Rhestr o Siroedd Washington

Oddi ar Wicipedia
Siroedd Washington

Dyma restr o'r 39 rhanbarth gweinyddol sy'n cael eu hadnabod wrth yr enw County yn Nhalaith Washington yn yr Unol Daleithiau, yn nhrefn yr wyddor:[1]

Hanes[golygu | golygu cod]

Sefydlodd Llywodraeth Dros Dro Oregon Siroedd Vancouver a Lewis ym 1845 allan o diroedd heb eu trefnu yn nhiriogaeth Oregon, gan ymestyn o Afon Columbia i'r i ledred gogleddol 54° 40′. Ar ôl i'r rhanbarth gael ei drefnu o fewn tiriogaeth Oregon gyda'r ffin ogleddol bresennol o 49 ° l ailenwyd Vancouver County yn Clarke, a chrëwyd chwe sir arall allan o Lewis County cyn trefnu Tiriogaeth Washington ym 1853. Ffurfiwyd 28 sir yn ystod cyfnod tiriogaethol Washington, a dim ond yn fyr yr oedd dwy ohonynt yn bodoli. Sefydlwyd y pump olaf yn y 22 mlynedd ar ôl i Washington gael ei dderbyn i'r Undeb fel y 42ain wladwriaeth ym 1889. [2]

Mae Erthygl XI o Gyfansoddiad Talaith Washington yn ymdrin â threfniadaeth siroedd. Rhaid i siroedd newydd fod â phoblogaeth o 2,000 o leiaf ac ni ellir lleihau unrhyw sir i boblogaeth o dan 4,000 oherwydd ymrannu i greu sir newydd. [3] Ni wnaed unrhyw newidiadau i siroedd ers ffurfio Pend Oreille County ym 1911, ac eithrio pan symudwyd ardal fach o Cliffdell o Kittitas i Yakima County ym 1970.

King County, yw leoliad y ddinas fwyaf yn y dalaith, Seattle, sy'n gartref i 30% o boblogaeth Washington (2,252,782 o drigolion o 7,614,893 yn 2019) ac mae ganddo'r dwysedd poblogaeth uchaf gyda mwy na 1,000 o bobl y filltir sgwâr (400/km2). Garfield County yw'r sir leiaf ei phoblogaeth is both the least populated (2,225) ac efo'r dwyster poblogaeth leiaf (3.1/mi2). Mae dwy sir, San Juan ac Island, yn cynnwys dim ond ynysoedd.

Mae gan ddwy sir ar bymtheg enw sy'n deillio o'r bobl Frodorol, gan gynnwys naw enw llwyth y cafodd eu tiroedd eu meddiannu gan y gwladychwyr. Enwyd dau ar bymtheg arall ar gyfer ffigurau gwleidyddol, ond dim ond pump ohonynt oedd wedi byw yn y rhanbarth. Enwir y pump olaf am nodweddion daearyddol.

Llywodraethu[golygu | golygu cod]

Mae siroedd yn darparu cwmpas eang o wasanaethau, gan gynnwys gweithrediad llysoedd, parciau a hamdden, llyfrgelloedd, y celfyddydau, gwasanaethau cymdeithasol, etholiadau, casglu gwastraff, ffyrdd a chludiant, cynllunio a thrwyddedu a threthi. [4][5] Mae ystod y gwasanaethau yn amrywio, ac mae rhai yn cael eu gweinyddu gan fwrdeistrefi. Nid yw siroedd wedi'u hisrannu'n fân adrannau sifil fel trefgorddau; dim ond gan ddinasoedd a threfi corfforedig y mae llywodraeth leol is sirol, yn ogystal â chan 29 Neilldir Indiaidd (tiriogaeth neilltuedig) y cenhedloedd brodorol. Dim ond y sir sy'n llywodraethu ardaloedd anghorfforedig. Mae 242 o adrannau sirol cyfrifiad at ddibenion ystadegol yn unig. [6]

Ffurf arferol llywodraeth sirol yw comisiwn nad yw'n siartredig, gyda thri i bum comisiynydd etholedig yn gwasanaethu fel y ddeddfwrfa a'r gweithgor. Mae saith sir wedi mabwysiadu siarteri sy'n darparu ar gyfer rheolaeth gartref sy'n wahanol i gyfraith y wladwriaeth: King, Clallam, Whatcom, Snohomish, Pierce, San Juan a Clark. O'r rhain, mae King, Whatcom, Snohomish, a Pierce, pedair prif sir ar Puget Sound, yn ethol gweithgor sirol. Mae cynghorau yn y tair sir siarter arall yn penodi rheolwr i weinyddu'r llywodraeth. Gall pleidleiswyr hefyd ethol clerc, trysorydd, siryf, asesydd, crwner, archwilydd (neu gofnodwr), a thwrnai erlyn. Mae etholiadau yn rhai amhleidiol mewn siroedd nad ydynt yn dal siarter, ond gall siroedd siarter ddewis gwneud rhai swyddi'n bleidiol [7]

Rhestr[golygu | golygu cod]

FIPS[golygu | golygu cod]

Mae'r cod Safon Prosesu Gwybodaeth Ffederal (FIPS), a ddefnyddir gan lywodraeth yr Unol Daleithiau i roi cod hunaniaeth unigryw i daleithiau a siroedd y wlad, yn cael ei ddarparu gyda phob cofnod yn y tabl. Cod Washington yw 53, a fyddai, o'i gyfuno ag unrhyw god sirol, yn cael ei ysgrifennu fel 53XXX. Mae Adams County yn rhannu'r cod 001 gyda nifer o siroedd eraill yn yr Unol Daleithiau megis Allegany County, Maryland ond o ragddodi cod talaith Washington, 53, i god Adams County ceir 53001, cod unigryw i'r sir honno. [8]

Sir
Cod FIPS [8] Sedd sirol[9] Sefydlu[9][10] Tarddiad[10][11] Etymoleg Poblogaeth (2019)[12] Maint[9] Map
Adams County 001 Ritzville 1883 Whitman County John Adams (1735–1826), Arlywydd yr Unol Daleithiau 700419983000000000019,983 70031925000000000001,925 sq mi
(70034986000000000004,986 km2)
State map highlighting Adams County
Asotin County 003 Asotin 1883 Garfield County Enw Cenedl y Nez Percé am Eel Creek 70032582000000000002,582 7002636000000000000636 sq mi
(70031647000000000001,647 km2)
State map highlighting Asotin County
Benton County 005 Prosser 1905 Yakima and Klickitat Counties Thomas Hart Benton (1782–1858), Seneddwr o Missouri 7005204390000000000204,390 70031703000000000001,703 sq mi
(70034411000000000004,411 km2)
State map highlighting Benton County
Chelan County 007 Wenatchee 1899 Siroedd Okanogan a Kittitas Gair brodorol am "ddŵr dwfn" syn cyfeirio at Lyn Chelan 700477200000000000077,200 70032922000000000002,922 sq mi
(70037568000000000007,568 km2)
State map highlighting Chelan County
Clallam County 009 Port Angeles 1854 Jefferson County Gair Cenedl Frodorol y Klallam am "bobl ddewr" neu "bobl gref" 700477331000000000077,331 70031745000000000001,745 sq mi
(70034520000000000004,520 km2)
State map highlighting Clallam County
Clark County 011 Vancouver 1845 Sir Gwreiddiol William Clark (1770–1838), cyd arweinydd alldaith Lewis a Clark 7005488241000000000488,241 7002628000000000000628 sq mi
(70031627000000000001,627 km2)
State map highlighting Clark County
Columbia County 013 Dayton 1875 Walla Walla County Afon Columbia 70033985000000000003,985 7002869000000000000869 sq mi
(70032251000000000002,251 km2)
State map highlighting Columbia County
Cowlitz County 015 Kelso 1854 Lewis County Cenedl Frodorol y Cowlitz 7005110593000000000110,593 70031139000000000001,139 sq mi
(70032950000000000002,950 km2)
State map highlighting Cowlitz County
Douglas County 017 Waterville 1883 Lincoln County Stephen A. Douglas (1813–1861), Seneddwr o Illinois 700443429000000000043,429 70031821000000000001,821 sq mi
(70034716000000000004,716 km2)
State map highlighting Douglas County
Ferry County 019 Republic 1899 Stevens County Elisha P. Ferry (1825–1895), Llywodraethwr 1af Washington 70037627000000000007,627 70032204000000000002,204 sq mi
(70035708000000000005,708 km2)
State map highlighting Ferry County
Franklin County 021 Pasco 1883 Whitman County Benjamin Franklin (1706–1790), ysgrifennwr, areithiwr, dyfeisiwr, a Thad Sylfaenol yr Unol Daleithiau 700495222000000000095,222 70031242000000000001,242 sq mi
(70033217000000000003,217 km2)
State map highlighting Franklin County
Garfield County 023 Pomeroy 1881 Columbia County Yr Arlywydd James A. Garfield (1831–1881) 70032225000000000002,225 7002710000000000000710 sq mi
(70031839000000000001,839 km2)
State map highlighting Garfield County
Grant County 025 Ephrata 1909 Douglas County Yr Arlywydd Ulysses S. Grant (1822–1885) 700497733000000000097,733 70032681000000000002,681 sq mi
(70036944000000000006,944 km2)
State map highlighting Grant County
Grays Harbor County 027 Montesano 1854 Thurston County Grays Harbor, corff o ddŵr a enwyd ar ôl y fforiwr a masnachwr Robert Gray (1755–1806) 700475061000000000075,061 70031917000000000001,917 sq mi
(70034965000000000004,965 km2)
State map highlighting Grays Harbor County
Island County 029 Coupeville 1852 Thurston County Sir o ynysoedd gan gynnwys ynys Whidbey ac ynys Camano 700485141000000000085,141 7002209000000000000209 sq mi
(7002541000000000000541 km2)
State map highlighting Island County
Jefferson County 031 Port Townsend 1852 Thurston County Thomas Jefferson (1743–1826), Arlywydd yr Unol Daleithiau a phrif awdur Datganiad Annibyniaeth yr Unol Daleithiau 700432221000000000032,221 70031809000000000001,809 sq mi
(70034685000000000004,685 km2)
State map highlighting Jefferson County
King County 033 Seattle 1852 Thurston County William R. King (1786–1853), Is lywydd yr Unol Daleithiau o dan Franklin Pierce; wedi ei ailgysegru'n swyddogol yn 2005 er anrhydedd i'r ymgyrchydd hawliau sifil Martin Luther King (1929–1968)[13] 70062252782000000002,252,782 70032126000000000002,126 sq mi
(70035506000000000005,506 km2)
State map highlighting King County
Kitsap County 035 Port Orchard 1857 Siroedd King a Jefferson Counties Kitsap (d. 1860), Pennaeth Cenedl y Suquamish 7005271473000000000271,473 7002396000000000000396 sq mi
