Robin Cook

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Y Gwir Anrhydeddus
Robin Cook AS
Robin Cook

Cyfnod yn y swydd
2 Mai 1997 – 8 Mehefin 2001
Rhagflaenydd Malcolm Rifkind
Olynydd Jack Straw

Geni 28 Chwefror 1946
Belshill, Gogledd Swydd Lanark
Marw 6 Awst 2005
Inverness
Etholaeth Canol Caeredin (1974-1983)

Livingston (1983-2005)

Plaid wleidyddol Llafur

Gwleidydd a chyn Ysgrifennydd Gwladol yn llywodraeth Tony Blair yn San Steffan oedd Robert Finlayson "Robin" Cook (28 Chwefror 19466 Awst 2005). Cafodd ei eni yn Bellshill, yn yr Alban. Etholwyd ef i'r senedd yn 1974.

Mae ei araith adeg cyhoeddi Adroddodiad Scott ar 26 Chwefror 1994 ar werthu arfau i Irac yn enwog ac roedd yn nodedig o feistrolgar er na chafodd ond dwy awr i'w pharatoi.

Yn gynnar yn 2003 ef oedd un o'r prif wrthwynebwyr dros fynd i ryfel yn Iraq, ac fe wnaeth ymddiswyddo o'r cabinet mewn canlyniad. Disgrifiwyd ei araith ymddiswyddo yn Nhŷ'r Cyffredin gan Andrew Marr, gohebydd y BBC, fel yr un fwyaf godidog ac effeithiol yng ngwleidyddiaeth diweddar Prydain.

Bu farw'n annisgwyl wrth gerdded yn y mynyddoedd yn yr Alban yn Awst 2005.

Senedd y Deyrnas Unedig
Rhagflaenydd:
Thomas Oswald
Aelod Seneddol dros Ganol Caeredin
19741983
Olynydd:
Alex Fletcher
Rhagflaenydd:
etholaeth bewydd
Aelod Seneddol dros Livingston
19832005
Olynydd:
Jim Devine
Swyddi gwleidyddol
Rhagflaenydd:
Malcolm Rifkind
Ysgrifennydd Tramor
2 Mai 19978 Mehefin 2001
Olynydd:
Jack Straw
Rhagflaenydd:
Margaret Beckett
Arweinydd Tŷ'r Cyffredin
8 Mehefin 200117 Mawrth 2003
Olynydd:
John Reid