Wilhelm Steinitz

Oddi ar Wicipedia
Wilhelm Steinitz
GanwydWilhelm Steinitz Edit this on Wikidata
14 Mai 1836 Edit this on Wikidata
Prag Edit this on Wikidata
Bu farw12 Awst 1900 Edit this on Wikidata
Dinas Efrog Newydd Edit this on Wikidata
Man preswylDinas Efrog Newydd Edit this on Wikidata
DinasyddiaethUnol Daleithiau America, Ymerodraeth Awstria, Cisleithania Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Sefydliad Technoleg TU Wien, Edit this on Wikidata
Galwedigaethchwaraewr gwyddbwyll, arbenigwr gwyddbwyll, chess theoretician Edit this on Wikidata
PriodElisabeth Wiebel Edit this on Wikidata
Gwobr/aupencampwr gwyddbwyll y byd Edit this on Wikidata
Chwaraeon
Gwlad chwaraeonUnol Daleithiau America, Lloegr Edit this on Wikidata

Roedd William Steinitz (ganwyd Wilhelm Steinitz; 14 Mai 183612 Awst 1900) yn chwaraewr gwyddbwyll o Awstria ac, yn ddiweddarach, America. O 1886 hyd 1894 ef oedd Pencampwr Gwyddbwyll swyddogol cyntaf y Byd . Roedd hefyd yn awdur dylanwadol iawn ac yn ddamcaniaethwr gwyddbwyll.

Wrth drafod hanes gwyddbwyll o'r 1850au ymlaen, mae sylwebwyr wedi dadlau a ellid ystyried Steinitz yn bencampwr i bob pwrpas o gyfnod cynharach, efallai mor gynnar â 1866. Collodd Steinitz ei deitl i Emanuel Lasker ym 1894, a chollodd ail gêm ym 1896-97.

Mae systemau graddio ystadegol yn rhoi gradd eithaf isel i Steinitz ymhlith pencampwyr y byd, yn bennaf oherwydd iddo gymryd sawl egwyl hir o chwarae cystadleuol. Fodd bynnag, mae dadansoddiad yn seiliedig ar un o'r systemau graddio hyn yn dangos ei fod yn un o'r chwaraewyr cryfaf ei oes yn hanes y gêm. Roedd Steinitz yn ddiguro mewn gemau swyddogol am 32 mlynedd, o 1862 i 1894.

Er i Steinitz ddod yn "rhif un yn y byd" trwy ennill yn yr arddull ymosodol a oedd yn gyffredin yn y 1860au, ym 1873 dadorchuddiodd ei arddull chwarae strategol newydd, a dangosodd ei fod yn well na'r arddull flaenorol. Roedd ei arddull newydd yn ddadleuol ac roedd rhai hyd yn oed yn ei alw'n 'llwfr', ond dangosodd llawer o gemau Steinitz y gallai arwain at ymosodiadau mor ffyrnig â chynt.

Roedd Steinitz hefyd yn awdur toreithiog ar wyddbwyll, a dadleuodd dros ei syniadau newydd yn egnïol. Roedd y ddadl mor chwerw ac weithiau sarhaus fel y daeth i gael ei hadnabod fel y "Rhyfel Inc". Erbyn dechrau'r 1890au, derbyniwyd agwedd Steinitz yn eang, a chydnabu'r genhedlaeth nesaf o brif chwaraewyr eu dyled iddo, yn arbennig ei olynydd fel pencampwr y byd, Emanuel Lasker .

Mae adroddiadau traddodiadol am gymeriad Steinitz yn ei ddarlunio fel un di-dymer ac ymosodol, ond mae ymchwil mwy diweddar yn dangos bod ganddo berthynas hir a chyfeillgar gyda rhai chwaraewyr a sefydliadau gwyddbwyll. Yn fwyaf nodedig rhwng 1888 a 1889 bu'n cydweithio â Chyngres Gwyddbwyll America mewn prosiect i ddiffinio rheolau ar gyfer cynnal pencampwriaethau'r byd yn y dyfodol.

Bywyd cynnar[golygu | golygu cod]

Ganwyd Steinitz ar 14 Fai, 1836 mewn ghetto Iddewig ym Mhrâg (prifddinas y Weriniaeth Tsiec bellach;) yn Bohemia, rhan o Ymerodraeth Awstria. Yn fab i deiliwr, dysgodd chwarae gwyddbwyll yn 12 oed [1] Dechreuodd chwarae gwyddbwyll go iawn yn ei ugeiniau, ar ôl gadael Prâg ym 1857 i astudio mathemateg yn Fienna, [1] yng Ngholeg Polytechneg Fienna . [2] Treuliodd Steinitz ddwy flynedd yn y brifysgol. [3]

Gyrfa gwyddbwyll (hyd 1881)[golygu | golygu cod]

Gwellodd Steinitz yn gyflym yn niwedd y 1850au, yn codi o'r drydydd safle ym mhencampwriaeth Dinas Fienna i gyntaf ym 1861, gan sgorio 30/31.[4]Yn ystod y cyfnod hwn galwyd ef yn "Morphy Awstria". [5]Golygai hyn mai ef oedd chwaraewr cryfaf Awstria.[6]

Debut rhyngwladol[golygu | golygu cod]

Steinitz ym 1866

Anfonwyd Steinitz wedyn i gynrychioli Awstria yn nhwrnamaint gwyddbwyll Llundain 1862 . Daeth yn chweched, ond enillodd ei fuddugoliaeth dros Augustus Mongredien wobr ddisgleirdeb y twrnamaint. [7] [8] Heriodd yn syth y cystadleuydd orffennodd yn bumed, yr Eidalwr cryf Serafino Dubois, i gêm, ac enillodd Steinitz (+5, =1, -3). [9] Anogodd hyn ef i droi'n broffesiynol, a symudodd i Lundain i fyw. [10] Ym 1862–63 sgoriodd Steinitz fuddugoliaeth aruthrol mewn gêm gyda Joseph Henry Blackburne, a aeth ymlaen i fod yn un o'r deg gorau'n y byd am 20 mlynedd, ond a oedd ond wedi dechrau chwarae gwyddbwyll ddwy flynedd ynghynt. [11] Yna curodd Steinitz rai o chwaraewyr blaenllaw y DU mewn gornestau: Frederick Deacon ac Augustus Mongredien ym 1863 ac yna Valentine Green ym 1864. [12]

Gornest yn erbyn Anderssen[golygu | golygu cod]

Cydnabyddwyd Adolf Anderssen fel chwaraewr gorau'r byd tan 1866, pan enillodd Steinitz gêm yn ei erbyn.

Cydnabyddwyd Steinitz erbyn hyn yn un o chwaraewyr gorau'r byd, a llwyddodd i drefnu gêm yn Llundain yn 1866 yn erbyn Adolf Anderssen, a ystyrid yn chwaraewr gweithgar cryfaf y byd oherwydd iddo ennill Twrnameintiau Rhyngwladol Llundain 1851 a 1862 ac am fod yr unig chwaraewr cryfach, Paul Morphy, wedi ymddeol o wyddbwyll cystadleuol. [1] Enillodd Steinitz gydag wyth buddugoliaeth a chwe cholled (doedd dim gêm gyfartal), ond roedd hi'n ornest galed; ar ôl 12 gêm roedd y sgôr yn gyfartal 6-6, yna Steinitz enillodd y ddwy gêm ddiwethaf. [13]

O ganlyniad i'r fuddugoliaeth hon, roedd Steinitz yn cael ei ystyried yn gyffredinol fel chwaraewr gorau'r byd. [14] Y wobr ariannol ar gyfer y ornest hon oedd £100 i'r enillydd (Steinitz) ac £20 i'r collwr (Anderssen). Roedd gwobr yr enillydd yn swm mawr yn ôl safonau'r oes, yn cyfateb i tua £57,500 yn arian 2007. [15]

Llwyddiant yn parhau[golygu | golygu cod]

Yn y blynyddoedd yn dilyn ei fuddugoliaeth dros Anderssen, curodd Steinitz Henry Bird ym 1866 (+7, -5, =5) a llwyddodd hefyd i guro Johannes Zukertort yn gyfforddus ym 1872 (+7 =4, -1;) 'roedd Zukertort wedi profi ei hun yn un o'r goreuon trwy guro Anderssen o gryn dipyn ym 1871). [12]

Gwella canlyniadau twrnamaint yn raddol[golygu | golygu cod]

Cymerodd fwy o amser i Steinitz gyrraedd y brig mewn chwarae twrnamaint. Yn ystod y blynyddoedd nesaf 'roedd yn: drydydd ym Mharis 1867 y tu ôl i Ignatz Kolisch a Simon Winawer ; daeth yn ail yn Dundee 1867 gyda Gustav Neumann yn fuddugol, ac ail eto yn nhwrnamaint gwyddbwyll Baden-Baden 1870 ; tu ôl i Anderssen ond o flaen Blackburne, Louis Paulsen a chwaraewyr cryf eraill. [16] Ei fuddugoliaeth gyntaf mewn twrnament cryf oedd Llundain 1872, o flaen Blackburne a Zukertort; [17] a'r twrnamaint cyntaf i Steinitz orffen o flaen Anderssen ynddo oedd twrnamaint gwyddbwyll Fienna 1873, pan oedd Anderssen yn 55 oed. 