(70031026000000000001,026 km2)
State map highlighting Kitsap County
Kittitas County 037 Ellensburg 1883 Yakima County Gair o iaith Cenedl Frodorol y Yakama nad oes sicrwydd o'i hystyr bellach 700447935000000000047,935 70032297000000000002,297 sq mi
(70035949000000000005,949 km2)
State map highlighting Kittitas County
Klickitat County 039 Goldendale 1859 Walla Walla County Cenedl Frodorol y Klickitat 700422425000000000022,425 70031872000000000001,872 sq mi
(70034848000000000004,848 km2)
State map highlighting Klickitat County
Lewis County 041 Chehalis 1845 Clark County Meriwether Lewis (1774–1809), cyd arweinydd alldaith Lewis a Clark 700480707000000000080,707 70032408000000000002,408 sq mi
(70036237000000000006,237 km2)
State map highlighting Lewis County
Lincoln County 043 Davenport 1883 Whitman County Abraham Lincoln (1809–1865), 16eg Arlywydd yr Unol Daleithiau 700410939000000000010,939 70032311000000000002,311 sq mi
(70035985000000000005,985 km2)
State map highlighting Lincoln County
Mason County 045 Shelton 1854 King County Charles H. Mason (1830–1859), Ysgrifennydd Cyntaf Tiriogaeth Washington 700466768000000000066,768 7002961000000000000961 sq mi
(70032489000000000002,489 km2)
State map highlighting Mason County
Okanogan County 047 Okanogan 1888 Stevens County Gair Cenedl Frodorol y Salish yn golygu "man cyfarfod" 700442243000000000042,243 70035268000000000005,268 sq mi
(700413644000000000013,644 km2)
State map highlighting Okanogan County
Pacific County 049 South Bend 1851 Lewis County Y Cefnfor Tawel (Saesneg: Pacific Ocean) 700422036000000000022,036 7002975000000000000975 sq mi
(70032525000000000002,525 km2)
State map highlighting Pacific County
Pend Oreille County 051 Newport 1911 Stevens County Pend d'Oreilles ffugenw Ffrengig am genedl frodorol oherwydd siâp eu clustiau 700413724000000000013,724 70031400000000000001,400 sq mi
(70033626000000000003,626 km2)
State map highlighting Pend Oreille County
Pierce County 053 Tacoma 1852 Thurston County Franklin Pierce (1804–1869), 14eg Arlywydd yr Unol Daleithiau 7005904980000000000904,980 70031676000000000001,676 sq mi
(70034341000000000004,341 km2)
State map highlighting Pierce County
San Juan County 055 Friday Harbor 1873 Whatcom County Ynysoedd San Juan a enwyd ar ôl Juan Vicente de Güemes, ail Gownt Revillagigedo 700417582000000000017,582 7002175000000000000175 sq mi
(7002453000000000000453 km2)
State map highlighting San Juan County
Skagit County 057 Mount Vernon 1883 Whatcom County Cenedl y Skagit 7005129205000000000129,205 70031735000000000001,735 sq mi
(70034494000000000004,494 km2)
State map highlighting Skagit County
Skamania County 059 Stevenson 1854 Clark County Gair Cenedl Frodorol y Chinookan am "ddŵr cyflym" 700412083000000000012,083 70031656000000000001,656 sq mi
(70034289000000000004,289 km2)
State map highlighting Skamania County
Snohomish County 061 Everett 1861 Siroedd Island a King Cenedl y Snohomish 7005822083000000000822,083 70032090000000000002,090 sq mi
(70035413000000000005,413 km2)
State map highlighting Snohomish County
Spokane County 063 Spokane 1879 Stevens County Cenedl Frodorol y Spokane 7005522798000000000522,798 70031764000000000001,764 sq mi
(70034569000000000004,569 km2)
State map highlighting Spokane County
Stevens County 065 Colville 1863 Walla Walla County Isaac Stevens (1818-1862), Llywodraethwr cyntaf Tiriogaeth Washington 700445723000000000045,723 70032478000000000002,478 sq mi
(70036418000000000006,418 km2)
State map highlighting Stevens County
Thurston County 067 Olympia 1852 Lewis County Samuel Thurston (1815–1851), cynrychiolydd cyntaf Tiriogaeth Oregon i Gyngres yr Unol Daleithiau 7005290536000000000290,536 7002727000000000000727 sq mi
(70031883000000000001,883 km2)
State map highlighting Thurston County
Wahkiakum County 069 Cathlamet 1854 Cowlitz County Wakaiakam, Pennaeth Cenedl Frodorol y Kathlamet 70034488000000000004,488 7002264000000000000264 sq mi
(7002684000000000000684 km2)
State map highlighting Wahkiakum County
Walla Walla County 071 Walla Walla 1854 Skamania County Cenedl Frodorol y Walla Walla 700460760000000000060,760 70031270000000000001,270 sq mi
(70033289000000000003,289 km2)
State map highlighting Walla Walla County
Whatcom County 073 Bellingham 1854 Island County Whatcom, Pennaeth Cenedl Frodorol y Nooksack 7005229247000000000229,247 70032120000000000002,120 sq mi
(70035491000000000005,491 km2)
State map highlighting Whatcom County
Whitman County 075 Colfax 1871 Stevens County Marcus Whitman (1802-1847), cenhadwr Methodistaidd 700450104000000000050,104 70032159000000000002,159 sq mi
(70035592000000000005,592 km2)
State map highlighting Whitman County
Yakima County 077 Yakima 1865 Ferguson County (defunct) Iaith Cenedl Frodorol y Yakama yn golygu dŵr sy'n rhedeg yn rhydd 7005250873000000000250,873 70034296000000000004,296 sq mi
(700411127000000000011,127 km2)
State map highlighting Yakima County

