Mwyalchen

Oddi ar Wicipedia
Mwyalchen
Turdus merula
Turdus merula, masculum
Statws cadwraeth
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Animalia
Ffylwm: Chordata
Dosbarth: Aves
Urdd: Passeriformes
Teulu: Turdidae
Genws: Turdus[*], Merula[*]
Rhywogaeth: Turdus merula
Enw deuenwol
Turdus merula
Dosbarthiad y rhywogaeth

Mae'r Fwyalchen (Turdus merula) yn aelod o deulu'r Turdidae. Mae'n aderyn cyffredin ac adnabyddus trwy Ewrop a rhan sylweddol o Asia ac yn debyg iawn i Fwyalchen y mynydd.

Mae'r Fwyalchen rhwng 23.5 a 29 cm o hyd. Gellir adnabod y ceiliog yn hawdd oddi wrth y plu du, heb unrhyw liw arall, pig melyn a modrwy felen o gwmpas y llygad. Mae'r iâr a'r adar ieuainc yn frown. Gellir clywed y ceiliog yn canu cyn ac yn ystod y tymor nythu; ambell dro gall ddynwared cân adar eraill neu ryw swn arall sydd i'w glywed yn yr ardal.

Nid yw'n aderyn mudol yn y rhannau hynny lle nad yw'r gaeafau yn oer iawn, ond mae adar o'r rhannau oerach yn symud tua'r de neu tua'r gorllewin. Nid yw'n aderyn sy'n casglu mewn heidiau mawr fel rheol.

Oherwydd ei fod yn aderyn adnabyddus a phoblogaidd, mae'r Fwyalchen wedi ei ollwng yn fwriadol mewn nifer o rannau o'r byd. Ystyrir yr aderyn yn broblem yn Awstralia a Seland Newydd gan ei fod yn cystadlu ag adar brodorol.

Talfyrir yr enw Lladin yn aml yn T. merula, sef enw'r rhywogaeth (ar ôl ei ysgrifennu'r cyfeiriad cyntaf ato yn y testun yn llawn yn ôl confensiwn).[1]


Teulu[golygu | golygu cod]

Mae'r mwyalch yn perthyn i deulu'r Brychion (Lladin: Turdidae). Dyma aelodau eraill y teulu:

Rhestr Wicidata:

rhywogaeth enw tacson delwedd
Brych daear Abysinia Geokichla piaggiae
Brych daear Crossley Geokichla crossleyi
Brych daear Molwcaidd Geokichla dumasi
Brych daear Siberia Geokichla sibirica
Brych daear cefnllwyd Geokichla schistacea
Geokichla cinerea Geokichla cinerea
Geokichla dohertyi Geokichla dohertyi
Geokichla erythronota Geokichla erythronota
Geokichla interpres Geokichla interpres
Mwyalch Adeinlwyd Turdus boulboul
Mwyalchen Turdus merula
Mwyalchen y mynydd Turdus torquatus
Diwedd y rhestr a gynhyrchwyd yn otomatig o Wicidata.

Llên[golygu | golygu cod]

Englyn i'r Fwyalchen gan T. Llew Jones

Ba artist â chân bertach - hwyr denor

Du ei ŵn fel mynach.

Dyma gerddor rhagorach

Na Johann Sebastian Bach.

Mwyalchen yn codi teulu[golygu | golygu cod]

Cofnod mewn lluniau a geir isod o fwyalchen yn codi teulu ar wal gefn wrth dŷ yn Llandudno ac roedd yn anarferol o ddof![2]

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Gwefan Avibase; adalwyd 3 Hydref 2016.
  2. Gwaith Gareth Pritchard

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]

Comin Wikimedia
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i: