Thomas Middleton

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Mae'r erthygl hon am y bardd Seisnig. Am yr erthygl am y bardd o'r Waun o'r un cyfnod, gweler Thomas Myddleton.
Thomas Middleton

Bardd a dramodydd Seisnig oedd Thomas Middleton (Ebrill 15801627). Cyd-weithiodd a Dekker a John Webster, ac roedd rhai yn drysu rhyngddo a Shakespeare.

Bywyd[golygu]

Ganed yn Llundain yn fab i adeiladwr cyfoethog. Aeth i Goleg y Frenhines, Rhydychen, cyn cadael heb raddio, ym 1598. Priododd ym 1603.

Gwaith[golygu]

Cyhoeddodd gerddi tra yn Rhydychen tua 1600. Gwaharddwyd ei waith ar y pryd gan y sensor. Dechreuodd ysgrifennu pamffledi fel 'Penniless Parliament of Threadbare Poets' a recordwyd ei waith gan Philip Henslowe yn ei ddyddiadur. Roedd yn gyfaill i Thomas Dekker ond yn elyniaethus at Ben Jonson a George Chapman yn y 'War of the Theatres'. Ysgrifenodd Jonson drama 'The Staple of News' sy'n enllibio drama Middleton, 'A Game at Chess'.

Erbyn 1610, cydweithiodd Middleton â'r actor William Rowley, ac yn 1620, cafodd swydd 'City Chronologer' ar gyfer Dinas Llundain. Daliodd y swydd tan 1627, pan aeth y swydd i Jonson. Daeth ddiwedd ar ei ddramau yn 1624, pan waharddwyd 'A Game at Chess' gan y Cyfrin Gyngor, ac dysgrifennodd dim byd wedyn. Bu farw yn ei dŷ yn Newington Butts ym 1627.

Dramau[golygu]