu rhyddhau yn awtomatig yn eu 7fed flwyddyn o wasanaeth. Nid oedd y ddarpariaeth hon yn cynnwys menywod a werthwyd fel gwraig ordderch gan rieni tlawd; yn lle hynny amddiffynnwyd eu hawliau yn erbyn gwraig arall.[30][31][32] Mewn testunau eraill mae caethweision gwrywaidd a benywaidd i gael eu rhyddhau ar ôl y chweched flwyddyn o wasanaeth.[33] Byddai caethweision rhydd yn cael da byw, grawn a gwin fel anrheg ar adeg eu rhyddhau.[34] Gallasai caethwas ymwrthod â'i hawl i ryddid ar ôl 7 mlynedd yn wirfoddol. Pe bai caethwas gwrywaidd wedi cael caethwas arall mewn priodas, a bod ganddyn nhw deulu, byddai'r wraig a'r plant yn parhau i fod yn eiddo i'r meistr. Fodd bynnag, pe bai'r caethwas yn hapus gyda'i feistr, ac yn dymuno aros gyda gwraig a roddodd ei pherchennog iddo, gallai ymwrthod cael ei ryddhau, gweithred a fyddai'n cael ei harwyddo, fel mewn cenhedloedd Hynafol y Dwyrain Agos,[35] gan tyllu clust defodol.[36] Ar ôl iddo ymwrthod a'i hawl i ryddid, daeth yr unigolyn yn gaethwas i'w feistr am byth (ac felly ni chaiff ei ryddhau yn y Jiwbilî).[8] Mae'n bwysig nodi bod y rhain yn ddarpariaethau ar gyfer caethwasiaeth / gwasanaeth ymhlith Israeliaid. Gellid caethiwo caethweision nad oeddynt yn Israeliaid am gyfnod amhenodol ac roeddent i'w trin fel eiddo etifeddol.[37]

Y Testament Newydd[golygu | golygu cod]

Honnir bod Cristnogion cynnar yn ystyried caethweision a drodd i Gristnogaeth yn ddynion rhydd yn ysbrydol, yn frodyr yng Nghrist, yn derbyn yr un gyfran o etifeddiaeth teyrnas Crist.[12] Fodd bynnag, mae'n debyg nad oedd gan y parch hwn unrhyw bŵer cyfreithiol. Dywedwyd wrth y caethweision hyn hefyd i ufuddhau i'w meistri ‘gydag ofn a dychryn, yn symlrwydd eich calon, megis i Grist’ (Effesiaid 6: 5). Cymhwysodd Pawl yr Apostol yr un canllawiau i feistri yn Effesiaid 6: 9: "A chwithau feistriaid, gwnewch yr un pethau tuag atynt hwy, gan roddi bygwth heibio: gan wybod fod eich Arglwydd chwi a hwythau yn y nefoedd; ac nid oes derbyn wyneb gydag ef. " [38] Serch hynny, roedd adnodau fel Effesiaid 6: 5 yn dal i gael eu defnyddio gan amddiffynwyr caethwasiaeth cyn Rhyfel Cartref America. Anogwyd caethweision gan Pawl yn yr Epistol Cyntaf at y Corinthiaid i geisio neu brynu eu rhyddid pryd bynnag y bo hynny'n bosibl (1 Corinthiaid 7:21).

Dywedodd Avery Robert Dulles nad oedd “Iesu, er ei fod yn condemnio pechod dro ar ôl tro fel math o gaethwasiaeth foesol, dim yn dweud gair yn erbyn caethwasiaeth fel sefydliad cymdeithasol”, ac yn credu nad oedd ysgrifenwyr y Testament Newydd yn gwrthwynebu caethwasiaeth chwaith.[39] Mewn papur a gyhoeddwyd yn yr Evangelical Quarterly, noda Kevin Giles, er ei fod yn aml yn dod ar draws yr honiad, "nad oes un gair o feirniadaeth yn cael ei draddodi gan yr Arglwydd yn erbyn caethwasiaeth"; ar ben hynny mae nifer o'i straeon wedi'u gosod mewn sefyllfa caethweision / meistr, ac yn cynnwys caethweision fel cymeriadau allweddol. Mae Giles yn nodi bod yr amgylchiadau hyn wedi cael eu defnyddio gan amddiffynwyr gaethwasiaeth yn y 19eg ganrif i awgrymu bod Iesu wedi cymeradwyo caethwasiaeth.[40]