Yn newid arddull, yn cyflwyno gwyddbwyll strategol[golygu | golygu cod]

Cyflawnwyd holl lwyddiannau Steinitz hyd at 1872 yn yr arddull " Rhamantaidd " ymosod-o-flaen-bob-dim a arddangosir gan Anderssen. Ond yn nhwrnamaint gwyddbwyll Fienna 1873, dadorchuddiodd Steinitz arddull chwarae "strategol" newydd a fyddai'n dod yn sail i wyddbwyll modern. [12] Gorffennodd yn gyfartal gyntaf gyda Blackburne, o flaen Anderssen, Samuel Rosenthal, Paulsen a Henry Bird, ac enillodd y gemau ail gyfle yn erbyn Blackburne. Cafodd Steinitz ddechrau sigledig, ond enillodd y 14 gêm ddiwethaf yn y prif dwrnamaint (gan gynnwys canlyniadau 2-0 dros Paulsen, Anderssen, a Blackburne [12] ) ynghyd â'r ddwy gêm ail gyfle – dyma ddechrau rhediad buddugol o 25 gêm mewn cystadleuaeth ddifrifol. [18]

Seibiant o wyddbwyll cystadleuol[golygu | golygu cod]

Rhwng 1873 a 1882 ni chwaraeodd Steinitz unrhyw dwrnameintiau a dim ond un ornest (buddugoliaeth o 7-0 yn erbyn Blackburne ym 1876). Roedd ei gemau eraill yn ystod y cyfnod hwn mewn arddangosfeydd cydamserol a mwgwd, [7]  a gyfrannodd ran bwysig o incwm chwaraewr gwyddbwyll proffesiynol yn y dyddiau hynny (er enghraifft ym 1887 talwyd 9 gini i Blackburne am ddwy arddangosfa ar-y-pryd ac arddangosfa mwgwd dan ofal Cymdeithas Gwyddbwyll Teesside; [19] roedd hyn yn gyfwerth i tua £4,800 yn 2007 [20] ).

Newyddiadurwr gwyddbwyll[golygu | golygu cod]

Yn hytrach, canolbwyntiodd Steinitz ar ei waith fel newyddiadurwr gwyddbwyll, yn arbennig i The Field, sef prif gylchgrawn chwaraeon Prydain. Cododd rhai o sylwebaethau Steinitz ddadleuon tanbaid, yn arbennig gan Zukertort a Leopold Hoffer yn The Chess Monthly (a sefydlwyd ganddynt ym 1879). [21] Cynyddodd y "Rhyfel Ink" hwn yn sydyn ym 1881, pan feirniadodd Steinitz anodiadau Hoffer o gemau yng Nghyngres Berlin 1881 (a enillwyd gan Blackburne ar y blaen i Zukertort) yn ddidrugaredd. Roedd Steinitz yn awyddus i setlo'r dadleuon dadansoddol gydag ail ornest yn erbyn Zukertort, ac 'roedd ei amharodrwydd ef i'w chwarae wedi ysgogi sylwadau dirmygus gan Steinitz. Yng nghanol 1882 heriodd James Mason, chwaraewr cryf, [22] Steinitz i ornest, a cyhuddodd Steinitz o lwfrdra pan fynnodd Steinitz y dylid datrys y mater gyda Zukertort yn gyntaf. Ymatebodd Steinitz trwy wahodd Mason i enwi cyfran ddigon uchel ar gyfer gêm, o leiaf £150 y chwaraewr (cyfwerth â thua £73,000 yn arian 2007 [23] ), ond nid oedd Mason yn fodlon mentro mwy na £100. Yn ddiweddarach cytunodd Mason i chwarae gornest gyda Zukertort am gyfran o £100 y chwaraewr, ond yn fuan iawn "gohiriodd" y gêm honno, gan ysgrifennu bod "amgylchiadau wedi codi sy'n ei gwneud yn anghyfleus iawn i mi symud ymlaen . . ." [24]

Cystadlu â Zukertort[golygu | golygu cod]

Collodd gelyn chwerw Steinitz , Johannes Zukertort, gemau iddo ym 1872 a 1886. Gwnaeth yr ail gêm Steinitz yn bencampwr byd diamheuol.

Achosodd saib hir Steinitz i rai sylwebwyr awgrymu y dylai Zukertort, oedd wedi sgorio buddugoliaethau nodedig mewn twrnamaint, gael ei ystyried yn bencampwr gwyddbwyll y byd. [14] Er enghraifft, dywedodd The Chess Player's Chronicle ym mis Gorffennaf 1883 fod 'Steinitz, ar un adeg, gyda'r hawl i swydd pencampwr y byd ,ond. . . Mae newydd gymryd lle israddol i Zukertort, mewn twrnamaint, ac am y tro mae Zukertort, ym marn rhai, yn dod yn bencampwr'. [14]

Llwyddiant Eto[golygu | golygu cod]

Dychwelodd Steinitz i wyddbwyll cystadleuol difrifol yn nhwrnamaint gwyddbwyll Fienna 1882, sydd wedi'i ddisgrifio fel y twrnamaint gwyddbwyll cryfaf erioed i fyny at hynny. Er gwaethaf dechrau sigledig fe ddaeth yn gyfartal gyntaf gyda Szymon Winawer - ar y blaen i James Mason, Zukertort, George Henry Mackenzie, Blackburne, Berthold Englisch, Paulsen a Mikhail Chigorin, a cafodd gêm gyfartal yn y gemau ail gyfle. [25] [26]

Yn ymweld â UDA[golygu | golygu cod]

Ymwelodd Steinitz â'r Unol Daleithiau, ardal Philadelphia yn bennaf, rhwng Rhagfyr 1882 a Mai 1883. Cafodd dderbyniad brwdfrydig. Chwaraeodd Steinitz sawl arddangosfa, llawer o gemau achlysurol, a gornest am stanciau o £50 gydag amatur cyfoethog. Enillodd hefyd dair ornest fwy difrifol gyda dau o chwaraewyr proffesiynol y Byd Newydd, Alexander Sellman (dwywaith) a phencampwr Ciwba Celso Golmayo Zúpide. Rhoddwyd y gorau i'r gêm gyda Golmayo pan oedd Steinitz ar y blaen (wyth buddugoliaeth, un gêm gyfartal, un golled). Trefnodd ei westeion hyd yn oed ymweliad â New Orleans, lle roedd Paul Morphy yn byw. [24]

Dychwelyd i Lundain[golygu | golygu cod]

Yn ddiweddarach ym 1883, daeth Steinitz yn ail yn nhwrnamaint gwyddbwyll hynod gryf Llundain 1883 y tu ôl i Zukertort, a wnaeth ddechrau gwych, pylu ar y diwedd ond gorffen dri phwynt ar y blaen. [27] Gorffennodd Steinitz 2½ pwynt ar y blaen i Blackburne, a ddaeth yn drydydd. [28] Unwaith eto, arweiniodd buddugoliaeth Zukertort at rai sylwebwyr i awgrymu y dylid ystyried Zukertort fel pencampwr gwyddbwyll y byd, tra bod eraill yn dweud mai dim ond trwy ornest rhwng Steinitz a Zukertort y gellid datrys y mater. [14]

Symud i'r Unol Daleithiau[golygu | golygu cod]

Ym 1883, yn fuan ar ôl twrnamaint Llundain, penderfynodd Steinitz adael Lloegr a symud i Ddinas Efrog Newydd, lle bu'n byw am weddill ei oes. [26] Ni ddaeth hyn â'r "Rhyfel Ink" i ben: perswadiodd ei elynion rai o'r wasg Americanaidd gyhoeddi erthyglau gwrth-Steinitz, [24] [29] ac yn 1885 sefydlodd Steinitz y International Chess Magazine, a olygodd hyd at 1895 . Yn ei gylchgrawn croniclodd y trafodaethau hirfaith ar gyfer gêm gyda Zukertort. Llwyddodd hefyd i ddod o hyd i gefnogwyr mewn adrannau eraill o'r wasg Americanaidd gan gynnwys Turf, Field and Farm a'r St Louis Globe-Democrat, y ddau yn adrodd ar gynnig Steinitz i ildio'r holl ffioedd, treuliau neu gyfran yn y fantol a gwneud y gêm yn " berfformiad budd-dal, ar gyfer elw ariannol Mr Zukertort yn unig”. [14]

Gêm Pencampwriaeth y Byd[golygu | golygu cod]