Map dwysedd poblogaeth[golygu | golygu cod]

Mae lliwiau gwahanol yn dynodi dwysedd trymach.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "How Many Counties are in Your State?". web.archive.org. 2009-04-22. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2009-04-22. Cyrchwyd 2020-04-21.CS1 maint: BOT: original-url status unknown (link)
  2. Washington: Consolidated Chronology of State and County Boundaries Archifwyd 2016-01-01 yn y Peiriant Wayback. adalwyd 28 Mehefin 2020
  3. Washington State Office of the Code Reviser; Washington State Constitution; Article XI, Section 3: New Counties adalwyd 28 Mehefin 2020
  4. King County Executive - Services adalwyd 28 Mehefin 2020
  5. Spokane County -County Services adalwyd 28 Mehefin 2020
  6. United States Census Bureau - Washington: Basic Information adalwyd 28 Mehefin 2020
  7. Municipal Research and Services Center Washington County Forms of Government adalwyd 28 Mehefin 2020
  8. 8.0 8.1 US Environmental Protection Agency County FIPS Code Listing for the State of WASHINGTON adalwyd 28 Mehefin 2020
  9. 9.0 9.1 9.2 NACo - Find A County adalwyd 28 Mehefin 2020
  10. 10.0 10.1 Newberry Library Washington: Historical Borders Archifwyd 2020-03-08 yn y Peiriant Wayback. adalwyd 28 Mehefin 2020
  11. "U.S. Census Bureau QuickFacts: Washington". www.census.gov. Cyrchwyd 2020-06-28.
  12. Seattle Times 20 Ionawr 2020 " Remembering the fight to change King County’s namesake from a slave owner to a civil-rights leader" adalwyd 29 Mehefin 2020