Mae'n amlwg o holl ddeunydd y Testament Newydd fod caethwasiaeth yn rhan sylfaenol o'r amgylchedd cymdeithasol ac economaidd. Roedd llawer o'r Cristnogion cynnar yn gaethweision. Mewn sawl un o epistolau Pawl, ac Epistol Cyntaf Pedr, annogir caethweision i ufuddhau i'w meistri, fel i'r Arglwydd, ac nid i ddynion.[41][42][43][44][45] Dywedwyd wrth feistri hefyd am wasanaethu eu caethweision mewn ufudd-dod i Dduw trwy "roi'r gorau i fygwth". Yr egwyddor sylfaenol oedd "mae gennych chi'r un Meistr yn y nefoedd, a gydag ef does dim gwahaniaeth rhyngoch." [38] Roedd Pedr yn ymwybodol bod yna feistri a oedd yn dyner a meistri a oedd yn llym; roedd caethweision yn y sefyllfa olaf i wneud yn siŵr bod eu hymddygiad y tu hwnt i waradwydd, ac os cânt eu cosbi am wneud yr hyn sy'n gyfiawn, i ddioddef y dioddefaint fel y bu Crist yn ddioddef.[46] Y testun diwinyddol allweddol yw datganiad Pawl yn ei lythyr at eglwysi'r Galatiaid "Nid oes nac Iddew na Groegwr, nid oes na chaeth na rhydd, nid oes na gwryw na benyw: canys chwi oll un ydych yng Nghrist Iesu",[47] awgryma hyn na ddylai Cristnogion poeni am eu safle bydol oherwydd eu bod bellach yn gyfartal yng Nghrist.[48]

St Pawl, Onesimus a Philemon

Roedd Epistol Pawl at Philemon yn destun pwysig i eiriolwyr o blaid caethwasiaeth a diddymwyr.[49] Yn y llythyr byr hwn, a ysgrifennwyd, yn ôl traddodiad, i'w gyflwyno gan law Onesimus, caethwas ar ffo, y mae Pawl yn ei anfon yn ôl at ei feistr Philemon. Mae Pawl yn erfyn ar Philemon i ystyried Onesimus fel brawd annwyl yng Nghrist.[50] Mae'r Cardinal Dulles yn tynnu sylw, "er ei fod yn awgrymu yn ddisylw ei fod yn rhyddhau Onesimus, nid yw Pawl yn dweud bod rheidrwydd moesol ar Philemon i ryddhau Onesimus nac unrhyw gaethweision eraill sydd yn eiddo iddo." [39] Fodd bynnag, mae'n annog Philemon i groesawu Onesimus "nid fel caethwas, ond fel mwy na chaethwas, fel brawd annwyl".[50] (Yn ôl y traddodiad, rhyddhaodd Philemon Onesimus am ddim, ac yn y pen draw cafodd y ddau eu cydnabod fel seintiau gan yr Eglwys.) Yr hyn sydd ddim yn cael ei nodi yn y ddadl oedd sefyllfa Onesimus, pe na bai wedi dychwelyd: ffoadur rhag y gyfraith gydag opsiynau cyfyngedig i gynnal ei hun, ac mewn ofn cyson o gael ei ddarganfod a'i gosbi. Boed hynny fel y mae, fel y mae T. David Curp yn sylwi, "O ystyried bod yr Eglwys wedi derbyn Philemon fel rhan o'r Ysgrythur Lân, roedd amwysedd Pawl i bob pwrpas yn rhwystro Tadau cynnar yr Eglwys rhag ymwrthod yn llwyr a chaethwasiaeth."

Mae cyfarwyddiadau Pawl i gaethweision yn ei epistol i Titus, megis yn ei lythyr i'r Effesiaid, yn cynnwys rhestr o gyfarwyddiadau i bobl mewn ystod o sefyllfaoedd bywyd. Mae defnyddioldeb cefnogwyr gaethwasiaeth y 19eg ganrif o'r hyn y mae Pawl yn ei ddweud yma yn amlwg: ‘Cynghora weision i fod yn ddarostyngedig i’w meistriaid eu hun, ac i ryngu bodd iddynt ymhob peth; nid yn gwrthddywedyd; Nid yn darnguddio, ond yn dangos pob ffyddlondeb da; fel yr harddont athrawiaeth Duw ein Hiachawdwr ym mhob peth.’ [51]

Mae Pawl yn cynghori ‘megis y darfu i’r Arglwydd alw pob un, felly rhodied’. Ar gyfer caethweision, fodd bynnag, mae'n ychwanegu hyn yn benodol: ‘Ai yn was y’th alwyd? na fydded gwaeth gennyt; eto os gelli gael bod yn rhydd, mwynha hynny yn hytrach. Canys yr hwn, ac ef yn was, a alwyd yn yr Arglwydd, gŵr rhydd i’r Arglwydd ydyw: a’r un ffunud yr hwn, ac efe yn ŵr rhydd, a alwyd, gwas i Grist yw’.[52]

Yn yr Ymerodraeth Rufeinig[golygu | golygu cod]

Caethwasiaeth oedd sylfaen yr economi Rufeinig a'r byd. Mae rhai yn amcangyfrif bod y boblogaeth gaeth yn y ganrif 1af yn cyfrif am oddeutu traean o gyfanswm y boblogaeth.[53] Amcangyfrifir bod miliwn o gaethweision yn eiddo i'r pump y cant cyfoethogaf o ddinasyddion Rhufeinig. Roedd y mwyafrif o gaethweision yn cael eu gweithio mewn gwasanaeth domestig mewn cartrefi ac yn debygol o gael bywyd haws na chaethweision a oedd yn gweithio'r tir, neu mewn mwynfeydd neu ar longau. Gallai caethwasiaeth fod yn greulon iawn yn yr Ymerodraeth Rufeinig, gyda chosbau difrifol am wrthryfela, a chyflogwyd dalwyr caethweision proffesiynol i hela caethion ar ffo, gyda hysbysebion yn cynnwys disgrifiadau manwl cywir o ffoadur yn cael eu postio'n gyhoeddus ac yn cynnig gwobrau am wybodaeth byddai'n arwain at eu dal.[54]

Barn Cristnogaeth[golygu | golygu cod]

Roedd meddwl Cristnogol cynnar yn arddangos rhai arwyddion o garedigrwydd tuag at gaethweision. Roedd Cristnogaeth yn cydnabod priodas o fath ymhlith caethweision,[55] roedd rhyddhau caethweision yn cael eu hystyried yn weithred elusennol,[56] a phan gladdwyd caethweision mewn mynwentydd Cristnogol, anaml yr oedd y bedd yn cynnwys unrhyw arwydd bod y person a gladdwyd yn gaethwas.  

Ioan Aurenau

Dywedodd Ioan Aurenau (c. 347–407), archesgob Caergystennin, mewn pregethu ar Actau 4:32-4:33 [57] o’r enw, “Oni ddylem ei gwneud yn nefoedd ar y ddaear?”, Ni fyddaf yn siarad am gaethweision, oherwydd ar y pryd nid oedd y fath beth, ond yn ddiau fel y caethweision yr oeddent yn eu gosod yn rhydd...  

Er bod y Pumlyfr Iddewig yn amddiffyn caethweision ar ffo,[19] roedd yr eglwys Gatholig Rufeinig yn aml yn condemnio caethweision a ffodd oddi wrth eu meistri, ac yn gwrthod cymun iddynt.[58]

Ers yr Oesoedd Canol, mae'r ddealltwriaeth Gristnogol o gaethwasiaeth wedi gweld gwrthdaro mewnol sylweddol ac wedi sicrhau newid dramatig. Un enghraifft nodedig lle cefnogwyd gweithgareddau cenhadaeth eglwysig yn y Caribî yn uniongyrchol gan elw perchnogaeth caethweision oedd dan delerau cymynrodd elusennol ym 1710 i'r Gymdeithas Taenu'r Efengyl mewn Rhannau Tramor. Rhoddwyd Planhigfeydd Codrington yn Barbados i'r Gymdeithas i ariannu sefydlu Coleg Codrington. Yn ystod degawd cyntaf perchnogaeth, cafodd cannoedd o gaethweision yn yr ystadau planhigfa eu brandio ar eu brestiau, gan ddefnyddio'r haearn poeth coch traddodiadol, gyda'r gair Society, i ddynodi eu perchnogaeth gan y sefydliad Cristnogol. Daeth perchnogaeth caethweision ym Mhlanhigfeydd Codrington i ben ym 1833, pan ddiddymwyd caethwasiaeth yn yr Ymerodraeth Brydeinig. Ers hynny mae Eglwys Loegr wedi ymddiheuro am "bechadurusrwydd ein rhagflaenwyr" gyda hanes yr ystadau planhigfa hyn wedi'u hamlygu fel enghraifft o agwedd anghyson yr eglwys tuag at gaethwasiaeth.[59][60]

