Titw tomos las

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Titw Tomos Las)
Titw Tomos Las
Galwad Titw Tomos Las
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Animalia
Ffylwm: Chordata
Dosbarth: Aves
Urdd: Passeriformes
Teulu: Paridae
Genws: Cyanistes
Rhywogaeth: C. caeruleus
Enw deuenwol
Cyanistes caeruleus
(Linnaeus, 1758)
Cyfystyron

Parus caeruleus

Cyanistes caeruleus

Mae'r Titw Tomos Las (Cyanistes caeruleus[1]) yn aelod o deulu'r Paridae, y titwod. Mae'n aderyn cyffredin trwy'r rhan fwyaf o Ewrop a gorllewin Asia.

Yn y gaeaf mae'n aml yn ffurfio heidiau gydag adar eraill megis y Titw mawr. Pryfed o wahanol fathau yw eu prif fwyd, yn enwedig lindys.

Ar un adeg yr oedd y Titw tomos las yn enwog am wneud tyllau yng nghaead poteli llefrith oedd wedi'u gadael o flaen y drws ac yfed peth o'r cynnwys. Mae hyn yn esiampl o un aderyn yn darganfod rhywbeth newydd ac eraill yn dysgu ganddo nes i'r arferiad ledu trwy'r boblogaeth. Gan fod y botel lefrith draddodiadol yn awr yn llawer prinnach, nid yw hyn yn digwydd mor aml.

Fel rheol mae'r titw yma'n byw mewn ardaloedd lle mae coed llydanddail. Nid yw'n aderyn mudol, er y gall rhai adar yn y gwledydd oeraf symud tua'r de yn y gaeaf. Mae'n aderyn hawdd ei adnabod, gyda glas ar y pen a llinell o las tywyll yn rhedeg trwy'r llygad, glas ar y gwegil, y cefn a'r gynffon, gwyrdd-felyn ar y cefn a melyn ar y bol.

Mae'n gyffredin iawn mewn gerddi, ac os rhoir bwyd allan i'r adar mae'r Titw tomos las fel arfer yn un o'r rhai cyntaf i ymddangos. Mae'n nythu mewn tyllau mewn coed, ond hefyd yn barod iawn i gymryd at flychau nythu.

Isrywogaethau[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Gill, Frank; Wright, Minturn (2006). Birds of the World: Recommended English Names (arg. 1st). Princeton University Press. tt. ix, 259. ISBN 0-691-12827-8.
Safonwyd yr enw Titw tomos las gan un o brosiectau . Mae cronfeydd data Llên Natur (un o brosiectau Cymdeithas Edward Llwyd) ar drwydded agored CC 4.0. Chwiliwch am ragor o wybodaeth ar y rhywogaeth hon ar wefan Llên Natur e.e. yr adran Bywiadur, a chyfrannwch er mwyn datblygu'r erthygl hon ymhellach.