Abram Wood
Abram Wood | |
---|---|
Ganwyd | 1699 y Drenewydd |
Bu farw | 1799 |
Dinasyddiaeth | Teyrnas Prydain Fawr |
Galwedigaeth | cerddor |
Llinach | teulu Wood |
Sefydlydd teulu diwylliedig o sipsiwn oedd Abram Wood (c. 1699 - c. 12 Tachwedd 1799); ei enw ef sydd yn yr ymadrodd "teulu Abram Wood" pan gyfieirir at un o'r sipsiwn; ceir amrywiadau ar y ffurf hwn: 'Abram Wd' neu 'deulu Alabaina'. Bu ei ddisgynyddion yn amlwg iawn fel cerddorion, yn ffidilwyr ac yn delynorion. Canai Abram y ffidil, ond nid oedd yn delynor — yng Nghymru y dysgodd ei deulu ganu'r delyn. Bu farw'n gant oed ar ei ffordd ger Llangelynnin, Gwynedd.
Hanes
[golygu | golygu cod]Ychydig iawn o wybodaeth sydd ar gael am Abram ei hun ac ni ddylid ei gymysgu gyda gŵr arall o'r un enw a hanodd o Frome, yng Ngwlad yr Haf. Fe'i disgrifir yng nghofrestr marwolaethau Plwyf Llangelynnin fel Abram Woods, a travelling Egyptian. Yn ôl ei or-ŵyr, y telynor John Roberts o'r Drenewydd, daeth Abram Wood a'i blant i Gymru o lannau Afon Hafren.
Cofnodwyd llawer o hanes y teulu gan John Samson, o Lerpwl a astudiodd y Sipsiwn Cymreig a'u hiaith (Romani). Prif ffynhonnell ei wybodaeth oedd Mathew Wood (1845-1929) a fu'n byw yn ardal y Bala.
Disgynyddion
[golygu | golygu cod]Roedd gan nifer o feibion: Valentine, William a Solomon; soniai nain 'y Sgolor Mawr' hefyd am Tom a Robin), ac un ferch Damaris (a briododd ag un o'r Ingramiaid, gogledd Ceredigion. Credir fod nifer o'i ddisgynyddion wedi ymbriodi ag aelodau eraill o'r teulu, fel oedd yr arfer gan y Sipsiwn.
Ymhlith y disgynyddion nodedig y mae:
- Jeremiah Wood neu 'Jeri Bach Gogerddan' (c. 1779-1867), ŵyr i Abram a adnabyddir hefyd fel 'Telynor Gogerddan' (Trefeurig)
- John Wood Jones (1800-1844) gorwyr Abram a thelynor Arglwyddes Llanofer (Augusta Hall)
- John Roberts Telynor Cymru; cofnododd hanes y teulu
- Mathew Wood (1845-1929) a fu'n byw yn ardal y Bala
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]- Augustus John; dysgodd Romani a bu'n byw am gyfnod yn ardal y Bala, gyda rhai o deulu Abram Wood.
Ffynonellau
[golygu | golygu cod]- Gwyddoniadur Cymru; Gwasg y Brifysgol (2008)
- Y Bywgraffiadur Cymreig (Llyfrgell Genedlaethol Cymru)