Treowen
Math | plasty gwledig |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Lleoliad | Llanfihangel Troddi |
Sir | Sir Fynwy |
Gwlad | Cymru |
Uwch y môr | 74 metr |
Cyfesurynnau | 51.796°N 2.78221°W |
Cod post | NP25 4DL |
Statws treftadaeth | adeilad rhestredig Gradd I |
Manylion | |
Mae Treowen (neu Tre-owen ) yn dŷ a adeiladwyd ar ddechrau'r 17g yn Sir Fynwy, Cymru, a ystyrir fel "y tŷ bonedd pwysicaf (o'i ddyddiad) yn y sir".
Mae wedi'i leoli yng nghefn gwlad, ym mhlwyf Llanwarw, tua ½ milltir (1 km) i'r gogledd-ddwyrain o bentref Llanddingad, a 3 milltir i'r de-orllewin o Fynwy. Mae'n adeilad rhestredig Gradd I, ac, ar ôl cael ei ddefnyddio fel ffermdy am dair canrif, mae bellach yn lleoliad cynadleddau a digwyddiadau a dyma leoliad Ŵyl flynyddol Gerdd Siambr Dyffryn Gwy.
Hanes[golygu | golygu cod]
There is something very moving about the distant view of Treowen, rising suddenly, high and lonely, out of the fields. It has no park, for it has been a farm since the 17th century, but the lack of elaborate setting suits its character. It is not a sophisticated building but strong, massive and generous. The depredations of time and fallen fortune have removed a good deal, but nothing has been added: everything that is there is genuine, unaltered work of its age. - Mark Girouard, 1960[1]
Adeiladwyd y tŷ tua 1623–27 ar gyfer William Jones, ar safle adeilad o'r 15g.[2] Bu Jones yn Aelod Seneddol dros Sir Fynwy yn am gyfnod byr yn 1614, a bu'n Uchel Siryf Sir Fynwy yn 1615. Yn ddiweddarach, etifeddodd ffortiwn gan ei ewythr, masnachwr yn Llundain.
Symudodd y teulu Jones o'r tŷ yn y 1670au, a'i roi ar osod fel ffermdy. Ni addaswyd yr adeilad ei hun lawer, heblaw am gael gwared â llawr uchaf ar flaen yr adeilad yn y 18g. [3] [2] Gwerthwyd y tŷ i'r tenantiaid meddiannol ym 1945, a pharhawyd i'w ddefnyddio fel ffermdy tan 1993. Yn 1960, disgrifiodd yr hanesydd pensaernïol Mark Girouard y tŷ mewn erthygl yn Country Life (gweler y blwch dyfynnu). Mae gerddi'r tŷ yn cynnwys olion gardd Duduraidd, gan gynnwys clawdd hirsgwar ar ochr ogleddol y tŷ, rhodfa a phyllau pysgod addurnol.[4]
Mae'r tŷ bellach yn cael ei ddefnyddio fel canolfan ar gyfer cynadleddau a gwyliau, ac fel lleoliad ar gyfer priodasau ac achlysuron eraill. Fe'i ddefnyddiwyd hefyd ar gyfer ffilmio rhaglenni teledu, gan gynnwys Doctor Who .[5] Mae Treowen yn gartref i Ŵyl Gerddoriaeth Siambr Dyffryn Gwy, a gynhelir yn flynyddol ym mis Ionawr a mis Gorffennaf.[6]
Pensaernïaeth a disgrifiad[golygu | golygu cod]
Mae'r hanesydd pensaernïol John Newman yn ystyried Treowen fel y "tŷ bonedd pwysicaf o'r 17eg ganrif" yn Sir Fynwy. [3] Mae wedi'i adeiladu i gynllun pentwr dwbl [7] ac o Hen Dywodfaen Coch Coch, gyda blociau carreg lliw caramel a naddiad tywodfaen werdd o Pen-y-bont ar Ogwr.[8] Roedd y tŷ yn fawr iawn yn ôl safonau lleol yr oes, gyda golygfeydd helaeth. Ysgrifennodd Newman "pan adeiladwyd y tŷ yn wreiddiol, mae'n rhaid bod ei uchder wedi bod yr un mor frawychus a'i ddyluniad ailadroddus". [3] Newidiwyd y ffasâd diaddurn gwreiddiol yn gynnar yn ei hanes trwy ychwanegu cyntedd, gyda "rhagwedd glasurol o ddiffyg coethder", [3] ac arfbais Jones.
