Rhiwledyn

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad oddi wrth Trwyn y Fuwch)
Neidio i: llywio, chwilio
Rhiwledyn o rodfa môr Llandudno

Penrhyn creigiog ar arfordir gogledd Cymru sy'n codi 141 metr (463 troedfedd) uwch lefel y môr yw Rhiwledyn a adnabyddir hefyd fel Trwyn y Fuwch, Trwyn y Gogarth neu'r Gogarth Fach (Saesneg: Little Orme), Cyfeirnod OS: SH8182. Mae'n un o ddau benrhyn calchfaen sy'n gorwedd yn nau ben Bae Llandudno, ym mwrdeistref sirol Conwy; Pen y Gogarth, i'r gorllewin, yw'r ail a'r mwyaf o'r ddau. Mae'n gorwedd rhwng Craig-y-don i'r gorllewin a Bae Penrhyn i'r dwyrain ac yn ffurfio pwynt gogledd-ddwyreiniol y Creuddyn.

Cyfeirio at greigiau'r penrhyn hwn o dir a wna'r enw hynafol 'Creigiau Rhiwledyn' neu 'Raulyn' fel y'i sillefid yn 1284.[1] Rhestrir pwynt uchaf y penrhyn yn gopa HuMP dan yr enw Creigiau Rhiwledyn.

Defnydd tir[golygu]

Mewn cyferbyniaeth â'r Gogarth dros y bae, ni chafodd Rhiwledyn ei ddatblygu ar gyfer cloddio copr na twristiaeth. Ond agorwyd chwarel calchfaen ganol y 1800au ar ochr Bae Penrhyn. Canolwyd y gwaith ym Mhorth Dyniewyd ac fe'i gwasanaethwyd gan dramffordd chwarel; daeth y chwarelu i ben ym 1936. Defnyddir rhai o'r llethrau isaf ar gyfer ffermio, fel porfa defaid yn bennaf.

Ers y 1970au mae creigiau'r gogledd yn boblogaidd gan ddringwyr sy'n ceisio sialens, ond mae'r dringo'n anodd ac yn gofyn am gryn brofiad gan fod y graig yn anniogel weithiau.

Ecoleg[golygu]

Mae rhannau o Riwledyn (yn bennaf Gwarchodfa Natur Rhiwledyn) yn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig. Mae'n warchodfa adar yn ogystal, gyda wardeiniaid yn cadw golwg ar yr adar môr niferus. Gellir gweld yr adar hyn trwy gymryd taith ar hyd gwaelod y clogwynni mewn cychod bach, sy'n rhedeg o Landudno yn yr haf.

Rhed Llwybr Gogledd Cymru ar draws Rhiwledyn, gan ddefnyddio'r llwybrau cyhoeddus sy'n arwain i'r copa.

Hanes[golygu]

Bu pobl yn byw ar Riwledyn ar ddechrau Hen Oes y Cerrig, a chafwyd hyd i olion o'r cyfnod yn ogof Pant y Wennol.

Darganfuwyd celc bychan o waith metel Celtaidd o gyfnod Oes yr Haearn mewn ogof ar y penrhyn.

Yn yr Oesoedd Canol gorweddai Rhiwledyn yng nghwmwd y Creuddyn, cantref Rhos. Ceir adfeilion capel canoloesol cysegredig i'r 'Forwyn Fair o'r Penrhyn', ar y llethrau isaf ger Hen Neuadd Penrhyn; rhoddwyd gorau i'w ddefnyddio ym 1930 ac mae'r adfeilion mewn cyflwr drwg erbyn heddiw.

Ar 14 Ebrill 1587, cafwyd hyd i wasg gudd ar gyfer llenyddiaeth Gatholig mewn ogof ar Riwledyn, a gafodd ei defnyddio gan y reciwsant lleol Robert Pugh o'r Penrhyn a'i gaplan y Tad William Davies i argraffu Y Drych Cristianogawl (gan Robert Gwyn neu Gruffydd Robert), y llyfr cyntaf i gael ei gyhoeddi yng Nghymru. Llochesant yno i geisio dianc yr erledigaeth ar Gatholigion a gychwynwyd gan Elisabeth I o Loegr ym Mai 1586.

Cyfeiriadau[golygu]

  1. Hywel Wyn Owen; Richard Morgan. Dictionary of the Place-Names of Wales. Gwasg Gomer, 2007; tudalen 214. ISBN 978-1-84323-901-7

Ffynonellau[golygu]

Dolenni allanol[golygu]