Adfywiad llenyddol Cymraeg y 18g

Oddi ar Wicipedia
Adfywiad llenyddol Cymraeg y 18g

Cyfnod o weithgarwch llenyddol ac ysgolheigaidd yng Nghymru, ac yn Llundain, yn ystod y 18g oedd yr adfywiad llenyddol Cymraeg neu'r dadeni llenyddol Cymraeg a geisiai ysgogi diddordeb yn yr iaith Gymraeg a'i llenyddiaeth, yn enwedig gwaith a thraddodiadau'r hen feirdd, a diwylliant Cymraeg yn gyffredinol. Blodeuai barddoniaeth Gymraeg yn yr hen fesurau, hynafiaetheg, ac ysgolheictod yn Gymraeg a Saesneg am hanes, diwylliant a llên gwerin Cymru. Cyhoeddwyd nifer fawr o gyfrolau a chylchgronau, gan gynnwys astudiaethau ac argraffiadau o hen lawysgrifau, a chyfansoddwyd barddoniaeth o bob math, yn rhydd ac ar hen fesurau caeth y traddodiad barddol, emynau a cherddi crefyddol, a baledi poblogaidd ar gynghanedd, yn ogystal â dramâu mydryddol yn seiliedig ar chwedlau hanesyddol, straeon y Beibl, a mytholeg Gymreig.

Cefndir yr adfywiad oedd newidiadau cymdeithasol, economaidd, a gwleidyddol Cymru'r 18g, gan gynnwys y Chwyldro Diwydiannol a'i effeithiau ar fywyd y werin a statws y Gymraeg. Daeth yr iaith Saesneg yn fwy gyffredin mewn rhai o beuoedd Cymru, ac yn wyneb y bygythiad hwn yr oedd ymdrechion gwŷr a gwragedd yr adfywiad yn adwaith.

Arweinwyr yr adfywiad yn Ynys Môn oedd brodyr y Morrisiaid o Lanfihangel Tre'r BeirddLewis (1701–65), Richard (1703–79), a William (1705–63)—y tri yn llenorion ac ysgolheigion a fagai gylch llenyddol eu hunain trwy ohebiaeth gyda'r beirdd Goronwy Owen (1722–69), Evan Evans (1731–88), Hugh Hughes (1693–1776), ac eraill. Hynafiaethwyr, casglwyr, a chopiwyr llawysgrifau oedd y Morrisiaid, ac un o'u hamcanion oedd ailddarganfod a chyhoeddi hen lenyddiaeth Gymraeg. Anogasant feirdd eraill i ddefnyddio mesurau caeth yr Oesoedd Canol, megis y cywydd a'r awdl. Prif ffigur yr adfywiad yn ne Cymru oedd Iolo Morganwg (1747–1826), a ailddarganfu nifer fawr o lawysgrifau hanesyddol a llenyddol.

Sefydlwyd cymdeithasau diwylliannol a deallusol gan Gymry Llundainy Cymmrodorion (1751), y Gwyneddigion (1770), a'r Cymreigyddion (1794)—i hyrwyddo astudiaethau llenyddol Cymraeg a Chymreig. Cynhaliwyd nifer o wyliau a chystadlaethau llenyddol ac ailsefydlwyd eisteddfodau lleol a rhanbarthol. Ffurfiodd Iolo Morganwg Orsedd Beirdd Ynys Prydain yn Llundain ym 1792, ac arweiniai'r honno at sefydlu'r eisteddfod genedlaethol ym 1861.

Yn y 19g daeth y celfyddydau yng Nghymru fwyfwy dan ddylanwad diwylliant Lloegr, ac ymdawelodd yr adfywiad llenyddol. Bu ail ddadeni, ar seiliau ysgolheigaidd y 18g, yn niwedd y 19g dan arweiniad academyddion Prifysgol Cymru, a sefydlwyd ym 1893.[1]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. (Saesneg) Welsh literary renaissance. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 18 Mehefin 2023.