Bu Cymru Cristionogol yn amlwg yn eu cefnogaeth o gaethwasiaeth. Un o'r resymau dros ymfudo i America yn y dyddiau cynnar oedd i osgoi erledigaeth crefyddol cartref. Bu nifer fawr o'r ymfudwyr crefyddol Cymreig a'u disgynyddion yn cadw caethion

Gan mai cymryd enwau eu perchnogion a wnâi caethweision, mae’r amcangyfrif fod gan 15% o ddinasyddion croenddu Unol Daleithiau America enwau Cymreig yn awgrymu mai Cymry oedd

llawer o berchnogion eu hynafiaid.[61]

Heddiw, mae bron pob Cristion yn unedig yn y condemniad o gaethwasiaeth fodern fel rhywbeth anghywir ac yn groes i ewyllys Duw.

Diddymiaeth Gristnogol[golygu | golygu cod]

Serio caethweision

Er bod rhai diddymwyr yn gwrthwynebu caethwasiaeth am resymau athronyddol yn unig, denodd symudiadau yn erbyn caethwasiaeth elfennau crefyddol cryf. Ledled Ewrop a'r Unol Daleithiau, roedd Cristnogion, fel arfer o fudiadau ffydd Gristnogol 'an-sefydliadol', nad oeddynt wedi'u cysylltu'n uniongyrchol ag eglwysi gwladol traddodiadol, neu gredinwyr ‘anghydffurfiol’ o fewn eglwysi sefydledig, i'w cael ar flaen y mudiadau diddymu.[62][63][64]

Yn benodol, arweiniodd effeithiau’r Ail Ddeffroad Mawr at lawer o efengylwyr yn gweithio i weld y farn Gristnogol ddamcaniaethol, bod pawb yn gyfartal, yn cael eu gwneud yn fwy o realiti ymarferol. Fe wnaeth rhyddid mynegiant o fewn y byd Gorllewinol hefyd helpu i alluogi cyfle i fynegi eu safle. Yn amlwg ymhlith y diddymwyr hyn oedd y Seneddwr William Wilberforce yn Lloegr, a ysgrifennodd yn ei ddyddiadur pan oedd yn 28 oed, ‘Mae Hollalluog Dduw wedi gosod dau wrthrych mawr ger fy mron, atal y Fasnach Gaethweision a Diwygiad Moesau’.[65] Gydag eraill, llafuriodd, er gwaethaf gwrthwynebiad penderfynol, i ddileu masnach gaethweision Prydain o'r diwedd. ‘Llosgwyd rhai o bregethau'r pregethwr enwog o Loegr, Charles Spurgeon, yn America oherwydd iddo gondemnio caethwasiaeth. Galwodd Spurgeon gaethwasiaeth “y staen mwyaf ffiaidd” y byddai galw o bosibl am ei olchi allan mewn gwaed.’[66] Galwodd sylfaenydd y Methodistiaid John Wesley gaethiwed dynol fel ‘swm yr holl ddihirod’.[67] Yn Georgia, unodd Methodistiaid cyntefig â brodyr mewn mannau eraill wrth gondemnio caethwasiaeth. Fe wnaeth llawer o arweinwyr efengylaidd yn yr Unol Daleithiau fel y Presbyteriaid Charles Finney a Theodore Weld, a menywod fel Harriet Beecher Stowe (merch y diddymwr Lyman Beecher) a Sojourner Truth ysgogi pobl i gefnogi diddymu. Pregethodd Finney fod caethwasiaeth yn bechod moesol, ac felly cefnogodd ei ddileu. ‘Roeddwn wedi gwneud fy meddwl ar gwestiwn caethwasiaeth, ac roeddwn yn hynod bryderus i ennyn sylw'r cyhoedd at y pwnc. Yn fy ngweddïau a'm pregethu, cyfeiriais mor aml at gaethwasiaeth, a'i wadu’.[68] Roedd angen edifeirwch oddi wrth gaethwasiaeth gan eneidiau, unwaith iddynt ddyfod yn oleuedig ar y pwnc, tra bod cefnogaeth barhaus i'r system yn arwain at ‘yr euogrwydd mwyaf’ arnynt.[69]

