Pencampwriaeth y Chwe Gwlad 2020

Oddi ar Wicipedia
Pencampwriaeth y Chwe Gwlad 2020
Dyddiad1 Chwefror – 14 Mawrth 2020
Gwledydd
Ystadegau'r Bencampwriaeth
Pencampwyr(27fed tro)
Gemau a chwaraewyd15
Gwefan swyddogolsixnationsrugby.com
2019 (Blaenorol) (Nesaf) 2021

Pencampwriaeth y Chwe Gwlad 2020 yw'r 21af yng nghyfres Pencampwriaeth y Chwe Gwlad, sef prif gystadleuaeth rygbi'r undeb yn Hemisffer y Gogledd. Chwaraeir pymtheg gêm dros gyfnod o bum penwythnos rhwng 1 Chwefror a 14 Mawrth 2020. Caiff ei galw, hefyd, yn "Gystadleuaeth NatWest y Chwe Gwlad" oherwydd cyfraniad y noddwyr: Banc y National Westminster[1].

Y chwe gwlad yw Iwerddon, Lloegr, Cymru, Ffrainc, Yr Alban a'r Eidal. Os cyfrifir cyn-gystadlaethau (y Cystadlaethau Cartref a Phencampwriaeth y Pum Gwlad) yna dyma'r 125ain cystadleuaeth.

Enillodd Lloegr y Pencampwriaeth ar 31 Hydref 2020, ar ôl i'r gemau oedd yn weddill gael eu gohirio o fis Mawrth oherwydd y pandemig COVID-19.

Y timau[golygu | golygu cod]

Gwlad Lleoliad Dinas Prif Hyfforddwr Capten
 Lloegr Stadiwm Twickenham Llundain Eddie Jones Owen Farrell
 Ffrainc Stade de France Saint-Denis Fabien Galthié Charles Ollivon
 Iwerddon Stadiwm Aviva Dulyn Andy Farrell Jonathan Sexton
 yr Eidal Stadio Flaminio Rhufain Franco Smith Luca Bigi
 yr Alban Stadiwm Murrayfield Caeredin Gregor Townsend Stuart Hogg
 Cymru Stadiwm y Mileniwm Cardiff Seland Newydd Wayne Pivac Alun Wyn Jones
Parc y Scarlets[2] Llanelli

Tabl[golygu | golygu cod]

Safle Gwlad Gemau Pwyntiau Ceisiadau Pwyntiau bonws Pwyntiau
Chwaraewyd Enillwyd Cyfartal Collwyd Dros Yn erbyn Gwahan. Dros Yn erbyn Camp Lawn Ceisiadau Collwr
1  Lloegr (P) 5 4 0 1 121 77 +44 14 9 0 1 1 18
2  Ffrainc 5 4 0 1 138 117 +21 17 13 0 2 0 18
3  Iwerddon 5 3 0 2 132 102 +30 17 11 0 2 0 14
4  yr Alban 5 3 0 2 77 59 +18 7 5 0 0 2 14
5  Cymru 5 1 0 4 119 98 +21 13 10 0 1 3 8
6  yr Eidal 5 0 0 5 44 178 −134 6 24 0 0 0 0

(P) = Pencampwyr
(CL) = Enillwyr Camp Lawn

Rheolau[golygu | golygu cod]

  • Pedwar pwynt gornest ar gyfer ennill gêm.
  • Dau bwynt gornest i'r ddau dîm mewn gêm gyfartal.
  • Pwynt bonws i dîm sy'n colli gêm o saith pwynt neu lai, a/neu yn sgorio pedwar gwaith neu fwy mewn gêm.
  • Tri pwynt bonws i'r tîm sy'n ennill pob gêm (Camp Lawn).
  • Os oes dau neu fwy tîm yn gyfartal ar bwyntiau gornest, yna bydd y tîm sydd a'r gwahaniaeth pwyntiau gwell (cyfanswm pwyntiau sgoriwyd namyn y pwyntiau a gollwyd) yn codi'n uwch yn y tabl.
  • Os nad yw hyn yn gwahanu timau cyfartal, bydd y tîm a sgoriwyd y nifer uchaf o geisiadau yn codi'n uwch.
  • Wedi hyn, os bydd dau neu fwy tîm yn gyfartal ar gyfer y lle cyntaf ar ddiwedd y Bencampwriaeth, yna bydd y teitl yn cael ei rannu rhyngddynt.

Canlyniadau[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. NatWest 6 Nations Archifwyd 2018-01-25 yn y Peiriant Wayback. adalwyd 6 Chwefror 2018
  2. Roedd Stadiwm y Mileniwm yn cael ei ddefnyddio fel Ysbyty Calon y Ddraig