John Wilmot, 2il Iarll Rochester

Oddi ar Wicipedia
John Wilmot, 2il Iarll Rochester
Ganwyd1 Ebrill 1647 Edit this on Wikidata
Ditchley Edit this on Wikidata
Bu farw26 Gorffennaf 1680 Edit this on Wikidata
Woodstock Edit this on Wikidata
Man preswylParis, Ditchley, Ditchley Edit this on Wikidata
DinasyddiaethTeyrnas Lloegr Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethbardd, ysgrifennwr, dramodydd Edit this on Wikidata
Swyddaelod o Dŷ'r Arglwyddi Edit this on Wikidata
TadHenry Wilmot Edit this on Wikidata
MamAnne St John Edit this on Wikidata
PriodElizabeth Wilmot Edit this on Wikidata
PlantCharles Wilmot, Anne Wilmot o Rochester, Elizabeth Wilmot, Malet Wilmot Edit this on Wikidata

Bardd ac arglwydd o Sais oedd John Wilmot, 2il Iarll Rochester (1 Ebrill 164726 Gorffennaf 1680) sy'n nodedig fel llyswr ffraeth a bardd serch yn ystod Oes yr Adferiad ac un o arloeswyr y ddychangerdd Saesneg.

Bywgraffiad[golygu | golygu cod]

Ganwyd ar 1 Ebrill 1647 ym maenor Ditchley ger Charlbury, Swydd Rydychen. Etifeddodd deitl Iarll Rochester o ganlyniad i farwolaeth ei dad, Henry Wilmot, yn 1658. Derbyniodd ei radd meistr o Goleg Wadham, Rhydychen yn 1661.

Yn sgil yr Adferiad, daeth Rochester yn un o'r gwŷr ffraeth blaenaf yn llys y Brenin Siarl II, ac yn enwog am ei fercheta. Ymhlith ei gariadon oedd yr actores Elizabeth Barry a'r etifeddes Elizabeth Malet. Ymunodd Rochester â'r Llynges Frenhinol a gwasanaethodd yn yr ail ryfel ar y môr rhwng Teyrnas Lloegr a Gweriniaeth yr Iseldiroedd (1665–67). Priododd Elizabeth Malet yn 1667 a chafodd ei benodi'n fonheddwr y siambr wely gan y Brenin Siarl.[1]

Bu farw ar 26 Gorffennaf 1680 yn Woodstock, Swydd Rydychen, yn 33 oed, yn debyg o syffilis neu glefyd gwenerol arall.

Barddoniaeth[golygu | golygu cod]

Nodir cerddi Rochester am eu traserch, eu ffraethineb, ac am ddathlu pleserau'r cnawd. Ymhlith ei ddychangerddi mae "History of Insipids" (1676), sy'n lladd ar lywodraeth Siarl II, a “Maim’d Debauchee”.

Gweithiau eraill[golygu | golygu cod]

Ysgrifennodd Rochester hefyd un ddrama, Valentinian, a gyhoeddwyd wedi ei farwolaeth, yn 1685. Dyma ymdrech ganddo i ail-sgwennu un o drasiedïau John Fletcher. Mae ei lythyrau at ei wraig ac at ei gyfail Henry Savile hefyd yn nodedig am eu rhyddiaith.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. (Saesneg) John Wilmot, 2nd earl of Rochester. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 9 Awst 2019.