Richard Crashaw

Oddi ar Wicipedia
Richard Crashaw
Ganwyd1612 Edit this on Wikidata
Llundain Edit this on Wikidata
Bu farw21 Awst 1649 Edit this on Wikidata
Loreto Edit this on Wikidata
DinasyddiaethTeyrnas Lloegr Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethbardd, ysgrifennwr Edit this on Wikidata
Cyflogwr

Bardd o Sais oedd Richard Crashaw (1612 neu 161321 Awst 1649) sy'n nodedig am ei benillion crefyddol Saesneg a Lladin. Caiff ei gyfri fel un o'r Metaffisegwyr a flodeuai ym marddoniaeth Saesneg Lloegr yn hanner cyntaf yr 17g.

Bywgraffiad[golygu | golygu cod]

Bywyd cynnar ac addysg[golygu | golygu cod]

Ganwyd yn Llundain yn y flwyddyn 1612 neu 1613, yn fab i weinidog Piwritanaidd. Mynychodd Ysgol Charterhouse a derbyniodd ei radd o Neuadd Penfro, Caergrawnt yn 1634. Y flwyddyn honno fe gyhoeddodd gasgliad o epigramau Lladin ar bynciau'r ysgrythur, Epigrammatum Sacrorum Liber. Fe'i benodwyd yn gymrawd yn Peterhouse, Caergrawnt, ac yno cafodd ei ordeinio'n offeiriad Anglicanaidd.[1]

Ei dröedigaeth a'i alltudiaeth[golygu | golygu cod]

Mi oedd Peterhouse yn ganolfan i syniadau'r Uchel-Eglwyswyr, a chawsant ddylanwad mawr ar Crashaw. Dros amser, trodd ei sylw at ddysgeidiaeth yr Eglwys Gatholig, ac o ganlyniad fe ymddiswyddodd o'i gymrodoriaeth yn Peterhouse cyn i'r Piwritaniaid allu ei yrru allan yn ystod Rhyfeloedd Cartref Lloegr. Cyhoeddodd Steps to the Temple: Sacred Poems, with other Delights of the Muses yn 1646, ac mae'r gyfrol honno yn cynnwys cerddi crefyddol a seciwlar yn Saesneg a Lladin.[1]

Aeth Crashaw ar ffo i Ffrainc yn 1644 ac yno fe drodd yn Gatholig. Cafodd ei ganfod yn byw'n dlawd ym Mharis gan ei gyfaill Abraham Cowley yn 1646. Ar gais Cowley, danfonwyd Crashaw i Rufain gan Henrietta Maria, gwraig Siarl I, brenin Lloegr. Yn 1649, cafodd ei benodi'n ganon Eglwys Gadeiriol Santa Casa yn Loreto, Marche, yn Nhaleithiau'r Babaeth. Bu farw yno ar 21 Awst 1649.[1]

Barddoniaeth[golygu | golygu cod]

Er iddo gael ei gyfri'n un o'r Metaffisegwyr Seisnig, mae barddoniaeth Crashaw yn adlewyrchu gwaith y cyfrinwyr Eidalaidd a Sbaenaidd a delweddaeth y beirdd Baróc yn fwy na'i gydwladwyr. Defnyddiodd gysetiau i lunio cydweddiadau natur â'r ysbryd.[1]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 1.2 1.3 (Saesneg) Richard Crashaw. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 9 Awst 2019.

Darllen pellach[golygu | golygu cod]

  • Thomas Foy, Richard Crashaw: Poet and Saint (Dulyn: Powell Press, 1933).
  • Thomas F. Healy, Richard Crashaw (Leiden: E. J. Brill, 1986).
  • Kenneth J. Larsen, The Religious Sources of Richard Crashaw's Sacred Poetry (Caegrawnt: University of Cambridge, 1969).
  • Mary Ellen Ricket, Rhyme and Meaning in Richard Crashaw (Lexington, Kentucky: University of Kentucky Press, 1961).
  • John Richard Roberts (gol.), Richard Crashaw: An Annotated Bibliography of Criticism, 1632–1980 (Columbia, Missouri: University of Missouri Press, 1985).
  • John Richard Roberts (gol.), New Perspectives on the Life and Art of Richard Crashaw (Columbia, Missouri: University of Missouri Press, 1990).
  • Ruth Coons Wallerstein, Richard Crashaw: A Study in Style and Poetic Development (Madison, Wisconsin: University of Wisconsin, 1935).
  • Austin Warren, Richard Crashaw: A Study in Baroque Sensibility (Ann Arbor, Michigan : University of Michigan Press, 1939).
  • Claire Louise Harrison Warwick, 'Love is Eloquence': Richard Crashaw and the Development of a Discourse of Divine Love (Caergrawnt: University of Cambridge, 1994).