Tingoch Du

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Tingoch Du
Ceiliog ger y nyth
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Animalia
Ffylwm: Chordata
Dosbarth: Aves
Urdd: Passeriformes
Teulu: Muscicapidae
Genws: Phoenicurus
Rhywogaeth: P. ochruros
Enw deuenwol
Phoenicurus ochruros
(S. G. Gmelin, 1774)

Mae'r Tingoch Du (Phoenicurus ochruros) yn aderyn bychan oedd yn arfer cael ei ddosbarthu fel aelod o deulu'r Turdidae on sy'n awr yn cael ei ystyried yn aelod o deulu'r Muscicapidae, y gwybedogion.

Mae'n aderyn eithaf cyffredin mewn rhannau o dde a chanolbarth Ewrop yn yr haf. Yn y rhannau deheuol, mae'n aros trwy'r flwyddyn, ond mae'r adar sy'n nythu ymhellach i'r gogledd yn mudo tua'r de yn y gaeaf, rhai cyn belled a Gogledd Affrica. Nid yw'n nythu yng Nghymru fel rheol, ond ceir nifer cymharol fychan ohonynt yn gaeafu yma, fel rheol yn agos at y glannau.