Naxos

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Dinas Naxos

Un o ynysoedd Gwlad Groeg yw Naxos (Groeg: Νάξος). Hi yw'r fwyaf o ynysoedd y Cyclades, gyda phoblogaeth o 18,188 yn 2001

Y ddinas fwyaf yw Hora, a elwir hefyd yn Ddinas Naxos, gyda phoblogaeth o 6,533. Mae'r pentrefi ar yr ynys yn cynnwys Filoti, Apiranthos, Vivlos, Agios Arsenios, Koronos a Glinado. Mae'n gyrchfan boblogaidd i dwristiaid, gyda nifer o safleoedd archaeolegol diddorol yn ogystal a thraethau. Mynydd Zas (999 medr) yw'r mynydd uchaf yn y Cyclades.

Ym mytholeg Groeg, dywedir i Zeus gael ei fagu mewn ogof ar lethau Mynydd Zas. Chwedl arall yw bod Theseus wedi gadael Ariadne ar yr ynys, wedi iddi ei helpu i ladd y Minotawr ar ynys Creta.