Roedd y Crynwyr yn arbennig yn arweinwyr cynnar dros achos diddymu caethwasiaeth. Ym 1688 anfonodd Crynwyr yr Iseldiroedd yn Germantown, Pennsylvania, ddeiseb wrth gaethwasiaeth i Gyfarfod Misol y Crynwyr. Erbyn 1727 roedd Crynwyr Prydain wedi mynegi eu hanghymeradwyaeth swyddogol o'r fasnach gaethweision.[70] Neilltuodd tri o ddiddymwyr y Crynwyr, Benjamin Lay, John Woolman, ac Anthony Benezet, eu bywydau i'r ymdrech ddiddymol o'r 1730au i'r 1760au, gyda Lay yn sefydlu'r Ysgol Negro ym 1770, a fyddai'n gwasanaethu mwy na 250 o ddisgyblion.[71] Ym mis Mehefin 1783 cyflwynwyd deiseb o Gyfarfod Blynyddol Llundain a'i llofnodi gan dros 300 o Grynwyr i'r Senedd yn protestio'r fasnach gaethweision.[72]

William Wilberforce

Yn 1787 ffurfiwyd y Gymdeithas er Effeithio Diddymu'r Fasnach Gaethweision, gyda Chrynwyr yn 9 o'r 12 aelod gwreiddiol. Yn ystod yr un flwyddyn, perswadiwyd William Wilberforce i dderbyn eu hachos. Fel AS, llwyddodd Wilberforce i gyflwyno bil i ddiddymu'r fasnach gaethweision. Ceisiodd Wilberforce ddileu'r fasnach yn gyntaf ym 1791, ond ni allai ond crynhoi hanner y pleidleisiau angenrheidiol; fodd bynnag, ar ôl trosglwyddo ei gefnogaeth i'r Chwigiaid, daeth yn fater etholiad. Roedd pwysau'r diddymwyr wedi newid y farn boblogaidd, ac yn etholiad 1806 etholwyd digon o ddiddymwyr i'r senedd er mwyn i Wilberforce cael pasio'r Ddeddf Masnach Caethweision 1807. Yn dilyn hynny, datganodd y Llynges Frenhinol fod y fasnach gaethweision yn hafal i fôr-ladrad. Bu Sgwadron Gorllewin Affrica yn cipio llongau oedd yn ymwneud â throsglwyddo caethweision a rhyddhau'r caethweision ar ei bwrdd, gan ddistrywio'r fasnach drawsatlantig i bob pwrpas. Trwy ymdrechion diddymol, parhaodd barn boblogaidd i gynyddu yn erbyn caethwasiaeth, ac ym 1833 gwaharddwyd caethwasiaeth ledled yr Ymerodraeth Brydeinig - a oedd ar yr adeg honno yn cynnwys tua 1/6 o boblogaeth y byd.

Daeth datganiadau Catholig Rhufeinig yn fwyfwy yn erbyn caethwasiaeth yn ystod yr oes hon. Yn 1741 condemniodd y Pab Bened XIV gaethwasiaeth yn gyffredinol. Yn 1815 mynnodd y Pab Piws VII i Gyngres Fienna atal y fasnach gaethweision. Yn ei fwla i ganoneiddio Peter Claver, un o wrthwynebwyr mwyaf amlwg caethwasiaeth, galwodd y Pab Piws IX y masnachwyr caethweision yn ‘ddihirod goruchaf’ (summum nefas) ;

Ym 1839 condemniodd y Pab Grigor XVI y fasnach gaethweision yn In supremo apostolatus;[73] ac ym 1888 condemniodd y Pab Leo XIII gaethwasiaeth yn In plurimis.[74]

Ymestynnodd yr ymdrechion Catholig i America. Cefnogodd arweinydd Catholig y Gwyddelod yn Iwerddon, Daniel O'Connell, ddileu caethwasiaeth yn yr Ymerodraeth Brydeinig ac yn America. Gyda’r diddymwr du Charles Lenox Remond, a’r offeiriad dirwestol Theobold Mathew, trefnodd ddeiseb gyda 60,000 o lofnodion yn annog Gwyddelod yr Unol Daleithiau i gefnogi diddymu. Siaradodd O'Connell hefyd yn yr Unol Daleithiau am ddiddymu.

Gwrthwynebiad i ddiddymiaeth[golygu | golygu cod]

George Whitefield

Mae darnau yn y Beibl am ddefnyddio a rheoleiddio caethwasiaeth wedi cael eu defnyddio trwy gydol hanes fel cyfiawnhad dros feddiant caethweision, ac fel arweiniad ar sut y dylid ei wneud. Felly, pan gynigiwyd diddymu, siaradodd rhai Cristnogion yn selog yn ei erbyn, gan nodi bod y Beibl yn derbyn caethwasiaeth fel 'prawf' ei fod yn rhan o'r cyflwr arferol. Ymgyrchodd George Whitefield, sy'n enwog am ei gychwyn yr Diwygiad Efengylaidd yn America, i gyfreithloni caethwasiaeth yn Nhalaith Georgia.[75][76] Wrth wneud hynny, ymunodd â'r caethfeistri yr oedd wedi'u gwadu yn ei flynyddoedd cynharach pan roedd wedi haeru fod gan caethweision eneidiau ac wedi gwrthwynebu cam-drin a pherchnogion a oedd yn gwrthwynebu ei efengylu o gaethweision. Roedd caethwasiaeth wedi diddymu yn Georgia eisoes, ond cafodd ei gyfreithloni ym 1751 oherwydd ymdrechion Whitefield i raddau. Prynodd gaethweision Affricanaidd i weithio ar ei blanhigfa ac yn y cartref i blant amddifaid a sefydlodd yn Georgia. Etifeddodd Selina Hastings, Iarlles Huntingdon y cyfrifoldeb am y cartref wedi marwolaeth Whitefield, gan gynnwys y cyfrifoldeb dros y caethweision. Ysgrifennodd William Williams, Pantycelyn emynau ar gais Arglwyddes Huntingdon i'w defnyddio yn y cartref i blant amddifaid, ond ni olygai hynny fod Williams yn cymeradwyo caethwasiaeth. Ef oedd y cyntaf i gondemnio'r gaethfasnach mewn print yn y Gymraeg, yn ei gyfrol Pantheologia yn 1762, ac ef hefyd oedd y cyntaf i gyfieithu 'slave narrative' i'r Gymraeg yn 1779, gwaith a aeth yn fuan i ail argraffiad ac a fraenarodd y tir ar gyfer yr ymgyrchu mawr dros ddileu caethwasiaeth a gododd yn y 1780au. Dadl Williams yn 1762 yn erbyn y gaethfasnach oedd bod dynion duon o'r 'un rywogaeth' a dynion gwynion, a chan fod 'y grefydd Gristnogol yn gorchymyn i bawb i wneuthur fel y dymunent i eraill wneuthur iddynt hwy', y dylid eu trin 'fel dynion ag sydd a'r un Duw ac a'r un Crist wedi marw drostynt'.[77]

Yn Ewrop a'r Unol Daleithiau aeth rhai Cristnogion ymhellach, gan ddadlau bod caethwasiaeth wedi'i chyfiawnhau gan eiriau ac athrawiaethau'r Beibl.

Sefydlwyd [caethwasiaeth] trwy ordinhad Hollalluog Dduw ... fe'i cymeradwyir yn y Beibl, yn y ddau Destament, o Genesis i'r Datguddiad ... mae wedi bodoli ymhob oes, fe'i canfuwyd ymhlith pobl y gwareiddiad uchaf ac mewn cenhedloedd o'r hyfedredd uchaf yn y celfyddydau.

Jefferson Davis, Arlywydd, Taleithiau Cydffederal America[78]

... mae'r hawl i wneud meistr ar gaethweision wedi'i sefydlu'n glir yn yr Ysgrythur Lân, trwy argymhelliad ac esiampl.

— Richard Furman, Llywydd, Cynhadledd Bedyddwyr De Carolina[79][80]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

Lle bo cyfeiriad yn destun Beiblaidd, bydd dilyn y cysylltiad yn mynd at yr argraffiad o 'Feibl William Morgan' gan y Gymdeithas Feiblaidd Frytanaidd a Thramor, 1992 ar wefan Bible Gateway. Am destun mwy cyfoes gellir chwilio am yr un adnodau ar dudalen chwilio Beibl Net
  1. Gálvez, Francisco J. González. "Church and Slavery in the Middle Ages". Academia. https://www.academia.edu/1994177/Church_and_Slavery_in_the_Middle_Ages. Adalwyd 2020-06-13.
  2. Awstin o Hippo. ""Pennod 15 - Of the Liberty Proper to Man's Nature, and the Servitude Introduced by Sin—A Servitude in Which the Man Whose Will is Wicked is the Slave of His Own Lust, Though He is Free So Far as Regards Other Men." in City of God (Book 19)". New Advent. Cyrchwyd 12 Mehefin 2020. Nid oedd Duw... yn bwriadu y dylai Ei greadur rhesymegol, a gafodd ei wneud ar ei ddelw, gael goruchafiaeth ar unrhyw beth ond y greadigaeth afresymol - nid dyn dros ddyn, ond dyn dros y bwystfilod... mae cyflwr caethwasiaeth yn ganlyniad pechod... Mae'n [caethwas] yn enw.. a gyflwynwyd gan bechod ac nid yn ôl natur... ni allai amgylchiadau [lle gallai dynion ddod yn gaethweision] fod wedi codi erioed [h.y. heblaw] trwy bechod... Prif achos, felly, caethwasiaeth yw pechod, sy'n dod â dyn dan oruchafiaeth ei gyd-ddyn [pechadurus]... Ond yn ôl natur, fel y creodd Duw ni gyntaf, nid neb yn gaethwas chwaith o ddyn neu o bechod.
  3. "PIGION -Cyfarfod Corff Llywodraethol yr Eglwys yng Nghymru, ym Mhrifysgol Abertawe, Campws y Bae, ar 11-12 Medi 2019" (PDF). Yr Eglwys yng Nghymru. 11 Medi 2019. Cyrchwyd 12 Mehefin 2020. Mae gan eglwysi rwymedigaeth foesol i daclo caethwasiaeth a masnachu pobl, medd arbenigwr blaenllaw y DU ar atal caethwasiaeth yn ei araith gerbron y Corff Llywodraethol.
  4. 4.0 4.1 "SLAVES AND SLAVERY - JewishEncyclopedia.com". www.jewishencyclopedia.com. Cyrchwyd 2020-06-12.
  5. Deuteronomium 16:12
  6. Deuteronomium 16:12
  7. Deuteronomium 24:22
  8. 8.0 8.1 Charles, Thomas; Geiriadur Ysgrythawl; Erthygl: Gwasanaeth-u-ferch-wr; Cyfrol 2, Y Bala 1808 adalwyd 13 Mehefin 2020
  9. Y Beibl Cymraeg Newydd. Swindon: Cymdeithas y Beibl. 2004. ISBN 0-564-09925-2. OCLC 60963582.
  10. "beibl.net". www.beibl.net. Cyrchwyd 2020-06-13.
  11. ""Traed Mewn Cyffion": Cymru a Chaethwasiaeth". Amgueddfa Genedlaethol Cymru. Cyrchwyd 2020-06-12.
  12. 12.0 12.1 12.2 Archer (1982), Encyclopedia of Bible Difficulties, tud. 86-87
  13. Evans-Jones, Gareth Hugh; Y dadleuon Beiblaidd ynghylch caethwasiaeth ar dudalennau gwasg gyfnodol Gymraeg America. Traethawd PhD; Ysgol Athroniaeth a Chrefydd / Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Bangor, 2017 adalwyd 13 Mehefin 2020
  14. Curp, T. David. "A Necessary Bondage? When the Church Endorsed Slavery".
  15. Pagden, Anthony (1997-12-22). "The Slave Trade, Review of Hugh Thomas' Story of the Atlantic Slave Trade". The New Republic.
  16. Exodus 21:20-21
  17. Exodus 21:26-27
  18. Exodus 23:12
  19. 19.0 19.1 Deuteronomium 23:15-16
  20. Diarhebion 30:10
  21. 21.0 21.1 Lefiticus 25:39
  22. Deuteronomium 20:10-16
  23. Deuteronomium 24:7
  24. 2 Brenhinoedd 4:1-7
  25. Deuteronomium 16:14
  26. Exodus 20:10
  27. Lefiticus 25:43
  28. Lefiticus25:53
  29. Lefiticus 25:47-55
  30. Exodus 21:7
  31. "LAW, CODIFICATION OF - JewishEncyclopedia.com". www.jewishencyclopedia.com. Cyrchwyd 2020-06-12.
  32. Peake's commentary on the Bible (1962), on Exodus 21:2-11
  33. Deuteronomium 15:12
  34. Deuteronomium 15:13-14
  35. Thomas Kelly Cheyne a John Sutherland Black, Encyclopaedia Biblica (1903), Slavery (ar Internet Archive) adalwyd 12 Mehefin 2020
  36. Exodus 21:5-6
  37. Lefiticus 25:44-46
  38. 38.0 38.1 Effesiaid 6:9
  39. 39.0 39.1 Cardinal Dulles, Avery. "Development or Reversal?". First Things. http://www.firstthings.com/article/2007/01/development-or-reversal-37.
  40. Giles, Kevin. "The Biblical Argument for Slavery: Can the Bible Mislead? A Case Study in Hermeneutics." Evangelical Quarterly 66 (1994): t. 10
  41. Effesiaid 6:5-8
  42. Colosiaid 3:22-25
  43. 1 Timotheus 6:1
  44. Titus 2:9-10
  45. 1 Pedr 2:18
  46. 1 Pedr 2:18-25
  47. Galatiaid 3:28
  48. Galatiaid 3:27
  49. Religion and the Antebellum Debate Over Slavery, by John R. McKivigan, Mitchell Snay
  50. 50.0 50.1 Philemon 1:1-25
  51. Titus 2:9-10
  52. 1 Corinthiaid 7:21-22
  53. "ancient Rome | Facts, Maps, & History". Encyclopedia Britannica. Cyrchwyd 2020-06-12.
  54. Resisting Slavery in Ancient Rome; Yr Athro Keith Bradle
  55. Goodell, The American Slave Code. Pt. I Ch. VII
  56. "Slavery Didn't Go Away When the Western Roman Empire Fell". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2006-02-26. Cyrchwyd 2020-06-13.
  57. Actau 4:32-4:33
  58. Luis M. Bermejo, S.J., Infallibility on Trial, 1992, Christian Classics, Inc., ISBN 0-87061-190-9, p. 313.
  59. "Church apologises for slave trade". 8 February 2006.
  60. Adam Hochschild, Bury the Chains, The British Struggle to Abolish Slavery (2005), tud 61
  61. Hwb Adnoddau Cymru - Caethwasiaeth Archifwyd 2020-06-13 yn y Peiriant Wayback. adalwyd 12 Mehefin 2020
  62. James, E. Wyn. "'Cymry, Caethwasiaeth a Rhyfel Cartref America'". Y Coleg Cymraeg Cenedlaethol'.
  63. Coffey, John. "The abolition of the slave trade: Christian conscience and political action". www.jubilee-centre.org. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2020-06-12. Cyrchwyd 2020-06-12.
  64. Roger Anstey, "Slavery and the Protestant Ethic," Historical Reflections 1979 6(1): 157-181. Pp. 157-172.
  65. ""I Will Not Be a Velvet-Mouthed Preacher!"". Desiring God. 2009-02-03. Cyrchwyd 2020-06-12.
  66. The Christian Cabinet, December 14, 1859
  67. Wesley, John (1774). Thoughts upon slavery. [Philadelphia] : London printed: Re-printed in Philadelphia, with notes, and sold by Joseph Crukshank.
  68. Charles G. Finney, Memoirs (New York: A.S. Barnes, 1876), 324
  69. "GUILT MODIFIED BY IGNORANCE by Charles G. Finney". www.gospeltruth.net. Cyrchwyd 2020-06-12.
  70. London Yearly Meeting minutes, Vol. 6, 457 - 458
  71. "Abolition Movement - EARLY ANTISLAVERY EFFORTS, EARLY EFFORTS OF BLACKS, REVOLUTIONARY ERA ABOLITIONISM, NORTHERN ABOLITIONISM". web.archive.org. 2010-01-12. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2010-01-12. Cyrchwyd 2020-06-13.CS1 maint: BOT: original-url status unknown (link)
  72. London Yearly Meeting minutes, Vol. 17, 298 - 307
  73. "In Supremo Apostolatus". Papal Encyclicals. 1839-12-03. Cyrchwyd 2020-06-12.
  74. "In Plurimis". Papal Encyclicals. 1888-05-05. Cyrchwyd 2020-06-12.
  75. Edward J. Cashin, Beloved Bethesda: A History of George Whitefield's Home for Boys (2001)
  76. Arnold Dallimore, George Whitefield: The Life and Times of the Great Evangelist of the Eighteenth Century (1980), Volume 2
  77. "Welsh ballads and American slavery (2007)". Prifysgol Caerdydd. Cyrchwyd 2020-06-12.
  78. Robinson, B.A. (22 September 2013). "Slavery in the Bible". Religious Tolerance. Cyrchwyd 19 July 2017.
  79. Joe Early, Readings in Baptist History (2008), tud 82
  80. Michael Corbett a Julia Corbett Hemeyer, Politics and Religion in the United States (1999), tud 95