WhatsApp

Oddi ar Wicipedia
WhatsApp
Enghraifft o'r canlynolgwasanaeth ar-lein, instant messaging client, ap ffôn, prosiect Edit this on Wikidata
Dyddiad cyhoeddiIonawr 2009 Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu24 Chwefror 2009 Edit this on Wikidata
PerchennogWhatsApp LLC Edit this on Wikidata
Yn cynnwysSignal Protocol, qcom.c Edit this on Wikidata
Statws hawlfraintdan hawlfraint Edit this on Wikidata
SylfaenyddBrian Acton, Jan Koum Edit this on Wikidata
DosbarthyddMicrosoft Store, App Store, Google Play Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://whatsapp.com/ Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Logo adnabyddus WhatsApp

Mae WhatsApp yn gymhwysiad meddalwedd sy'n dibynnu ar y rhyngrwyd a ddatblygwyd ar gyfer ffôn clyfar. Yn ogystal â'r swyddogaeth SMS, gellir defnyddio'r cymhwysiad hefyd i ffurfio sgyrsiau grŵp, anfon lluniau, negeseuon cyfryngau fideo a sain rhwng defnyddwyr WhatsApp. Mae'r cymhwysiad ar gael ar gyfer ffonau smart iPhone ac Android.

Hanes[golygu | golygu cod]

Sefydlwyd WhatsApp Inc. yn 2009 gan Brian Acton a Jan Koum, y ddau o gwmni a platfform Yahoo!, ac mae wedi'i leoli yn Nyffryn Silicon.[1]

Mae'r cymhwysiad yn cystadlu â nifer o wasanaethau SMS Asiaidd (fel LINE, KakaoTalk a WeChat). Ym mis Hydref 2011, cyrhaeddwyd biliwn o negeseuon dyddiol[2] ac roedd y nifer wedi dyblu ym mis Ebrill 2012.[3] Cyrhaeddwyd 10 biliwn ym mis Awst 2012.[4]

Ieithoedd ar WhatsApp[golygu | golygu cod]

Sgwrsio ar Whatsapp

Mae wyneb ddalen WhatsApp ar gael mewn 60 iaith ar y fersiwn Android a 40 ar y fersiwn iPhone.[5] Ymysg yr ieithoedd yma mae'r ieithoedd mwyaf fel Saesneg, Ffrangeg, Sbaeneg a hefyd 10 iaith yn India (Hindi, Bangla, Punjabi, Telugu, Marathi, Tamil, Wrdw, Gwjarati, Kannada, Malayalam) ac ieithoedd llai fel Afrikaans a Gwyddeleg. Yn anffodus, dydy'r Gymraeg ddim yn un o'r ieithoedd sydd ar gael.

Priodweddau[golygu | golygu cod]

Cymharodd Financial Times effaith WhatsApp ar y farchnad negeseuon testun â ditto Skype ar gyfer teleffoni llinell dir.[1]

Mae'r cymhwysiad yn freeware (radwedd),[6] ac ar ôl ei osod nid oes unrhyw gostau ychwanegol ar ffurf e.e. setliad tanysgrifiad neu ddefnydd. Mae hyn yn gysylltiedig â'r ffaith bod y traffig yn defnyddio cysylltiad rhyngrwyd y ffôn trwy'r rhwydwaith symudol neu Wi-Fi.

Wrth osod WhatsApp, rydych chi'n creu cyfrif defnyddiwr gyda manylion eich cyfeiriad e-bost a'ch rhif ffôn. Yn seiliedig ar lyfr cyfeiriadau ffôn y defnyddiwr, mae'r rhaglen yn cynnal chwiliad yn y gronfa ddata defnyddwyr i ddod o hyd i rifau cyfatebol.

Caffaelodd Facebook y gwasanaeth WhatsApp yn 2014 am $16 biliwn, gan gynnwys $4 biliwn mewn arian parod a thua $12 biliwn mewn stoc Facebook. Mae'r cytundeb hefyd yn caniatáu ar gyfer rhoi $3 biliwn ychwanegol mewn cyfranddaliadau wrth gefn i sylfaenwyr a gweithwyr WhatsApp a fydd yn breinio dros bedair blynedd ar ôl cau.[7]

Controfersi[golygu | golygu cod]

Ym mis Medi 2021, rhoddodd yr Awdurdod Diogelu Data yn Iwerddon (lle mae pencadlys Ewropeaidd Facebook) ddirwy o 225 miliwn ewro ar WhatsApp am rannu gwybodaeth defnyddwyr yn anghyfreithlon â chwmnïau eraill sy'n eiddo i Facebook ac am beidio â gwneud eu defnyddwyr yn ddigonol ymwybodol o sut y defnyddiwyd y wybodaeth. Galwodd WhatsApp y ddirwy yn anghymesur a bydd yn apelio yn erbyn y penderfyniad.[8]

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 Bradshaw, Tim (2011-11-14). "WhatsApp users get the message". Financial Times. Cyrchwyd 2013-05-29.
  2. Olanoff, Drew (2011-10-31). "WhatsApp users now send over one billion messages a day". The Next Web. Cyrchwyd 2013-05-29.
  3. Russell, Jon (2012-04-04). "WhatsApp founder to operators: We're no SMS-killer, we get people hooked on data". The Next Web. Cyrchwyd 2013-05-29.
  4. Olanoff, Drew (2012-08-23). "WhatsApp hits new record with 10 billion total messages in one day". The Next Web. Cyrchwyd 2013-05-29.
  5. "How to change WhatsApp's language". Gwefan WhatsApp. Cyrchwyd 28 Hydref 2022.
  6. WhatsApp Messenger on the App Store
  7. "WhatsApp får milliardbøde for brud på datalovgivning". Berlingske. 2 Medi 2021.
  8. "WhatsApp får milliardbøde for brud på datalovgivning". Berlingske. 2 Medi 2021.