Y tu mewn i'r tŷ, mae'r ystafelloedd ar y llawr gwaelod yn codi i uchder o 17 troedfedd. Mae yna ystafell banel derw gyda nenfwd plastr a lle tân Jacobeaidd, a grisiau mawreddog gyda 72 gris. Dyma'r grisiau ffynnon agored cynharaf y gellir eu cofnodi ar gyfer Sir Fynwy . [3] Yn wreiddiol, roedd y neuadd fawr, neu wledda hon, yn dal "sgrin wedi'i cherfio'n hardd" ond mae'r hynefydd o Sir Fynwy, Joseph Bradney, yn ei aml-gyfrol A History of Monmouthshire from the Coming of the Normans into Wales down to the Present Time, yn cofnodi bod y sgrin wedi'i symud i Lys Llanarth, eiddo arall teulu Herbert, ym 1898. [9] Ysgrifennod Newman, yn 2000, fod y sgrin "yn debygol o gael ei dychwelyd", [3] safbwynt oedd yn adleisio barn Fred Hando, a ysgrifennodd 30 mlynedd ynghynt; "trosglwyddwyd y sgrin dderw dyddiedig 1627 o Dreowen lle, yn fy marn i, byddai'n cymryd ei lle'n well". [10]
Yn ei astudiaeth, Houses of the Welsh Countryside, (cyhoeddwyd 1975, ail argraffiad 1988), mae Peter Smith yn datgan bod Treowen "yn adeilad godidog iawn". [7] Disgrifiodd Tyerman a Warner, yn astudiaeth aml-gyfrol Arthur Mee The King's England, ei fod yn "un o'r tai gorau yn Sir Fynwy". [11] Mae Treowen yn adeilad rhestredig Gradd I. [8]
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]
- ↑ History, at Treowen website Archifwyd 2007-10-21 yn y Peiriant Wayback.. Accessed 2 February 2012
- ↑ 2.0 2.1 Tre-Owen at British Listed Buildings. Accessed 2 February 2012
- ↑ 3.0 3.1 3.2 3.3 3.4 3.5 Newman 2000.
- ↑ Treowen garden at RCAHMW Archifwyd 2016-03-04 yn y Peiriant Wayback.. Accessed 3 February 2012
- ↑ Treowen website. Accessed 2 February 2012
- ↑ "Wye Valley Chamber Music". wyevalleyfestival.com. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2020-09-26. Cyrchwyd 14 April 2017.
- ↑ 7.0 7.1 Smith 1988.
- ↑ 8.0 8.1 "Listed Buildings - Full Report - HeritageBill Cadw Assets - Reports". Cadwpublic-api.azurewebsites.net. 2001-09-27. Cyrchwyd 2017-08-30.
- ↑ Bradney 1991.
- ↑ Hando 1964.
- ↑ Tyerman & Warner 1951.
Ffynonellau[golygu | golygu cod]
- Bradney, Joseph (1991). A History of Monmouthshire: The Hundred of Skenfrith, Volume 1 Part 1. Academy Books. ISBN 1873361092. OCLC 669714197.
- Hando, Fred (1964). Here and There in Monmouthshire. Newport: R.H.Johns Ltd. OCLC 30295639.
- Newman, John (2000). Gwent/Monmouthshire. The Buildings of Wales. London: Penguin. ISBN 0-14-071053-1.
- Smith, Peter (1988). Houses of the Welsh Countryside. London: Her Majesty's Stationery Office. ISBN 9-78011-300012-8.
- Tyerman, Hugo; Warner, Sydney (1951). Arthur Mee (gol.). Monmouthshire. The King's England. London: Hodder and Staughton. OCLC 764861.