Cyclades

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Grŵp o ynysoedd yng Ngwlad Groeg yw'r Cyclades neu Ynysoedd Cyclades. Fe'i lleolir i'r de-ddwyrain o Attica ar dir mawr Groeg ac ynys Euboea ym Môr Aegea yn nwyrain y Môr Canoldir. Mae nhw hanner ffordd fwy neu lai rhwng tir mawr Gwlad Groeg, ynys Crete ac arfordir de-orllewin Twrci. Mae'r ynysoedd yn ffurfio cylch bron o gwmpas ynys Delos. Ceir tua 30 o ynysoedd o faint amrywiol yn y grŵp (heb gyfrif y mân ynysoedd niferus). Y ganolfan weinyddol yw Ermoupolis ar ynys Siros. Mae rhai o ynysoedd deheuol y Sporades yn cael eu cyfrif yn rhan o nome (uned weinyddol) y Cyclades hefyd. Mae tua 100,000 o bobl yn byw yn y nome.

Ynysoedd y Cyclades[golygu]

Lleoliad y Cyclades
Flag of Greece.svg Eginyn erthygl sydd uchod am Wlad Groeg. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato