Bronfraith
| Bronfraith | |
|---|---|
| Dosbarthiad gwyddonol | |
| Teyrnas: | Animalia |
| Ffylwm: | Chordata |
| Dosbarth: | |
| Urdd: | Passeriformes |
| Teulu: | Turdidae |
| Genws: | Turdus |
| Rhywogaeth: | T. philomelos |
| Enw deuenwol | |
| Turdus philomelos Brehm, 1831 |
|
Mae'r Fronfraith neu Ceiliog bronfraith (Lladin: Turdus philomelos) yn aelod o deulu'r Turdidae. Mae'n aderyn cyffredin ac adnabyddus trwy Ewrop heblaw am dde Sbaen a Phortiwgal, yn enwedig gan ei fod yn hoff o erddi.
Nid yw'r Fronfraith yn aderyn mudol fel rheol, ond mae adar o'r gogledd yn symud tua'r de yn y gaeaf. Eu prif fwyd yw pryfed, malwod ac aeron. Defnyddir carreg i dorri cregyn y malwod cyn eu bwyta, a gan fod yr aderyn yn aml yn defnyddio'r un garreg bob tro gellir gweld darnau o gregyn ar wasgar o'i chwmpas. Mae'n nythu mewn llwyni fel rheol.
Gellir gwahaniaethu rhwng y Fronfraith a Brych y Coed sy'n aderyn tebyg iawn trwy fod y Fronfraith llai na Brych y Coed ac yn fwy brown ar y pen a'r cefn lle mae Brych y Coed yn fwy llwydfrown. Mae'r gân yn adnabyddus iawn, a gellir ei hadnabod trwy fod yr aderyn yn ail-adrodd pob darn o'r gân nifer o weithiau cyn symud ymlaen i ddarn arall.
Cysylltiad allanol [golygu]