Gwilym Brewys

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Arglwydd y Fenni, Brycheiniog, yn ne-ddwyrain Cymru oedd y Normaniad Gwilym Brewys neu William de Braose (11972 Mai 1230). Gelwyd ef gan y Cymry gyda'r enw Gwilym Ddu.

Roedd yn fab i Reginald de Braose. Cafodd garwriaeth gudd â Siwan, gwraig Llywelyn ap Iorwerth a merch y brenin John o Loegr, a arweiniodd at ei grogi gan y tywysog, efallai yng Nghrogen, ger Y Bala, yn 1230.

Mae drama fydryddol Saunders Lewis, Siwan, yn seiliedig ar y digwyddiad.

Priodi a phlant [golygu]

Priododd Eva Marshal, Barwnes Y Fenni a merch William Marshal, Iarll 1af Penfro. Cawsant pedwar o blant:

  1. Isabella de Braose (ganwyd tua 1222), gwraig y Tywysog Dafydd ap Llywelyn
  2. Maud de Braose (ganwyd tua 1224 – 1301), gwraig Roger Mortimer, Barwn 1af Wigmore
  3. Eleanor de Braose (ganwyd tua 1226 – 1251), gwraig Humphrey de Bohun a mam Humphrey de Bohun, 3ydd Iarll Henffordd.
  4. Eve de Braose (ganwyd tua 1227 – Gorffennaf 1255), gwraig William de Cantelou.

Cysylltiad allanol [golygu]

Gweler hefyd [golygu]

Baner CymruEicon awrwydr   Eginyn erthygl sydd uchod am hanes Cymru. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.