Ulrich Zwingli

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Zwingli

Diwygiwr crefyddol o'r Swistir oedd Ulrich Zwingli (hefyd Huldrych Zwingli neu Huldreich Zwingli yn Almaeneg ; Ulricus Zuinglius yn Lladin) (1 Ionawr, 148411 Hydref, 1531). Ef oedd arweinydd y Diwygiad Protestannaidd yn y Swistir a sefydlwr Eglwysi Diwygiedig y Swistir. Daeth Zwingli i gasgliadau diwinyddol tebyg i rai ei gyfoeswr Martin Luther, ond gyda rhai gwahaniaethau pwysig, trwy astudio'r Ysgrythurau Cristnogol o safbwynt ysgolhaig dyneiddol. Yn ogystal, roedd yn wladgarwr Swisaidd pybyr.

Ganed Zwingli yn Wildhaus yng nghanton St. Gallen ar ddechrau 1484. Astudiodd yn Bern, Fienna a Basel a daeth yn offeiriad yn Glarus yn 1506. Treuliodd ddau gyfnod fel caplan i filwyr hur Glarus yn y rhyfel yn yr Eidal (1513, 1515). Dychwelodd i'r Swistir lle cafodd bywiolaeth yn Einsiedeln. Roedd y dref yn enwog fel cyrchfan pererindod i weld y Forwyn Ddu (delw o'r Forwyn Fair) a daeth Zwingli i ddirmygu'r "ofergoeledd" hynny.[1]

Symudodd i ddinas Zürich lle cafodd ei ethol yn bregethwr yn eglwys y Grossmünster. Yn ogystal â phregethu'r Efengyl, llwyddodd i berswadio gwŷr Zurich i beidio cymryd rhan yng nghynghrair y cantonau eraill gyda Ffrainc. Yn 1523 mabwysiadodd cyngor Zürich 67 Pwynt Zwingli; carreg filltir yn hanes y Diwygiad yn y Swistir ac Ewrop gyfan. Dros y blynyddoedd nesaf gwnaeth sawl diwygiad yn cynnwys hebgor y sagrafen.[1]

Yn 1529 bu yng nghynhadledd Marburg ac anghytunodd â Luther yngylch natur y sagrafen. Arweiniodd hyn yn nes ymlaen at rwyg sylfaenol yn yr eglwysi Protestannaidd. Ond roedd cantonau eraill yn y Swistir, Cantonau'r Goedwig, yn elyniaethus tuag at Zwingli a Zürich a ffurfwyd cynghrair yn eu herbyn. Datganodd Zürich ryfel yn 1529 ar ôl i un o bregethwyr y ddinas gael ei losgi'n fyw ar ôl cael ei ddal ar dir niwtral. Yn Hydref 1531 ymosododd Cantonau'r Goedwig ar Zürich yn ddirybudd. Trechwyd gwŷr Zürich a lladdwyd Zwingli ei hun yn y frwydr i amddiffyn y ddinas.[1]

Cyfeirir at ei ddysgeidiaeth fel Zwinglïaeth ('Zwinglïaidd' yw'r gair olaf a restrir yng Ngeiriadur Prifysgol Cymru).[2]

Cyfeiriadau[golygu]

  1. 1.0 1.1 1.2 Chamber's Biographical Dictionary.
  2. Geiriadur Prifysgol Cymru, cyfrol IV, tud. 3872.