Pen-y-pass
| Math | bwlch, ffordd |
|---|---|
| Daearyddiaeth | |
| Ardal warchodol | Parc Cenedlaethol Eryri |
| Rhan o'r canlynol | Bwlch Llanberis |
| Sir | Gwynedd |
| Gwlad | |
| Uwch y môr | 360 metr |
| Cyfesurynnau | 53.0804°N 4.0214°W |
| Cadwyn fynydd | Masiff yr Wyddfa |
![]() | |
Pen-y-pass neu Pen-y-pas yw'r man uchaf (360 m) ar y bwlch rhwng yr Wyddfa a'r Glyder Fawr yn Eryri. Mae'r briffordd A4086 yn croesi'r bwlch, ac yn dirwyn i lawr tua'r gogledd-orllewin trwy Fwlch Llanberis ac i'r de-ddwyrain i lawr i Ben-y-Gwryd.
Adeiladwyd ffordd yma gyntaf yn y 1830au i gario'r mwyn copr o'r cloddfeydd ar lethrau'r Wyddfa. Adeiladwyd Gwesty Gorffwysfa yma, sydd yn awr yn hostel ieuenctid. Ceir canolfan wybodaeth Parc Cenedlaethol Eryri yma, a maes parcio sylweddol o faint, ac mae'n le poblogaidd iawn i ddechrau'r daith i gopa'r Wyddfa, gan mai'r dyma'r man cychwyn uchaf ar gyfer yr Wyddfa. Gellir dewis Llwybr y Mwynwyr, Llwybr Pen-y-Gwryd neu'r llwybr anoddach dros gopa Crib Goch. Gellir hefyd ddringo'r Glyder Fawr oddi yma, ond y llwybrau o ochr arall y mynydd, yn enwedig o Gwm Idwal, yw dewis y rhan fwyaf i gyrraedd copa'r mynydd yma.