Yn y diwedd cytunwyd y byddai Steinitz a Zukertort yn chwarae gornest yn Efrog Newydd, St. Louis a New Orleans ym 1886, ac mai'r enillydd fyddai'r chwaraewr a enillodd 10 gêm gyntaf. Mynnodd Steinitz y dywedodd y gytundeb y byddai "ar gyfer Pencampwriaeth y Byd". [14] [30] Ar ôl y pum gêm a chwaraewyd yn Efrog Newydd, 'roedd Zukertort 4-1 ar y blaen, ond yn y diwedd enillodd Steinitz yn hawdd 12½–7½ (+10. =5, -5), gan ddod yn bencampwr swyddogol cyntaf y byd ar 29 Fawrth. [31] Mae cwymp Zukertort, a enillodd un o’r 15 gêm ddiwethaf yn unig, wedi’i ddisgrifio fel “efallai y gwrthdroad mwyaf trwyadl yn hanes chwarae pencampwriaeth y byd.” [32]

Er nad oedd yn ddinesydd Americanaidd yn swyddogol eto, roedd Steinitz eisiau i faner yr Unol Daleithiau gael ei gosod wrth ei ymyl yn ystod yr ornest. Daeth yn ddinesydd yr Unol Daleithiau ar 23 Tachwedd, 1888, ar ôl byw am bum mlynedd yn Efrog Newydd, a newidiodd ei enw cyntaf o Wilhelm i William. [7] 

Ym 1887 dechreuodd Cyngres Gwyddbwyll America ar y gwaith o lunio rheoliadau ar gyfer cynnal cystadlaethau pencampwriaeth gwyddbwyll y byd. Cefnogodd Steinitz yr ymdrech hon yn frwd, gan ei fod yn meddwl ei fod yn mynd yn rhy hen i aros yn bencampwr – ysgrifennodd yn ei gylchgrawn ei hun "Rwy'n gwybod nad wyf yn ffit i fod yn bencampwr, ac nid wyf yn debygol o ddal y teitl hwnnw am byth". [33]

Yn trechu Chigorin[golygu | golygu cod]

Ym 1888 cynigiodd Clwb Gwyddbwyll Hafana noddi gêm rhwng Steinitz a phwy bynnag y byddai'n ei ddewis yn wrthwynebydd teilwng. Enwebodd Steinitz Mikhail Chigorin, o Rwsia [7]  ar yr amod na ddylai'r gwahoddiad gael ei gyflwyno fel her ganddo ef. Mae rhywfaint o amheuaeth a oedd hon wedi'i bwriadu i fod yn gêm ar gyfer pencampwriaeth y byd: roedd llythyrau Steinitz a'r deunydd cyhoeddusrwydd ychydig cyn yr ornest yn osgoi'r ymadrodd yn amlwg. Roedd yr ornest arfaethedig i gael uchafswm o 20 gêm, [7]  ac roedd Steinitz wedi dadlau bod gemau hyd sefydlog yn anaddas ar gyfer gornestau pencampwriaethau'r byd oherwydd y gallai'r chwaraewr cyntaf i fynd ar y blaen yna yn gallu chwarae am gemau cyfartal; 'Roedd Steinitz ar yr un pryd yn cefnogi prosiect pencampwriaeth y byd Cyngres Gwyddbwyll America. [33] Beth bynnag oedd statws y gêm, cafodd ei chwarae yn Hafana yn ystod Ionawr a Chwefror 1889, ac enillodd Steinitz (+10, 1=, -6). 

Twrnamaint Efrog Newydd 1889[golygu | golygu cod]

Cynnig terfynol Cyngres Gwyddbwyll America oedd y dylai enillydd twrnamaint a gynhelir yn Efrog Newydd ym 1889 gael ei ystyried yn bencampwr byd am y tro, ond rhaid iddo fod yn barod i wynebu her gan yr ail neu'r trydydd safle o fewn mis. . [33] Ysgrifennodd Steinitz na fyddai’n chwarae yn y twrnamaint ac na fyddai’n herio’r enillydd oni bai bod y cystadleuwyr yn yr ail a’r trydydd safle yn methu â gwneud hynny. [34] Chwaraewyd y twrnamaint yn briodol, ond nid oedd y canlyniad yn union fel y cynlluniwyd: Daeth Mikhail Chigorin a Max Weiss yn gyfartal gyntaf; arweiniodd eu gemau ail gyfle at bedair gêm gyfartal, ac yna 'roedd Weiss eisiau dychwelyd i'w waith gyda Banc Rothschild, gan ildio'r teitl i Chigorin  . Fodd bynnag, roedd Isidor Gunsberg, orffennodd yn drydydd, yn barod i chwarae am y teitl.

Chwaraewyd gêm Steinitz-Gunsberg yn Efrog Newydd ym 1890 a daeth i ben gyda buddugoliaeth i Steinitz o 10½–8½.. Ni chafodd arbrawf Cyngres Gwyddbwyll America ei ailadrodd, ac roedd tair gêm olaf Steinitz yn drefniadau preifat rhwng y chwaraewyr. [7]  [17]

Yn ennill ail gêm yn erbyn Chigorin[golygu | golygu cod]

Ym 1891 cynigiodd Cymdeithas Gwyddbwyll Saint Petersburg a Chlwb Gwyddbwyll Hafana drefnu gêm arall rhwng Steinitz-Chigorin ar gyfer pencampwriaeth y byd. Chwaraeodd Steinitz yn erbyn Chigorin yn Hafana yn 1892, ac enillodd o drwch blewyn (+10, =5, -8). 

Gwrthododd yr Almaenwr Dr Siegbert Tarrasch gyfle ym 1892 i herio Steinitz am bencampwriaeth y byd, oherwydd gofynion ei bractis meddygol. 

Colli'r Bencampwriaeth i Lasker[golygu | golygu cod]

Emanuel Lasker (dde) yn chwarae Steinitz am Bencampwriaeth Gwyddbwyll y Byd, Efrog Newydd 1894

Tua'r amser hwn siaradodd Steinitz yn gyhoeddus am ymddeol, ond newidiodd ei feddwl pan heriodd Emanuel Lasker ef, 32 mlynedd yn iau ac yn gymharol ddibrofiad ar y lefel uchaf. Yn gynharach y flwyddyn honno gwrthodwyd her di-deitl gan Lasker gan ei gyd-Almaenwr, Dr Siegbert Tarrasch, a oedd ar y pryd yn chwaraewr twrnamaint amlycaf y byd. [35]

I ddechrau, roedd Lasker eisiau chwarae am $5,000 bob un, a chytunwyd ar gêm o $3,000 bob un, ond cytunodd Steinitz i gyfres o ostyngiadau pan gafodd Lasker anhawster i godi'r arian, a'r ffigwr terfynol oedd $2,000 yr un, sef yn llai nag ar gyfer rhai o gemau cynharach Steinitz (byddai'r gyfran gyfunol derfynol o $4,000 yn werth tua $114,000 ar werthoedd 2016 [36] ). Er i hyn gael ei ganmol yn gyhoeddus fel gweithred o sbortsmonaeth ar ran Steinitz, [17] mae'n bosibl bod dirfawr angen yr arian arno. [37]

Chwaraewyd yr ornest ym 1894, yn Efrog Newydd, Philadelphia a Montreal, Canada. Y gwahaniaeth oedran 32 mlynedd rhwng y brwydrwyr oedd y mwyaf yn hanes chwarae pencampwriaeth y byd, ac mae'n parhau felly heddiw. [38] Roedd Steinitz wedi datgan y byddai’n ennill heb amheuaeth, felly daeth fel sioc pan enillodd Lasker y gêm gyntaf. Ymatebodd Steinitz trwy ennill yr ail, a llwyddodd i gadw pethau'n gyfartal tan y chweched. Serch hynny, enillodd Lasker bob un o’r gemau o’r seithfed i’r 11eg, a gofynnodd Steinitz am seibiant am wythnos. Pan ailddechreuodd y gêm, roedd Steinitz yn edrych mewn cyflwr gwell ac enillodd y 13eg a'r 14eg gêm. Tarodd Lasker yn ôl yn y 15fed a’r 16eg, ac ni lwyddodd Steinitz i wneud iawn am ei golledion yng nghanol y gêm. Felly enillodd Lasker (+10, -5, =4). [39] [40] Roedd rhai sylwebwyr yn meddwl bod arfer Steinitz o chwarae symudiadau "arbrofol" mewn cystadleuaeth ddifrifol yn ffactor mawr yn ei gwymp. [41]

Mwy o weithgareddau twrnamaint[golygu | golygu cod]

Ar ôl colli'r teitl, chwaraeodd Steinitz mewn twrnameintiau yn amlach nag o'r blaen. Enillodd yn Ninas Efrog Newydd 1894, 'roedd yn bumed yn Hastings 1895 (gan ennill y wobr ddisgleirdeb gyntaf am ei gêm gyda Curt von Bardeleben ). Yn Saint Petersburg 1895, digwyddiad aml-rown, pedwar chwaraewr hynod gryf, gyda Lasker, Chigorin a Pillsbury, daeth yn ail tu ôl i Lasker . Yn ddiweddarach dechreuodd ei ganlyniadau ddirywio: 6ed yn Nuremberg 1896, 5ed yn Cologne 1898, 10fed yn Llundain 1899. [7]  [42]

Yn gynnar yn 1896, trechodd Steinitz y Rwsia Emanuel Schiffers mewn gornest ( +6, =1, -4). [37]

Ailchwarae â Lasker[golygu | golygu cod]

O fis Tachwedd, 1896 i Ionawr, 1897 chwaraeodd Steinitz ornest gyda Lasker ym Moscow, ond dim ond 2 gêm enillodd, 5 gêm gyfartal , a cholli 10. [43] Hon oedd yr ornest olaf am bencampwriaeth gwyddbwyll y byd am un-mlynedd ar-ddeg. Yn fuan ar ôl y gêm, cafodd Steinitz chwalfa feddyliol a chafodd ei gyfyngu am 40 diwrnod mewn sanatoriwm ym Moscow, lle chwaraeodd gwyddbwyll gyda'r cleifion. [7] 

Cwestiynau: Dechrau teyrnasiad Steinitz[golygu | golygu cod]

Joseph Blackburne . Curodd Steinitz ef 7-0 ym 1876, ond nododd George Alcock MacDonnell Blackburne fel "Pencampwr y Byd" am ei fuddugoliaeth yn Nhwrnamaint Berlin 1881.

Mae dadl hir-sefydlog ymhlith awduron gwyddbwyll ynghylch a ddechreuodd teyrnasiad Steinitz fel Pencampwr Gwyddbwyll y Byd ym 1866, pan gurodd Anderssen, neu ym 1886, pan gurodd Zukertort. [33] [44] Ym mis Ebrill 1894 disgrifiodd y British Chess Magazine Steinitz fel un fu'n dal "pencampwriaeth gwyddbwyll y byd am 28 mlynedd". Fodd bynnag, nid oes tystiolaeth iddo hawlio'r teitl iddo ei hun ym 1866, er yn y 1880au honnodd mai ef oedd y pencampwr ers ei fuddugoliaeth dros Anderssen. [45] Awgrymwyd na allai Steinitz wneud honiad o'r fath tra roedd Paul Morphy yn fyw. [46] Roedd Morphy wedi trechu Anderssen o gryn dipyn, 8-3, ym 1858, ond ymddeolodd o wyddbwyll cystadleuol yn fuan wedi iddo ddychwelyd i'r Unol Daleithiau ym 1859, a bu farw ym 1884. Gornest Steinitz yn erbyn Zukertort ym 1886 oedd y gyntaf a ddisgrifiwyd yn benodol fel un ar gyfer Pencampwriaeth y Byd, ond disgrifiwyd Howard Staunton a Paul Morphy yn answyddogol fel "Pencampwr Gwyddbwyll y Byd" tua chanol y 19eg ganrif. Yn wir roedd un o drefnwyr twrnamaint Rhyngwladol Llundain 1851 wedi dweud mai "batwn Pencampwr Gwyddbwyll y Byd" oedd y gystadleuaeth, ac yng nghanol y 1840au ysgrifennodd Ludwig Bledow lythyr at Tassilo von Heydebrand und der Lasa yn awgrymu y dylen nhw drefnu twrnamaint pencampwriaeth y byd yn yr Almaen. [47] Disgrifiodd rhai sylwebwyr Steinitz fel "y pencampwr" yn y blynyddoedd yn dilyn ei fuddugoliaeth yn erbyn Zukertort ym 1872. Ar ddiwedd y 1870au a dechrau'r 1880au roedd rhai yn ystyried Steinitz fel y pencampwr ac roedd eraill yn cefnogi Johannes Zukertort, ac nid oedd gêm 1886 yn cael ei hystyried fel un a greodd y teitl Pencampwr y Byd, ond fel un a oedd yn datrys honiadau gwrthgyferbyniol i'r teitl. [14] Ar y llaw arall galwodd George Alcock MacDonnell Joseph Blackburne yn "Bencampwr y Byd" am ei fuddugoliaeth yn Nhwrnamaint Berlin 1881, George Henry Mackenzie fel un wedi "ennill Pencampwriaeth Gwyddbwyll y Byd" ym 1887, ac Isidore Gunsberg fel "ymhlith pencampwyr y byd" yn dilyn ei fuddugoliaeth yn "Bradford Place" ym 1888. [48] Fodd bynnag, roedd Steinitz yn ystyried GA MacDonnell fel "un o'm herlidwyr chwerwaf a mwyaf celwyddog". [49]

Bywyd personol[golygu | golygu cod]

Roedd Steinitz yn byw gyda Caroline Golder (ganwyd 1846) yn y 1860au, a ganed eu hunig ferch Flora yn 1866. [24] [50] Bu farw Flora ym 1888 yn 21 oed, [37] a bu farw Caroline ym 1892. [24] Priododd ei ail wraig ychydig flynyddoedd yn ddiweddarach, a cawsant dau o blant. Yn 1897 cysegrodd bamffled er cof am ei wraig gyntaf a'u merch. [41]

Ym mis Chwefror 1897, adroddodd y New York Times yn gynamserol ei farwolaeth mewn ysbyty meddwl yn Efrog Newydd. [51] Mae rhai awduron yn honni ei fod wedi dal siffilis, [52] a allai fod wedi bod yn achos y chwalfa feddyliol a ddioddefodd yn ei flynyddoedd olaf. Yn y misoedd cyn ei farwolaeth, treuliodd beth amser mewn sefydliadau o ganlyniad i fethiant ei iechyd meddwl. [53] Nid oedd ei weithgareddau gwyddbwyll wedi esgor ar unrhyw wobr ariannol mawr, a bu farw yn dlawd yn Ysbyty Talaith Manhattan ( Ynys Wards ) ar 12 Awst, 1900 o drawiad ar y galon. Claddwyd Steinitz ym Mynwent y Bytholwyrdd yn Brooklyn, Efrog Newydd . [54] Roedd ei ail wraig a'u dau blentyn ifanc yn dal yn fyw adeg ei farwolaeth. [41]

Asesiad[golygu | golygu cod]

Plac i anrhydeddu Wilhelm Steinitz, yn ardal Josefov ym Mhrâg

Disgrifiodd llyfr twrnamaint gwyddbwyll Hastings 1895, a ysgrifennwyd ar y cyd gan y chwaraewyr, Steinitz fel a ganlyn: [55]

Saif Mr. Steinitz yn uchel fel damcaniaethwr ac fel ysgrifennwr; mae ganddo feiro pwerus, a phan fydd yn dewis gall ddefnyddio Saesneg coeth. Mae'n amlwg ei fod yn ymdrechu i fod yn deg â ffrindiau a gelynion fel ei gilydd, ond mae'n ymddangos weithiau fel pe bai'n methu â gweld ei fod wedi'r cyfan yn debyg iawn i lawer o bobl eraill yn hyn o beth. Yn meddu ar ddeallusrwydd praff, ac yn hynod o hoff o'r gêm, mae'n dueddol o golli golwg ar bob ystyriaeth arall, pobl a busnes fel ei gilydd. Gwyddbwyll yw ei fywyd a'i enaid, yr un peth pwysicaf yn ei fywyd.

Dylanwad ar y gêm[golygu | golygu cod]

Roedd chwarae Steinitz hyd at ac yn cynnwys 1872 yn debyg i chwarae ei gyfoeswyr: miniog, ymosodol, a llawn chwarae aberthol . Dyma'r arddull a daeth ef yn "gyntaf yn y byd" trwy guro Adolf Anderssen ym 1866 a chadarnhau ei safle trwy guro Zukertort yn 1872 ac ennill twrnamaint Rhyngwladol Llundain 1872 (roedd Zukertort wedi hawlio yr ail safle trwy guro Anderssen yn 1871) . [12]

Yn 1873, fodd bynnag, newidiodd chwarae Steinitz yn sydyn, gan roi blaenoriaeth i'r hyn a elwir bellach yn elfennau strategol mewn gwyddbwyll: strwythur milwyr, gofod, allbyst i farchogion, mantais y ddau esgob, ac ati. Er bod Steinitz yn aml yn derbyn safbwyntiau amddiffynnol diangen o anodd er mwyn dangos rhagoriaeth ei ddamcaniaethau, dangosodd hefyd y gallai ei ddulliau ddarparu llwyfan ar gyfer ymosodiadau distrywiol. [56] [57] [58] Crynhodd olynydd Steinitz fel pencampwr y byd, Emanuel Lasker, yr arddull newydd fel: "Ar ddechrau'r gêm anwybyddwch y chwilio am gyfuniadau, ymatal rhag symudiadau treisgar, anelwch at fanteision bach, cronwch nhw, a dim ond ar ôl cyrraedd y dibenion hyn chwilio am y cyfuniadau - ac yna gyda holl rym ewyllys a deallusrwydd, oherwydd yna mae'n rhaid i'r cyfuniad fodoli, waeth pa mor gudd yw hi." [59]

Er bod chwarae Steinitz wedi newid yn sydyn, dywedodd ei fod wedi bod yn meddwl fel hyn ers rhai blynyddoedd:

Roedd rhai o’r gemau y gwelais Paulsen yn eu chwarae yn ystod Cyngres Llundain ym 1862 yn rhoi dechrau cryfach fyth i’r broses o addasu fy marn fy hun, sydd wedi datblygu ers hynny, a dechreuais gydnabod nad yw athrylith Gwyddbwyll wedi’i gyfyngu i’r strociau gorffen gwych wedi i’r cydbwysedd grym a safle gwreiddiol gael ei ddymchwel, ond ei fod hefyd yn gofyn am arfer pwerau mwy rhyfeddol fyth, er efallai o fath gwahanol, i gynnal y cydbwysedd hwnnw neu y drefn honno er mwyn tarfu arno ar yr adeg briodol er eich mantais eich hun. [30]


Ond pan ymladdodd gêm gyntaf Pencampwriaeth y Byd yn 1886 yn erbyn Johannes Zukertort, daeth yn amlwg fod Steinitz yn chwarae ar lefel gwahanol. Er bod Zukertort o leiaf yn gyfartal â Steinitz mewn chwarae ymosodol ysblennydd, roedd Steinitz yn aml yn ei drechu'n weddol syml trwy ddefnyddio egwyddorion lleoliadol. [57] [60]

Erbyn ei gêm yn 1890–91 yn erbyn Gunsberg, roedd rhai sylwebwyr yn dangos dealltwriaeth a gwerthfawrogiad o ddamcaniaethau Steinitz. [61] Ychydig cyn gêm 1894 ag Emanuel Lasker, roedd hyd yn oed y New York Times, a oedd wedi cyhoeddi ymosodiadau ar ei chwarae a'i gymeriad yn gynharach, [29] [62] yn talu teyrnged i'w record chwarae, pwysigrwydd ei ddamcaniaethau, a'i sbortsmonaeth wrth gytuno i ornest anoddaf ei yrfa er gwaethaf ei fwriad blaenorol i ymddeol. [17]

Erbyn diwedd ei yrfa, roedd Steinitz yn uwch ei barch fel damcaniaethwr nag fel chwaraewr. Mae’r sylwadau amdano yn llyfr twrnamaint gwyddbwyll Hastings 1895 yn canolbwyntio ar ei ddamcaniaethau a’i ysgrifau, [55] ac roedd Emanuel Lasker yn fwy eglur: “Roedd yn feddyliwr yn deilwng o sedd yn neuaddau Prifysgol. Nid oedd yn chwaraewr, fel y credai y byd ei fod ; yr oedd ei anian graff yn gwneud hynny yn amhosibl ; ac felly gorchfygwyd ef gan chwaraewr . . ." [63]

O ganlyniad i'w chwarae a'i ysgrifau mae Steinitz, ynghyd â Paul Morphy, yn cael ei ystyried gan lawer o sylwebwyr gwyddbwyll fel sylfaenydd gwyddbwyll modern. Ysgrifennodd Lasker, a gymerodd y bencampwriaeth oddi wrtho, "Mae'n rhaid i mi a drechodd ef weld iddo y dylai ei gamp fawr, ei ddamcaniaethau, ddod o hyd i gyfiawnder a rhaid i mi ddial y camweddau a ddioddefodd." [63] Mae Vladimir Kramnik yn pwysleisio pwysigrwydd Steinitz fel arloeswr ym maes theori gwyddbwyll: “Steinitz oedd y cyntaf i sylweddoli bod gwyddbwyll, er ei fod yn gêm gymhleth, yn ufuddhau i rai egwyddorion cyffredin. . . . Ond fel sy'n digwydd yn aml, dim ond cynnig yw'r tro cyntaf. . . . Ni allaf ddweud mai ef oedd sylfaenydd theori gwyddbwyll. Roedd yn arbrofwr a nododd fod gwyddbwyll yn ufuddhau i gyfreithiau y dylid eu hystyried.” [64]

Ysgrifau[golygu | golygu cod]

Steinitz oedd prif ohebydd gwyddbwyll The Field (yn Llundain) o 1873 i 1882, a defnyddiodd hwn i gyflwyno ei syniadau am strategaeth gwyddbwyll. Ym 1885 sefydlodd y International Chess Magazine yn Ninas Efrog Newydd a'i olygu tan 1891. Yn ogystal â sylwebu gemau ac esbonio'r trafodaethau a arweiniodd at ei ornest ym 1886 â Johann Zukertort, a phrosiect pencampwriaeth y byd Cyngres Gwyddbwyll America, ysgrifennodd gyfres hir o erthyglau am Paul Morphy, a fu farw ym 1884 . [33] [65] Ysgrifennodd lyfr twrnamaint Efrog Newydd 1889, lle anododd bob un o'r 432 o'r gemau, [66] [67] ac ym 1889 cyhoeddodd werslyfr, The Modern Chess Instructor . [67]

Honnir bod Steinitz hefyd wedi ysgrifennu pamffled o'r enw Capital, Labour, and Charity tra'n glaf yn River Crest Sanitarium yn Efrog Newydd yn ystod misoedd olaf ei fywyd. [53]Nodyn:Chess diagram smallMae systemau graddio ystadegol yn angharedig i Steinitz. Mae "Rhyfelwyr y Meddwl" yn rhoi safle o 47, yn is na nifer o feistri Sofietaidd di-nod; [68] Mae Chessmetrics yn ei roi yn 15fed yn unig ar ei restr. [69] Mae chessmetrics yn cosbi chwaraewyr sy'n chwarae'n anaml; [70] anaml oedd cyfleoedd ar gyfer gwyddbwyll cystadleuol ym mlynyddoedd gorau Steinitz, [57] a chafodd Steinitz ychydig o absenoldebau hir o chwarae cystadleuol (1873–1876, 1876–1882, 1883–1886, 1886–1889). Fodd bynnag, yn 2005, ysgrifennodd awdur Chessmetrics, Jeff Sonas, erthygl a edrychodd ar wahanol ffyrdd o gymharu cryfder chwaraewyr "rhif un y byd", gan ddefnyddio data a ddarparwyd gan Chessmetrics, a chanfu: Roedd Steinitz ymhellach ar y blaen i'w gyfoeswyr yn y 1870au nag oedd Bobby Fischer yn ei gyfnod brig (1970–1972); bod Steinitz wedi cael y trydydd nifer uchaf o flynyddoedd fel chwaraewr gorau'r byd, y tu ôl i Emanuel Lasker a Garry Kasparov ; a bod Steinitz i'w osod yn 7fed mewn cymhariaeth o ba mor hir y cafodd chwaraewyr eu rhestru yn y tri safle gorau yn y byd. [71] Rhwng ei fuddugoliaeth dros Anderssen (1866) a'i golled i Emanuel Lasker (1894), enillodd Steinitz ei holl gemau "normal", weithiau o gryn dipyn; a'i berfformiad twrnamaint gwaethaf yn y cyfnod hwnnw o 28 mlynedd oedd y trydydd safle ym Mharis (1867). [7] ( Collodd hefyd ddwy gêm handicap a gêm dros y telegraff yn 1890 yn erbyn Mikhail Chigorin, lle cafodd Chigorin yr hawl i ddewis yr agoriadau yn y ddwy gêm ac ennill y ddwy. ) [72]

I ddechrau chwaraeodd Steinitz yn arddull ymosodol cyfoeswyr fel Anderssen, ac yna newidiodd i'r arddull strategol a oedd yn dominyddu gwyddbwyll cystadleuol yn y 1870au a'r 1880au. [12] Ysgrifennodd Max Euwe, "Anelodd Steinitz at sefyllfaoedd â nodweddion clir, lle'r oedd ei ddamcaniaethau yn fwyaf perthnasol iddynt." [73] Fodd bynnag, cadwodd ei allu ar gyfer ymosodiadau gwych hyd at ddiwedd ei yrfa; er enghraifft, yn nhwrnamaint Hastings 1895 (pan oedd yn 59), curodd von Bardeleben mewn gêm ysblennydd lle yn niwedd y gem gadawodd Steinitz ei holl ddarnau yn fwriadol yn agored i ymosodiadau ar yr un pryd (ac eithrio ei frenin, wrth gwrs). [57] Ei wendidau mwyaf arwyddocaol oedd ei arferi o chwarae symudiadau "arbrofol" a mynd i safleoedd amddiffynnol diangen o anodd mewn gemau cystadleuol o'r radd flaenaf. [12] [41]

Personoliaeth[golygu | golygu cod]

Steinitz

Mae adroddiadau "traddodiadol" o Steinitz yn ei ddisgrifio fel un â thafod miniog a tymer drwg, efallai yn rhannol oherwydd ei statws byr (prin bum troedfedd) a'i gloffni cynhenid. [1] [29] [57] Cyfaddefodd "Fel Dug Parma, rydw i bob amser yn dal y cleddyf yn un llaw a'r gangen olewydd yn y llall", [74] ac ar ôl ei gythruddo gallai fod yn sarhaus mewn erthyglau cyhoeddedig. [75] Roedd yn ymwybodol o’i dueddiadau ei hun a dywedodd yn gynnar yn ei yrfa, “Ni fyddai unrhyw beth yn fy ysgogi i gymryd gofal o golofn gwyddbwyll . . . Oherwydd buaswn mor barod i roi bai yn ogystal â chanmol fel y buaswn yn sicr o droseddu a gwneud gelynion.” [76] Pan gychwynnodd ei yrfa newyddiaduraeth gwyddbwyll, profodd ei adolygiad di-flewyn-ar-dafod o The Chess Openings gan Wormald ym 1875 ei fod yn gywir. [77]

Dengys ei ohebiaeth bersonol, ei erthyglau ei hun a rhai erthyglau trydydd parti, fodd bynnag, fod ganddo berthynas hir a chyfeillgar â llawer o bobl a grwpiau yn y byd gwyddbwyll, gan gynnwys Ignác Kolisch (un o'i noddwyr cynharaf), Mikhail Chigorin, Harry Nelson Pillsbury, [37] Bernhard Horwitz, Amos Burn [74] a'r cymunedau gwyddbwyll o Giwba a Rwsia. [24] [37] Bu hyd yn oed yn cydweithio â Chyngres Gwyddbwyll America yn ei phrosiect i reoleiddio cystadlaethau'r dyfodol ar gyfer y teitl byd. [33]


Ymdrechodd Steinitz fod yn wrthrychol yn ei ysgrifau am gystadlaethau a gemau gwyddbwyll; er enghraifft, priodolodd i anlwc sgôr twrnamaint gwael gan Henry Edward Bird, nad oedd yn ei ystyried yn gyfaill iddo, [74] a bu'n hael ei ganmoliaeth i chwarae gwych gan ei elynion chwerw hyd yn oed. [78] Gallai brocio hwyl ar rai o'i rethreg ei hun; er enghraifft: “Dywedais y byddai’n well gen i farw yn America na byw yn Lloegr. . . . Ychwanegais y byddai'n well gen i golli gêm yn America nag ennill un yn Lloegr. Ond ar ôl ystyried y pwnc yn ofalus, rwyf wedi dod i’r casgliad nad wyf yn bwriadu marw hyd yn hyn, na cholli’r ornest.” [74] Mewn arddangosfa ar y cyd yn Rwsia tua adeg twrnamaint Saint Petersburg 1895-96, ffurfiodd Emanuel Lasker a Steinitz act ddwbl gomedi fyrfyfyr. [79]

Er bod ganddo egwyddorion cryf ynghylch ad-dalu dyledion, [24] [37] roedd Steinitz yn un drwg am reoli ei arian: gadawodd i gystadleuydd "botsian" llawer o'i gleientiaid ym 1862–63, [37] cynigiodd chwarae'r 1886 gêm teitl byd yn erbyn Johannes Zukertort am ddim, [14] a bu farw mewn tlodi yn 1900, gan adael ei weddw i oroesi trwy redeg siop fechan. [41]

Canlyniadau cystadleuol[golygu | golygu cod]

Canlyniadau twrnamaint[golygu | golygu cod]

Ffynonellau: [9] [7]  [18] [42] [80] [81]

Dyddiad Lle Safle Sgor Nodiadau
1859 Cymdeithas Gwyddbwyll Fienna 3ydd ? Tu ol i Carl

Hamppe ag Eduard Jenay.

1860 Cymdeithas

Gwyddbwyll Fienna

2il ? Currodd

Hammpe

1861 Cymdeithas

Gwyddbwyll Fienna

3rd ? Tu ol i Hammpe a Daniel Harrwitz
1862 Cymdeithas

Gwyddbwyll Fienna

1af 30/31  
1862 Twrnamaint

Rhyngwladol Llundain

6ed 8/13 Tu ol i

Adolf Anderssen Louis Paulsen John Owen George Alcock MacDonnell a Serafino Dubois. Enillodd Steinitz wobr arobryn wrth drechu Augustus Mongredien

1862 Pencampwriaeth

Llundain

1af 7/7  
1865 Dulyn 1af-

2il

3½/4 Ennilloedd ygemau ailgyfle efoG. A. MacDonnell.
1866 Twrnamaint

Handicap Llundain

1af 8/9 Curodd Steinitz Cecil Valentine De Vere (2–1), MacDonnell (2–0), Mocatta (2–0) – Rhoddodd Steinitz Filwr a 1symudiad , ac yn y ffeinal S. Green (2–0) – Rhoddodd

Steinitz filwr a dau symudiad.

1867 Twrnamaint Handicap Dundee 1af-

2il

3/3 .
1867 Dundee 2nd 7/9 Tu ol i Neumann (7½/9); o flaen MacDonnell, De Vere, Joseph Henry Blackburne, Robertson, J.C. Fraser, G.B. Fraser, Hamel a Spens.
1867 Paris 3ydd +18−3=3 Gorffennodd tu ol iIgnaz von Kolisch (+20−2=2) aSzymon Winawer (+19−4=1); ac o flaen Gustav Neumann, De Vere, Jules Arnous de Rivière, Hieronim Czarnowski, Celso Golmayo Zúpide, Samuel Rosenthal, Sam Loyd, D'Andre, Martin Severin From, ag Eugène Rousseau.
1870 Baden-Baden 2il 12½/18 Tu ol i Anderssen (13/18);

O flaen Neumann, Blackburne, Louis Paulsen, De Vere, Szymon Winawer, Rosenthal aJohannes von Minckwitz.

1872 Llundain 1af 7½/8 O flaenBlackburne (5/8), Johannes Zukertort, MacDonnell a De Vere.
1873 Fienna 1af

2il

10/11: 20½/25 Cyfartal efo Blackburne (10/11: 22½/30) a curo'r gem ail-gyfle 2–0; o flaen Anderssen (8½/11: 19/30), Rosenthal (7½/11: 17/28), Louis Paulsen, Henry Edward Bird, Heral, Max Fleissig, Philipp Meitner, Adolf Schwarz, Oscar Gelbfuhs a Karl Pitschel.

1882 Fienna 1af

2il

24/34 Yn gyfartal a Winawer ag yn gyfartal yn y gem ail-gyfle; o flaen Mason (23/24) Zukertort (22/34), Mackensie,

Blackburn, Berthold, Englisch, Paulsen ac eraill yn cynnwys Chigorin a Bird.

1883 Llundain 2il 19/26 Tu ol i Zukertort (22/26); o flaen Blackburne (16½/24), Chigorin 16/24, Englisch (15½/24), Mackenzie (15½/24), Mason (15½/24), Rosenthal, Winawer, Bird a pedwar arall.
1894 Pencampwriaeth Dinas Efro Newydd 1st 8½/10 Ar ol colli Pencampwriaeth

Y Byd i Lasker.

1895 Hastings 5ed 13/21 Tu ol i Harry Nelson Pillsbury (16½/21), Chigorin (16/21), Emanuel Lasker (15½/21), Siegbert Tarrasch (14/21); o flaen Emanuel Schiffers (12/21), Curt von Bardeleben (11½/21), Richard Teichmann (11½/21), Carl Schlechter (11/21), Blackburne (10½/21), Carl August Walbrodt, Amos Burn, Dawid Janowski, Mason, Bird, Isidore Gunsberg, Adolf Albin, Georg Marco, William Pollock, Jacques Mieses, Samuel Tinsley a Beniamino Vergani.
1895–96 Saint Petersburg 2il 9½/18 Tu ol i Emanuel Lasker (11½/18); o flaen Pillsbury (8/18) a Chigorin (7/18). Chwaraeodd4 chwaraewr gorau'r byd 6 gem yn erbyn eu gilydd.
1896 Nuremberg 6ed 11/18 Tu ol i Emanuel Lasker 13½/18, Géza Maróczy (12½/18), Pillsbury (12/18), Tarrasch (12/18), Janowski (11½/18); o flaen Walbrodt, Schiffers, Chigorin, Blackburne, Rudolf Charousek, Marco, Albin, Winawer, Jackson Showalter, Moritz Porges, Emil Schallopp a Teichmann.
1897 Efrog Newydd 1af-

2il

2½/4
1898 Fienna 4ydd 23½/36 Tu ol i Tarrasch (27½/36), Pillsbury (27½/36), Janowski (25½/36); o flaen Schlechter, Chigorin, Burn, Paul Lipke, Maroczy, Simon Alapin, Blackburne, Schiffers, Marco, Showalter, Walbrodt, Alexander Halprin, Horatio Caro, David Graham Baird a Herbert William Trenchard.
1898 Cologne 5th 9½/15 Tu ol i Burn, Charousek, Chigorin a Wilhelm Cohn; o flaen

Schlechter, Showalter, Johann Berger, Janowski a Schiffers .

1899 London 10–11th 11½/27 Tu ol i Emanuel Lasker (23½/27), Janowski (19/27), Maróczy (19/27), Pillsbury (19/27), Schlechter (18/27), Blackburne (16½/27), Chigorin (16/27), Showalter (13½/27), Mason (13/27). Dyma'r tro cyntaf ers 1859 iddo beidio ennill pres mewn twrnamaint.

Gemau nodedig[golygu | golygu cod]

  • Steinitz vs. Augustus Mongredien, Llundain 1862. [82] Enillodd y Wobr Disgleirdeb yn Nhwrnamaint Rhyngwladol Llundain 1862. [7] 
  • Adolf Anderssen vs. Steinitz; Gêm 13eg gêm, Llundain 1866. [83] Roedd Emanuel Lasker o'r farn bod yr ymosodiad hwn, sydd wedi'i baratoi'n dda, yn rhagflaenydd i'r ymagwedd strategol a argymhellodd Steinitz yn ddiweddarach. [84]
  • Johannes Zukertort yn erbyn. Steinitz, PYB (9fed gêm y gêm) 1886, Gambit y Frenhines wedi'i Gwrthod: Fienna. Amrywiad Tawel (D37), 0–1 . [85] Mae Steinitz yn cyfnewid ei ganol pwerus i greu dau filwr gwan ar ochr y frenhines i Gwyn ac yn creu pwysau cryf yn eu herbyn. Yn y pen draw, mae Zukertort yn ceisio cwffio'i ffordd allan o drwbl, ond mae Steinitz yn ennill gyda gwrthymosodiad sydyn. [57]
  • Steinitz vs. Mikhail Chigorin, Havana PYB 1892 (16eg gêm yr ornest), Ruy Lopez, 1–0 . [86] Mae Steinitz yn gwanhau milwyr Chigorin, yn ennill symudredd gwell ac yna'n gorfodi dyrchafiad milwr gyda chymorth cyfuniad fach. [87]
  • Steinitz vs. Mikhail Chigorin, Havana PYB 1892 (4edd gêm yr ornest), Gêm Sbaeneg: Cyffredinol (C65), 1–0. [88] Mae paratoi sefyllfaol yn creu'r cyfle am ymosodiad cyflym sy'n arwain at fuddugoliaeth ar y 29ain symudiad. [57]
  • Steinitz vs. Curt von Bardeleben, Hastings 1895, Gêm Eidalaidd: Amrywiad Clasurol. Lein Draddodiadol Greco Gambit (C54), 1–0. [89] Cyfuniad ymosodol gwych yn arddull yr hen 1860au. Ar ôl 22ain symudiad Gwyn, mae'r darnau gwyn i gyd en prise ond mae Black ar goll. Enillodd y gêm wobr ddisgleirdeb gyntaf y twrnamaint. [57]

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

  • Cofeb Steinitz, twrnamaint gwyddbwyll blitz a gynhaliwyd rhwng 15 Mai a 17 Mai, 2020, er anrhydedd i Wilhelm Steinitz
  • Rhestr o chwaraewyr gwyddbwyll Iddewig
  • Amrywiad Steinitz

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 1.2 1.3 Schoenberg, Harold C. (1981). Grandmasters of Chess (arg. Rev.). New York: W.W. Norton & Co. t. 99.
  2. Landsberger, Kurt (2006). William Steinitz, Chess Champion. McFarland & Co. t. 17. ISBN 978-0-7864-2846-5.
  3. The World Chess Championship, by I.A. Horowitz, Macmillan, New York, 1973, p. 19; Library of Congress Card Catalog Number 72-80175
  4. "Scores of various important chess results from the Romantic era". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2008-05-28. Cyrchwyd 2023-04-30.
  5. Shibut, Macon (May 7, 2014). Paul Morphy and the Evolution of Chess Theory. Mineola, New York: Dover Publications. t. 82. ISBN 978-0486435749.
  6. Horowitz, p. 20
  7. 7.00 7.01 7.02 7.03 7.04 7.05 7.06 7.07 7.08 7.09 7.10 Bill Wall. "William Steinitz". Bill Wall's Chess Page. Cyrchwyd 2023-03-30.
  8. Kasparov, Garry (2003). My great predecessors: Part I. Everyman Chess. tt. 46. ISBN 1 85744 330 6.
  9. 9.0 9.1 "Scores of various important chess results from the Romantic era". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2008-05-28. Cyrchwyd 2023-04-30.
  10. Horowitz, p. 20
  11. "Chessmetrics Player Profile: Joseph Blackburne". Cyrchwyd 2008-11-19.
  12. 12.0 12.1 12.2 12.3 12.4 12.5 12.6 Silman, Jeremy. "Wilhelm Steinitz". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2008-06-19. Cyrchwyd 2008-11-19.
  13. The World Chess Championship, by I.A. Horowitz, 1973, Macmillan, New York, pp. 23–24, Library of Congress Catalog Card Number 72-80175
  14. 14.0 14.1 14.2 14.3 14.4 14.5 14.6 14.7 Winter, E. "Early Uses of 'World Chess Champion'".
  15. Conversion based on average incomes, which are the most appropriate measure for a few weeks' hard work. If we use average prices for the conversion, the result is about £6,500. "Five Ways to Compute the Relative Value of a U.K. Pound Amount, 1830 to Present". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2008-12-16. Cyrchwyd 2008-11-19.
  16. "Baden-Baden 1870". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2008-10-26. Cyrchwyd 2008-11-19.
  17. 17.0 17.1 17.2 17.3 "Ready for a big chess match". New York Times. 11 March 1894. https://timesmachine.nytimes.com/timesmachine/1894/03/11/106900358.pdf. Adalwyd 2008-11-19. Note this article implies that the final combined stake was US $4,500, but Lasker's financial analysis says it was $4,000: Emanuel Lasker (January 1905). "From the Editorial Chair". Lasker's Chess Magazine 1. http://en.wikisource.org/wiki/Lasker%27s_Chess_Magazine/Volume_1. Adalwyd 2008-05-31.
  18. 18.0 18.1 "World Exhibitions". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2008-06-19. Cyrchwyd 2008-11-19.
  19. "History of the CCA". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2008-12-17. Cyrchwyd 2008-11-19.
  20. Conversion based on average incomes: "Five Ways to Compute the Relative Value of a U.K. Pound Amount, 1830 to Present". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2008-12-16. Cyrchwyd 2008-11-19.
  21. Winter, E. "Kasparov, Karpov and the Scotch".
  22. "Chessmetrics: Career ratings for Mason, James". Cyrchwyd 2008-11-19.
  23. Using average incomes for the conversion: "Five Ways to Compute the Relative Value of a U.K. Pound Amount, 1830 – 2006: £150 in 1882". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2008-12-16. Cyrchwyd 2008-11-19.
  24. 24.0 24.1 24.2 24.3 24.4 24.5 24.6 Landsberger, K. (2002). The Steinitz Papers: Letters and Documents of the First World Chess Champion. McFarland. ISBN 978-0-7864-1193-1.
  25. "Vienna 1882 and 1898". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2008-12-16. Cyrchwyd 2008-11-19.
  26. 26.0 26.1 "International Chess Tournament Vienna 1882". 2005-01-03. Cyrchwyd 2008-11-19.
  27. "World Chess Champions: Wilhelm Steinitz". Cyrchwyd 2008-11-19.
  28. Mark Weeks' Chess Pages: "1883 London Tournament". Cyrchwyd 2008-11-19.
  29. 29.0 29.1 29.2 "Steinitz, the chess champion" (PDF). New York Times. January 23, 1887. Cyrchwyd 2008-11-19.
  30. 30.0 30.1 Landsberg, K. (1993). William Steinitz: A biography of the Bohemian Caesar. McFarland & Co.
  31. "Steinitz - Zukertort World Championship Match (1886)".
  32. Horowitz, p. 30
  33. 33.0 33.1 33.2 33.3 33.4 33.5 Thulin, A. (August 2007). "Steinitz—Chigorin, Havana 1899 – A World Championship Match or Not?" (PDF). Cyrchwyd 2008-05-30. Based on Landsberger, K. (2002). The Steinitz Papers: Letters and Documents of the First World Chess Champion. McFarland. ISBN 978-0-7864-1193-1. Cyrchwyd 2008-11-19.
  34. Wilhelm Steinitz (December 1887). "(title unknown)". International Chess Magazine 3: 370–71. http://www.anders.thulin.name/SUBJECTS/CHESS/SteinitzChigorin1889.pdf. Adalwyd 2008-06-15.
  35. The World Chess Championship, by I.A. Horowitz, New York, Macmillan, 1973, p. 41
  36. Using incomes for the adjustment factor, as the outcome depended on a few months' hard work by the players; if prices are used for the conversion, the result is about $114,000 – see "Six Ways to Compute the Relative Value of a U.S. Dollar Amount, 1774 to Present". Cyrchwyd 2017-03-28. However, Lasker later published an analysis showing that the winning player got $1,600 and the losing player $600 out of the $4,000, as the backers who had bet on the winner got the rest: Emanuel Lasker (January 1905). "From the Editorial Chair". Lasker's Chess Magazine 1. http://en.wikisource.org/wiki/Lasker%27s_Chess_Magazine/Volume_1. Adalwyd 2008-05-31.
  37. 37.0 37.1 37.2 37.3 37.4 37.5 37.6 "The Steinitz Papers – review". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2007-11-24. Cyrchwyd 2008-11-19.
  38. The World Chess Championship by I.A. Horowitz, Macmillan, New York, 1973, p. 42
  39. Giffard, Nicolas (1993). Le Guide des Échecs (yn Ffrangeg). Éditions Robert Laffont. t. 394.
  40. "Lasker v. Steinitz – World Championship Match 1894". Cyrchwyd 2008-05-30.
  41. 41.0 41.1 41.2 41.3 41.4 "William Steinitz dead". New York Times. August 14, 1900. Cyrchwyd 2008-11-19. Also available in 2 parts at "Steinitz Obituary (Part 1 of 2)". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2008-12-16. Cyrchwyd 2008-11-19. and "Steinitz Obituary (Part 2 of 2)". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2008-12-16. Cyrchwyd 2008-11-19.
  42. 42.0 42.1 "Major Chess Matches and Tournaments of the 19th century". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2007-09-26.
  43. Weeks, M. "World Chess Championship: 1896 Lasker – Steinitz Title Match". Cyrchwyd 2008-11-19.
  44. Dating the start of Steinitz's reign to 1886:
  45. See the extracts from contemporary documents at Winter, E. "Early Uses of 'World Chess Champion'". The 1882 quote from Steinitz, two years before Morphy's death, might be interpreted as claiming that he was champion from 1866, but the 1888 extract is his first absolutely unambiguous claim to have been champion since 1866.
  46. Keene, Raymond; Goodman, David (1986). The Centenary Match, Kasparov–Karpov III. Collier Books. tt. 1–2. ISBN 978-0-02-028700-1.
  47. Spinrad, J.P. (2006). "Early World Rankings" (PDF). chesscafe.com.
  48. MacDonnell, G.A. (1894). The Knights and Kings of Chess. London.:
  49. Steinitz, W. (May 1891). "(unknown)". International Chess Magazine: 146–47. http://www.chesshistory.com/winter/winter15.html#3974._The_Steinitz-Wormald-MacDonnell_. Adalwyd 2008-11-19.
  50. See extracts from UK census records for 1871 and 1881 at Edward Winter. "Chess Note 4756: Census information". Cyrchwyd 2008-11-19.
  51. "Chess and Brain Disease" (PDF). New York Times. February 23, 1897. Cyrchwyd 2008-11-19. The key passage is also quoted at "Obituaries" (PDF). Cyrchwyd 2008-11-19.
  52. Hans Kmoch. "Grandmasters I Have Known – Emanuel Lasker" (PDF). ChessCafe.com. Cyrchwyd 2008-11-19. (see last sentence)
  53. 53.0 53.1 "Steinitz free once more" (PDF). Baltimore American. April 10, 1900. https://news.google.com/newspapers?id=NOlBAAAAIBAJ&dq=steinitz%20-chess%20-yuval&pg=4450%2C6685109. Adalwyd 2011-11-30.
  54. ChessBase: Visiting Steinitz and Lasker at Their Final Resting Places
  55. 55.0 55.1 Pickard, Sid, gol. (1995). Hastings 1895: The Centennial Edition. Pickard and Son. ISBN 978-1-886846-01-2.
  56. Silman, J. "Wilhelm Steinitz". Jeremy Silman. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2008-06-19. Cyrchwyd 2008-11-19. Several examples of Steinitz testing his theories in top-class play.
  57. 57.0 57.1 57.2 57.3 57.4 57.5 57.6 57.7 Fine, R. (1952). "Wilhelm Steinitz". The World's Great Chess Games. Andre Deutsch (now as paperback from Dover). tt. 30–37.
  58. The "Notable games" section contains two examples of positional play leading to powerful attacks, Johannes Zukertort vs Wilhelm Steinitz, 9th game of their 1886 World Championship match and 4th game of his 1892 match against Mikhail Chigorin
  59. Lasker, Emanuel (1947). "The Evolution of the Theory of Steinitz". Lasker's Manual of Chess. David McKay. t. 199.
  60. For example in the 9th game of Steinitz vs Zukertort 1886.
  61. See the individual game reports by 3 US journals, linked to in "Gunsberg–Steinitz Match, World Championship 1890–91". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2008-12-16. Cyrchwyd 2008-11-19.
  62. "A New Chess Book". New York Times. May 13, 1888. t. 13. Cyrchwyd 2008-06-19.
  63. 63.0 63.1 Emanuel Lasker (1960) [1925]. Lasker's Manual of Chess. Dover. ISBN 978-0-486-20640-0. Cyrchwyd 2008-05-31. Also at "WikiQuote: Paul Morphy". Cyrchwyd 2008-11-19.
  64. Kramnik, V. "Kramnik Interview: From Steinitz to Kasparov". Vladimir Kramnik. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2008-05-12. Cyrchwyd 2008-11-19.
  65. Steinitz, W. (1885–1891). Fiala, V. (gol.). InternationalChessMagazine. Moravian Chess. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2008-05-20. Cyrchwyd 2023-04-30. Reviewed at Watson, J. (2004). "International Chess Magazine". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2008-12-16. Cyrchwyd 2008-11-19.
  66. "New York 1889 and 1924". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2008-06-19. Cyrchwyd 2008-11-19.
  67. 67.0 67.1 Available as part of the CD collection Pickard, S. (gol.). The Collected Works of Wilhelm Steinitz. Chess Central. Cyrchwyd 2008-11-19.
  68. Keene, Raymond; Divinsky, Nathan (1989). Warriors of the Mind. Brighton, UK: Hardinge Simpole. See the summary list at "All Time Rankings". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2009-11-26. Cyrchwyd 2008-05-02.
  69. "Peak Average Ratings: 3 year peak range". Cyrchwyd 2008-11-19.
  70. Sonas, Jeff. "Chessmetrics: Formulas". Cyrchwyd 2008-11-19.
  71. Sonas, J. (2005). "The Greatest Chess Player of All Time – Part I". Chessbase. Cyrchwyd 2008-11-19. Part IV gives links to all 3 earlier parts: Sonas, J. (2005). "The Greatest Chess Player of All Time – Part IV". Chessbase. Cyrchwyd 2008-11-19.
  72. Watson, J. (2004). "The Collected Works of Wilhelm Steinitz". Jeremy Silman. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-04-19. Cyrchwyd 2023-04-30. review of a book edited by Sid Pickard
  73. Euwe, Max (1976). From Steinitz to Fischer. Belgrade: Chess Informant.
  74. 74.0 74.1 74.2 74.3 Winter, E. "Steinitz Quotes".
  75. Winter, E. "Chess with Violence".
  76. MacDonnell, G.A. (1894). The Knights and Kings of Chess. London. tt. 39–40. Cyrchwyd 2008-11-19.
  77. Steinitz, W. (November 1875). "(review of Wormald's The Chess Openings)". City of London Chess Magazine: 297–304. and Steinitz, W. (December 1875). "(review of Wormald's The Chess Openings)". City of London Chess Magazine: 331–36. Extracts at Winter, E. "Chess Note 3974: The Steinitz–Wormald–MacDonnell controversy". Cyrchwyd 2008-11-19. Winter concludes his commentary with, "If instances can be identified of Steinitz being wrong in his denunciation of Wormald, we should like to be informed."
  78. e.e. pan gurodd Zukertort's Blackburne yn nhwrnamaint Llundain 1883 (lle gorffennodd Steinitz yn ail i Zukertort) dywedodd "un o'r gemau gorau ar record", a Blackburne yn curo Schwarz ym Merlin, 1881 - "Mae bwriad Gwyn, yn arbennig o'r 21fed symudiad ynghyd a'r gorffen gwych, yn un o'r enghreifftiau gorau o athrylith mewn gwyddbwyll yn y byd modern." Fine, R. (1952). The World's Great Chess Games. Andre Deutsch (now as paperback from Dover). Zukertort's win is at "Zukertort's Immortal: Johannes Zukertort vs Joseph Henry Blackburne, London, 1883". Blackburne's win is at "Joseph Henry Blackburne vs Jacques Schwarz, Berlin, 1881".
  79. "Wilhelm Steinitz in Russia 1895–96". Quarterly for Chess History (3). 1999. http://www.chessville.com/reviews/QCH19993.htm. Adalwyd 2008-05-06.
  80. "I tornei di scacchi fino al 1879". Cyrchwyd 2008-11-19.
  81. "I tornei di scacchi dal 1880 al 1899". Cyrchwyd 2008-11-19.
  82. "Wilhelm Steinitz vs. Augustus Mongredien, London 1862". Chessgames.com.
  83. "Adolf Anderssen vs. Wilhelm Steinitz, London 1866". Chessgames.com.
  84. Lasker, Emanuel (1947). "The Evolution of the Theory of Steinitz". Lasker's Manual of Chess. David McKay. tt. 200–02.
  85. "Johannes Zukertort vs. Wilhelm Steinitz, WCH 1886". Chessgames.com.
  86. "Wilhelm Steinitz vs. Mikhail Chigorin, Havana WCH 1892". Chessgames.com.
  87. Golombek, H. (1954). "The Great Masters: Steinitz". The Game of Chess. Penguin Books. tt. 209–12.
  88. "Wilhelm Steinitz vs. Mikhail Chigorin, Havana WCH 1892". Chessgames.com.
  89. "Wilhelm Steinitz vs. Curt von Bardeleben, Hastings 1895". Chessgames.com.