Sifnos

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Golygfa ar Fae Kamares, ynys Sifnos

Ynys ffrwythlon yn ne-orllewin ynysoedd Cyclades, Gwlad Groeg, yw Sifnos. Mae'n gorwedd rhwng Serifos i'r gogledd, Milos i'r de ac Andiparos i'r dwyrain. Yn wahanol i nifer o ynysoedd eraill ym Môr Aegea mae yna ddigonedd o ddŵr croyw ar yr ynys. Mae'n ynys fynyddig sy'n codi i 2936 troedfedd gyda chopa 'Profitis Ilias', un o sawl bryn yng Ngwlad Groeg a enwir ar ôl y proffwyd Elias. Ceir adfeilion tua deuddeg o dyrau o'r cyfnod clasurol ar yr ynys a nifer o fynachlogydd Uniongred.

Yn Ngroeg yr Henfyd roedd yr ynys yn ewnog am ei aur. Daeth natur dwyllodrus y mwyngloddwyr yn ddihareb. Yn ôl un chwedl dinistrwyd y mwyngloddiau gan Apollo am i'r ynyswyr gynnig ŵy euraidd 'gilt' i deml y duw ar ynys Delos yn lle un wedi'i wneud o aur.

Tref 'Apollonia' yw prifddinas yr ynys. Mae'n gorwedd yn uchel yn y mynyddoedd ar dri bryn terasog.

Ger pentref Kastro ceir adfeilion dinas fechan Siphnos sy'n dyddio o'r cyfnod Clasurol. Does dim llawer yn sefyll heddiw ond mae'r safle'n ddeniadol. Codwyd caer gan y Fenisiaid yno yn y 14eg ganrif i amddiffyn y llwybr morol i ynys Rhodes.