Siwan (drama)
Drama fydryddol gan Saunders Lewis yw Siwan, sydd wedi ei seilio ar y cymeriad hanesyddol Siwan, gwraig Llywelyn Fawr. Lleolir y ddrama yn Abergwyngregin, ar arfordir gogleddol Gwynedd. Ysgrifennodd Saunders y ddrama Siwan yn 1954 a chafodd ei chyhoeddi yn 1956, ac mae'r ddrama yn un o'r clasuron Cymraeg.
Yn y ddrama, canfyddir Siwan a'i chariad Gwilym Brewys (William de Braose) gan ei gŵr sef y Tywysog Llywelyn Fawr. Mae'n crogi Gwilym, cosb a roddir fel arfer i ladron. Mae'r weithred hon yn gwneud gosodiad tra phwysig a heriol gan fod Llywelyn wrth wneud hyn yn tynnu holl rym Lloegr ar ei ben. Ar yr un pryd, mae'r weithred yn dyrchafu Llywelyn i awdurdod brenin eofn a chadarn.
Addaswyd y ddrama gan Robin Llwyd ab Owain ar gyfer disgyblion uwchradd (Cyhoeddwyd gan CBAC; ISBN 1 86085 4117; Mawrth 2000). Mae'r ddrama yn rhan o faes llafur Lefel A ers rai blynyddoedd.
"Siwan ydy'r ebychiad sicr cyntaf mae Saunders Lewis yn ei wneud," ebe Bobi Jones. Cyfrifir Siwan a Blodeuwedd fel clasuron y ddrama Gymraeg.[1]
Dyfyniadau [golygu]
- Nid ofni'r gwir, ond ofni, hwyrach ei glywed. (Siwan )
- Mae syllu i lygad amser
- yn gychwyn gwallgofrwydd.
- Mewn amser mae amser i bopeth. (Siwan)
- Does neb erioed â gydydymdeimlodd â phoen. (Alis)
- Seremoni yw byw i deulu brenhinol. (Llywelyn)
- Mae pawb yn newid, mae hyd yn oed atgofion yn newid. (Llywelyn)
- Dechrau nabod ei gilydd mae pob gŵr a gwraig, boed bythefnos
- neu ugain mlynedd. (Llywelyn)
- Rhodd enbyd yw bywyd i bawb. (Llywelyn)
Cyfeiriadau [golygu]
Gweler hefyd [golygu]
Gwall cyfeirio: Mae tagiau <ref> yn bresennol, ond dim tag <references/>