Sgwrs:Agweddau Cristnogol i gaethwasiaeth

Ni chefnogir cynnwys y dudalen mewn ieithoedd eraill.
Oddi ar Wicipedia

Roedd George Whitefield yn berchen ar blanhigfa caethweision ac fe fu yn ymgyrchu dros ganiatâd caethwasanaeth yn Georgia. Mae pwy bynnag sy'n newid y ddalen yma byth a hefyd i ddileu'r ffaith yn gwneud cam a'r hanes ac yn gwneud cam a Wicipedia trwy guddio'r gwirionedd. Rwyf wedi bod yn bregethwr Methodistaidd am fron i 50 mlynedd, rwy'n ymfalchïo yn y ffaith bod Methodistiaid fel John Wesley wedi gwrthwynebu caethwasanaeth, ond dweud celwydd yw cuddio cefnogaeth a chyfraniad Whitefield i gaethwasanaeth. Mae Methodistiaid, ar y cyfan yn gwrthwynebu celwydd, celwydd yw gwyngalchu agwedd Whitefield a dydy gwyngalchu ddim yn rhoi clod i'r achos. AlwynapHuw (sgwrs) 03:53, 15 Gorffennaf 2020 (UTC)[ateb]


Mae gwall difrifol yn yr adran ar 'Diddymwyr Cristnogol'. Dywedir yno:

"Llosgwyd rhai o bregethau Wilberforce yn America gan y pregethwr enwog o Loegr, Charles Spurgeon, oherwydd iddo geryddu caethwasiaeth. Galwodd Spurgeon barn Wilberforce "y staen mwyaf ffiaidd ar Gristionogaeth bydd rhaid ei olchi allan mewn gwaed.""

Ond pregethau Spurgeon a losgwyd oherwydd ei fod yn gwrthwynebu caethwasiaeth. Dylai'r brawddegau ddarllen felly:

"Llosgwyd rhai o bregethau'r pregethwr enwog o Loegr, Charles Spurgeon, yn America oherwydd iddo gondemnio caethwasiaeth. Galwodd Spurgeon gaethwasiaeth "y staen mwyaf ffiaidd" y byddai galw o bosibl am ei olchi allan mewn gwaed."

Mae Wikipedia Saesneg yn gywir (https://en.wikipedia.org/wiki/Christian_abolitionism), ond nid oedd modd cywiro'r fersiwn Cymraeg am iddo gael ei gloi.