Tlws Giuseppe Garibaldi

Oddi ar Wicipedia
Tlws Giuseppe Garibaldi
Enghraifft o'r canlynolrugby union trophy or award, digwyddiad rheolaidd ym myd chwaraeon Edit this on Wikidata
CrëwrJean-Pierre Rives Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu2007 Edit this on Wikidata
Dechreuwyd2 Chwefror 2007 Edit this on Wikidata
GwladwriaethFfrainc, yr Eidal Edit this on Wikidata

Mae Tlws Giuseppe Garibaldi (Eidaleg: Trofeo Garibaldi; Ffrangeg: Trophée Garibaldi) yn dlws rygbi'r undeb a ddyfernir i enillydd y gêm flynyddol ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad rhwng Ffrainc a'r Eidal.[1]

Giuseppe Garibaldi[golygu | golygu cod]

Chwyldroadwr Eidalaidd oedd Giuseppe Garibaldi a anwyd ym 1807 yn Nice (bellach yn Ffrainc, ond ar y pryd yn rhan o Deyrnas Sardinia). Roedd yn un o arweinwyr yr ymgyrch i uno'r Eidal. Roedd hefyd yn gadfridog ym myddin Ffrainc yn ystod y Rhyfel 1870 rhwng Ffrainc a thaleithiau Cydffederasiwn Gogledd yr Almaen dan arweiniad Teyrnas Prwsia.[2]

Fel rhan o ddathliadau daucanmlwyddiant geni Garibaldi, penderfynodd y Fédération Française de Rugby a Federazione Italiana Rugby greu tlws er anrhydedd iddo i'w ei ddyfarnu i enillydd gêm flynyddol Pencampwriaeth y 6 Gwlad rhwng Ffrainc. a'r Eidal .

Y Tlws[golygu | golygu cod]

Syniad[golygu | golygu cod]

Cafodd y syniad gwreiddiol am dlws i'w ddyfarnu i enillydd gêm flynyddol Ffrainc a'r Eidal, ei grybwyll gyntaf yn Nice gan y pwyllgor rhyngwladol ar gyfer dathlu daucanmlwyddiant geni Garibaldi.

Cyflwynwyd y syniad i ffederasiynau rygbi Ffrainc a'r Eidal, casglodd fomentwm yn gyflym a chafodd ei gymeradwyo ar 6 Rhagfyr 2006 gan y Bwrdd Rygbi Rhyngwladol.[3]

Dylunio[golygu | golygu cod]

Cafodd y tlws ei ddylunio gan y cerflunydd rhyngwladol a chyn capten tîm Ffrainc Jean-Pierre Rives,[4] dadorchuddiwyd y tlws ar 2 Chwefror 2007, yn ystod seremoni yn llysgenhadaeth Ffrainc yn Rhufain. Dadorchuddiwyd y tlws gan y cyn chwaraewyr rhyngwladol Diego Dominguez ar ran yr Eidal a Jean-François Tordo (a anwyd yn Nice) ar ran Ffrainc.

Gemau[golygu | golygu cod]

Gwledydd Chware  Ffrainc
yn ennill
 yr Eidal
yn ennill
Cyfartal Pwyntiau
 Ffrainc
Pwyntiau
 yr Eidal
 Ffrainc 7 7 0 0 223 115
 yr Eidal 8 6 2 0 272 98
Cyfanswm 15 13 2 0 495 213

Canlyniadau[golygu | golygu cod]

Blwyddyn Dyddiad Maes Cartref Sgôr Oddi gartref Enillydd
2021 6 Chwefror Stadio Olimpico, Rhufain Yr Eidal  10 – 50  Ffrainc  Ffrainc
2020 9 Chwefror Stade de France, Paris Ffrainc  35 – 22  Yr Eidal  Ffrainc
2019 16 Mawrth Stadio Olimpico, Rhufain Yr Eidal  14 – 25  Ffrainc  Ffrainc
2018 23 Chwefror Stade Vélodrome, Marseille Ffrainc  34 – 17  Yr Eidal  Ffrainc
2017 11 Mawrth Stadio Olimpico, Rhufain Yr Eidal  18 – 40  Ffrainc  Ffrainc
2016 6 Chwefror Stade de France, Paris Ffrainc  23 – 21  Yr Eidal  Ffrainc
2015 15 Mawrth Stadio Olimpico, Rhufain Yr Eidal  0 – 29  Ffrainc  Ffrainc
2014 9 Chwefror Stade de France, Paris Ffrainc  30 – 10  Yr Eidal  Ffrainc
2013 3 Chwefror Stadio Olimpico, Rhufain Yr Eidal  23 – 18  Ffrainc  Yr Eidal
2012 4 Chwefror Stade de France, Paris Ffrainc  30 – 12  Yr Eidal  Ffrainc
2011 12 Mawrth Stadio Flaminio, Rhufain Yr Eidal  22 – 21  Ffrainc  Yr Eidal
2010 14 Mawrth Stade de France, Paris Ffrainc  46 – 20  Yr Eidal  Ffrainc
2009 21 Mawrth Stadio Flaminio, Rhufain Yr Eidal  8 – 50  Ffrainc  Ffrainc
2008 9 Mawrth Stade de France, Paris Ffrainc  25 – 13  Yr Eidal  Ffrainc
2007 3 Chwefror Stadio Flaminio, Rhufain Yr Eidal  3 – 39  Ffrainc  Ffrainc

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Six Nations, Eight Cups - The Lesser Known Trophies The Tournament Has To Offer". The Sportsman. 2020-01-31. Cyrchwyd 2021-02-14.
  2. "Giuseppe Garibaldi | Biography, Redshirts, Significance, & Facts". Encyclopedia Britannica (yn Saesneg). Cyrchwyd 2021-02-14.
  3. world.rugby. "Six Nations silverware: The rugby trophies won and lost in the annual Championship | World Rugby". www.world.rugby. Cyrchwyd 2021-02-14.
  4. "More than only Six Nations Trophy on offer in Championship". rugby365.com. Cyrchwyd 2021-02-14.