Neidio i'r cynnwys

A4086

Oddi ar Wicipedia
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 00:00, 12 Gorffennaf 2014 gan 9cfilorux (sgwrs | cyfraniadau)
Yr A4086 yn mynd trwy Fwlch Llanberis.

Priffordd yng Ngwynedd yw'r A4086. Mae'n arwain o Gaernarfon i ymuno â'r briffordd A5 ger Capel Curig.

O ganol Caernarfon, mae'n arwain tua'r dwyrain i groesi Afon Seiont ger Pont-rug, yna'n troi tua'r de-ddwyrain heibio glan Llyn Padarn a Llyn Peris a thrwy Fwlch Llanberis, gyda chlogwyni Glyder Fawr ar y chwith a Crib Goch ar y dde, i gyrraedd Pen-y-pass, y man mwyaf poblogaidd i ddringo'r Wyddfa.

Mae'n troi tua'r gogledd-ddwyrain ger Pen-y-gwryd, lle mae cyffordd gyda'r A498, ar hyd Dyffryn Mymbyr a heibio Llynnau Mymbyr cyn ymuno â'r A5 ger Capel Curig.

Lleoedd ar yr A4086