Theseus

Oddi ar Wicipedia
Thesews yn lladd y Minotor (1843), cerflun gan Antoine-Louis Barye.

Arwr a brenin Athen ym mytholeg Roeg oedd Thesews (Hen Roeg: Θησεύς). Roedd yn fab i Aethra a'r duw Poseidon.

Dywedir fod ganddo balas ar safle'r Acropolis, ac mai ef a unodd Atica gyntaf. Yn Y Llyffantod, dywed Aristophanes mai ef a sefydlodd lawer o draddodiadau Athen.

Yn ôl un chwedl, roedd Athen yn gorfod gyrru saith dyn ieuanc a saith merch ieuanc i Minos, brenin Creta bob blwyddyn fel teyrnged, a byddent yn cael eu bwydo i'r Minotor, anghenfil oedd yn hanner dyn a hanner tarw, oedd wedi ei genhedlu gan darw ar Pasiphaë, gwraig Minos. Ymunodd Thesews a'r rhai oedd yn cael eu gyrru i Minos un flwyddyn, a chyda chymorth Ariadne, merch Minos, lladdodd y Minotor.

Yn ôl traddodiad, claddwyd ef yn yr Hephaisteion yn Athen.