Andrew Marr
Oddi ar Wicipedia
| Andrew Marr | |
|---|---|
Andrew Marr yn mynychu seremoni Gwobrau'r BAFTA yn 2009 |
|
| Ganwyd | Andrew William Stevenson Marr 31 Gorffennaf 1959 Glasgow, yr Alban |
| Yn enwog am | Golygydd gwleidyddol BBC News Cyflwynydd The Andrew Marr Show |
| Galwedigaeth | Newyddiadurwr, cyflwynydd teledu, sylwebydd gwleidyddol |
| Priod | Jackie Ashley (1987–presennol) |
| Plant | 3 |
Newyddiadurwr, cyflwynydd teledu, a sylwebydd gwleidyddol o Albanwr yw Andrew William Stevenson Marr (ganwyd 31 Gorffennaf 1959). Roedd yn olygydd The Independent am ddwy flynedd hyd at fis Mai 1998 ac yn olygydd gwleidyddol BBC News o 2000 i 2005.
Dechreuodd cyflwyno'r rhaglen wleidyddol fore Sul Sunday AM, a elwir bellach yn The Andrew Marr Show, ar BBC One ym mis Medi 2005. Cyflwyna Marr hefyd y rhaglen Start the Week ar BBC Radio 4. Yn 2007 cyflwynodd hanes gwleidyddol o Brydain ers 1945 ar BBC Two, Andrew Marr's History of Modern Britain, a ddilynwyd gan raghanes o'r cyfnod 1901–45 yn 2009 o'r enw Andrew Marr's The Making of Modern Britain. Ysgrifennodd dau lyfr i fynd efo'r cyfresi teledu.