Samuel Thomas Evans

Oddi ar Wicipedia
Samuel Thomas Evans
Ganwyd4 Mai 1859 Edit this on Wikidata
Sgiwen Edit this on Wikidata
Bu farw13 Medi 1918 Edit this on Wikidata
Hove Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethbarnwr, cyfreithiwr, gwleidydd Edit this on Wikidata
Swyddaelod o Gyfrin Gyngor y Deyrnas Unedig, Aelod o'r 29fed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 28ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 27ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 26ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 25ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 24ain Senedd y Deyrnas Unedig, Cyfreithiwr Cyffredinol dros Gymru a Lloegr Edit this on Wikidata
Plaid WleidyddolPlaid Ryddfrydol Edit this on Wikidata
Gwobr/auMarchog Groes Fawr Urdd y Baddon, Marchog Faglor Edit this on Wikidata

Roedd Syr Samuel Thomas Evans GCB PC QC (4 Mai 1859 - 13 Medi 1918), yn fargyfreithiwr yn farnwr ac yn wleidydd Rhyddfrydol a wasanaethodd fel Aelod Seneddol Canol Morgannwg rhwng 1892 a 1910.[1][2]

Bywyd Personol[golygu | golygu cod]

Ganwyd Evans yn Sgiwen yn unig fab John Evans, groser, a Margaret (née Thomas) ei wraig.

Cafodd ei addysgu yn y Collegiate School Abertawe[3] ac ym Mhrifysgol Cymru, Aberystwyth lle raddiodd LLB (Prifysgol Llundain) ym 1879.

Bu'n briod ddwywaith. Ym 1887 priododd Rachel Rees Thomas merch William Thomas Sgiwen,[4] bu iddynt un mab; bu hi farw ym 1889. Ym 1905 Priododd Blanche De Pinto gweddw Herbert de Pinto, a merch Charles Rule, Ohio, UDA [5]; bu iddynt un ferch.

Gyrfa fel cyfreithiwr a bargyfreithiwr[golygu | golygu cod]

Cymhwysodd Evans fel cyfreithiwr ym 1883 gan agor practis yng Nghastell Nedd[6]. Fe'i galwyd i'r Bar yn y Deml Ganol ym 1891 a bu'n weithio yn bennaf yng Nghylchdaith De Cymru[7]. Fe'i codwyd yn Gwnsler y Frenhines ym 1901 (gan droi'n Gwnsler y Brenin ar Farwolaeth Victoria yn ddiweddarach yn yr un flwyddyn); fe'i penodwyd yn feinciwr y Deml Ganol ym 1908.

Ym 1906 fe'i benodwyd yn Gofiadur Llys Chwarter Abertawe [8] bu yn y swydd hyd 1908. Ym 1908 fe'i apwyntwyd yn Dwrnai Cyffredinol gan Syr Henry Cambell Bannerman gan barhau yn y swydd hyd 1910.

Gyrfa Wleidyddol[golygu | golygu cod]

Safodd Evans yn aflwyddiannus dwywaith fel ymgeisydd dosbarth Sgiwen ar gyfer Cyngor Sir Forgannwg, ym 1888 ac ym 1889. Bu farw Christopher Rice Mansel Talbot ym 1890 ac etholwyd Evans yn ddiwrthwynebiad fel yr Aelod Seneddol i'w olynu, llwyddodd i dal gafael ar y sedd hyd iddo ymneilltuo o'r senedd ym 1910.

Fel Aelod Seneddol o anghydffurfiwr oedd yn arbennig o frwd ei gefnogaeth i achosion oedd yn apelio at yr enwadau anghydffurfiol megis datgysylltu, cyfyngu ar werthiant y ddiod gadarn a gwrthwynebiad i freintiau Eglwys Loegr. Bu yn arbennig o wrthwynebus i Ddeddf Addysg 1902 gan ei fod ef, a Rhyddfrydwyr amlwg eraill megis David Lloyd George yn credu ei fod am roi mantais enfawr i'r Eglwys Wladol dros addysg plant o gefndiroedd anghydffurfiol.[9]

Bu Evans, hefyd yn wrthwynebydd cryf i'r ymgyrch i roi'r bleidlais i ferched.[10]

Ymneilltuodd o'r Senedd ym 1910 ar gael ei benodi yn Llywydd adran Profiant, Ysgariad a'r Llynges o'r Uchel Lys.[11]

Gyrfa fel Barnwr[golygu | golygu cod]

Ym 1910 penodwyd Evans yn Llywydd adran Profiant, Ysgariad a'r Llynges o'r Uchel Lys. Doedd ei benodiad dim yn un boblogaidd ar y cychwyn gan fod ei yrfa yn y gyfraith wedi ymwneud yn bennaf â chyfraith hawliau gweithwyr, ond daeth yn fuan yn un oedd yn cael ei barchu am ei allu i ddeall manylion achosion; megis yn ei ddyfarniad yng nghylch pwy oedd yn gyfrifol am y gwrthdrawiad a fu rhwng y leiner Olympic ag HMS Hawke ym 1911[2].

Yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf daeth Evans i amlygrwydd mawr fel barnwr deallus.[12]

Un o ddyletswyddau adran y Llynges o'r Uchel Lys oedd trefnu Llysoedd Gwobrau. Dyletswydd Llys Gwobr oedd ystyried os oedd llong wedi cael ei ddal neu wedi ei atafaelu ar adeg ryfel yn deg ac yn gyfreithlon. Gallasai'r Llys Gwobr orchymyn gwerthu neu ddinistrio llong a atafaelwyd, a dosbarthu unrhyw elw i gapten a chriw'r llong oedd yn gyfrifol am yr atafaelu. Gallasai'r llys hefyd orchymyn dychwelyd llong a atafaelwyd at ei berchnogion os oedd y llong wedi ei atafaelu yn anghyfreithlon, er enghraifft pe atafaelwyd o wlad a oedd wedi cyhoeddi ei fod yn niwtral.[13]

Roedd llawer o'r rheolau a chynseiliau cyfreithiol a oedd yn ymwneud â gwobrwyon rhyfel yn perthyn i gyfnod Rhyfel y Crimea, Rhyfeloedd Napoleon ac ambell i frwydr gynharach byth, ac yn gwbl anaddas ar gyfer amgylchiadau morwrol a masnach morwrol llawer mwy cymhleth y Rhyfel byd Cyntaf[2]..

Er enghraifft: os yw llong wedi ei gofrestru mewn gwlad niwtral, ac yn morio o dan faner y wlad honno OND bod mwyafrif cyfranddalwyr y llong yn ddinasyddion gwlad elyniaethus a ydy'r llong yn niwtral neu'n elyniaethus?[14]

Trwy edrych ar gyfraith ryngwladol fel cynsail, yn hytrach na chyfraith Lloegr yn unig; trwy dderbyn bod cynseiliau oedd wedi eu dyddio yno i gynghori yn hytrach nag i dra-arglwyddiaethu, fe lwyddodd Evans i ganfod llwybr trwy'r ddrysfa a oedd yn cael ei barchu gan gynghreiriaid Prydain yn y Rhyfel, gwledydd niwtral a hyd yn oed gwledydd gelyniaethus[2].

Anrhydeddau[golygu | golygu cod]

Crewyd Evans yn farchog ym 1908[15] ac fe'i godwyd i'r Cyfrin Gyngor ym 1910[16] ac ym 1917 fe wnaed yn Farchog Groes Fawr Urdd y Baddon. Cafodd ei gynnig, ond fe wrthododd, sedd yn Nhŷ'r Arglwyddi.

Marwolaeth[golygu | golygu cod]

Bu farw Evans yn Hove, Sussex o ganlyniad i gymhlethdodau yn dilyn llawfeddygaeth.[17]. Claddwyd ei weddillion ym mynwent Eglwys Sgiwen [18]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Y Bywgraffiadur ar-lein EVANS , Syr SAMUEL THOMAS (1859 - 1918)adalwyd 3 Rhag 2015
  2. 2.0 2.1 2.2 2.3 J. L. Brierly, ‘Evans, Sir Samuel Thomas (1859–1918)’, rev. Hugh Mooney, Oxford Dictionary of National Biography, Oxford University Press, 2004 adalwyd 3 Rhag 2015
  3. "Local intelligence - The Cambrian". T. Jenkins. 1876-10-27. Cyrchwyd 2015-12-03.
  4. "Family Notices - South Wales Daily News". David Duncan and Sons. 1887-02-11. Cyrchwyd 2015-12-03.
  5. "MR S T EVANS MP WEDDED - The Cambrian". T. Jenkins. 1905-02-24. Cyrchwyd 2015-12-03.
  6. "SCIWEN - Tarian Y Gweithiwr". Mills, Lynch, & Davies. 1883-02-08. Cyrchwyd 2015-12-03.
  7. "A WELSH MP CALLED TO THE BAR - The Cardiff Times". David Duncan and William Ward. 1891-05-30. Cyrchwyd 2015-12-03.
  8. "MR S T EVANS AT SWANSEA - The Glamorgan Gazette". Central Glamorgan Printing and Publishing Company Limited. 1906-10-05. Cyrchwyd 2015-12-03.
  9. "EDUCATION BILL - Evening Express". Walter Alfred Pearce. 1902-09-17. Cyrchwyd 2015-12-03.
  10. "MR S T EVANS AT NANTYMOEL - Evening Express". Walter Alfred Pearce. 1906-10-11. Cyrchwyd 2015-12-03.
  11. "SYR S T EVANS - Welsh Gazette and West Wales Advertiser". George Rees. 1910-03-10. Cyrchwyd 2015-12-03.
  12. "SIR S T EVANS - The Cambria Daily Leader". Frederick Wicks. 1918-09-14. Cyrchwyd 2015-12-03.
  13. Encyclopædia Britannica Online, s. v. prize court, adalwyd 03 Rhagfyr, 2015
  14. The Times History of the War adalwyd 3 Rhagfyr 2015
  15. "Mr S T Evans Knighted - Evening Express". Walter Alfred Pearce. 1908-02-06. Cyrchwyd 2015-12-03.
  16. "ANOTHER HONOUR FOR SIR S T EVANS - The Glamorgan Gazette". Central Glamorgan Printing and Publishing Company Limited. 1910-03-25. Cyrchwyd 2015-12-03.
  17. "SYR S T EVANS - Y Clorianydd". David Williams. 1918-09-18. Cyrchwyd 2015-12-03.
  18. "THE LAST TRIBUTE - South Wales Weekly Post". William Llewellyn Williams. 1918-09-21. Cyrchwyd 2015-12-03.
Senedd y Deyrnas Unedig
Rhagflaenydd:
Christopher Rice Mansel Talbot
Aelod Seneddol Canol Morgannwg
18901910
Olynydd:
Frederick William Gibbins