Rhestr o Siroedd Rhode Island

Oddi ar Wicipedia

Dyma restr o'r 5 rhanbarth gweinyddol sy'n cael eu hadnabod wrth yr enw County yn Nhalaith Rhode Island yn yr Unol Daleithiau, yn nhrefn yr wyddor:[1]

Hanes[golygu | golygu cod]

Mae pum sir yn Nhalaith Rhode Island. Mae Rhode Island yn gydradd â Hawaii am gael y nifer ail leiaf o siroedd mewn talaith yn yr Unol Daleithiau (dim ond Delaware sydd â llai, gyda thair sir). [1] Er bod Rhode Island wedi'i rhannu'n siroedd, nid oes ganddi unrhyw lywodraeth leol ar lefel sirol. [2] Darperir llywodraethu lleol gan yr wyth dinas a'r tri deg un o drefi. [3] Nid fu gan siroedd Rhode Island unrhyw swyddogaethau llywodraethol ers 1846 ac eithrio fel ffiniau gweinyddol llys, gwasanaethau siryf a charchardai sy'n cael eu cynnal gan lywodraeth y dalaith.

Sefydlwyd trefedigaeth Rhode Island yn yr 17eg ganrif, a hi oedd y gyntaf o'r tair ar ddeg o drefedigaethau Americanaidd gwreiddiol i ddatgan annibyniaeth oddi wrth lywodraeth Prydain ym 1776, yn ystod y Chwyldro Americanaidd er hynny hi yr olaf o'r 13 gwladfa gwreiddiol i ddod yn dalaith. [3] Sefydlwyd y siroedd i gyd cyn y Datganiad Annibyniaeth. [2]

Rhestr[golygu | golygu cod]

FIPS[golygu | golygu cod]

Mae'r cod Safon Prosesu Gwybodaeth Ffederal (FIPS), a ddefnyddir gan lywodraeth yr Unol Daleithiau i roi cod hunaniaeth unigryw i daleithiau a siroedd y wlad, yn cael ei ddarparu gyda phob cofnod yn y tabl. Cod Rhode Island yw 44, a fyddai, o'i gyfuno ag unrhyw god sirol, yn cael ei ysgrifennu fel 44XXX. Mae'r cod FIPS ar gyfer pob sir yn y tabl isod yn cysylltu â data cyfrifiad ar gyfer y sir honno. [4]

Sir
Cod FIPS [5] Canolfan Weinyddol[6] Sefydlu[2] Tarddiad[7] Etymoleg Poblogaeth[8] Maint[8] Map
Bristol County 001 Bristol 1747 Wedi'i greu o dir a gafwyd o Bristol County, Massachusetts, ar ôl datrys anghydfod ffiniau rhwng y ddwy wladfa. Dinas Bryste, Lloegr 700449875000000000049,875 700124000000000000024 sq mi
(700162000000000000062 km2)
State map highlighting Bristol County
Kent County 003 East Greenwich 1750 Ffurfiwyd allan o ran o Providence County. Swydd Caint, Lloegr 7005166158000000000166,158 7002168000000000000168 sq mi
(7002435000000000000435 km2)
State map highlighting Kent County
Newport County 005 Newport 1703 Ffurfiwyd fel Rhode Island County ym 1703. Newidiwyd yr enw i Newport County ym 1729 Tref Newport, Essex, Lloegr 700482888000000000082,888 7002102000000000000102 sq mi
(7002264000000000000264 km2)
State map highlighting Newport County
Providence County 007 Providence 1703 Ffurfiwyd ym 1703 fel Providence Plantations County. Newidiwyd yr enw i Providence County ym 1729 O'r term Saesneg divine providence (rhagluniaeth ddwyfol), y cysyniad y bydd Duw yn darparu ein holl anghenion, bydol ac ysbrydol, sy'n adlewyrchu barn grefyddol y sylfaenydd trefedigaethol Roger Williams 7005626667000000000626,667 7002409000000000000409 sq mi
(70031059000000000001,059 km2)
State map highlighting Providence County
Washington County 009 South Kingstown* 1729 Ffurfiwyd ym 1729 fel Kings County o ran o Providence Plantations County. Newidiwyd yr enw i Washington County ym 1781. George Washington, cadfridog yn Rhyfel Annibyniaeth America ac Arlywydd cyntaf yr Unol Daleithiau 7005126979000000000126,979 7002329000000000000329 sq mi
(7002852000000000000852 km2)
State map highlighting Washington County

Nodyn[golygu | golygu cod]

Cyfeirir yn aml at ganolfan weinyddol Washington County (cyn diddymu llywodraeth sirol) fel "West Kingston". Mewn gwirionedd, nid oes gan West Kingston, pentref yn South Kingstown, ei lywodraeth leol ei hun, ond lleolir y llys sirol yng nghod post (Zip Code) West Kingston.

Map dwysedd poblogaeth[golygu | golygu cod]

Mae lliwiau gwahanol yn dynodi dwysedd trymach.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 "How Many Counties are in Your State?". web.archive.org. 2009-04-22. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2009-04-22. Cyrchwyd 2020-04-21.CS1 maint: BOT: original-url status unknown (link)
  2. 2.0 2.1 2.2 National Association of Counties. "NACo – Find a county". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2007-09-30. Cyrchwyd 2020-04-26.
  3. 3.0 3.1 RHODE ISLAND FACTS AND TRIVIA adalwyd 29 Ebrill 2020
  4. "FIPS 6-4 - County Names and Codes of the US". web.archive.org. 2013-09-29. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2013-09-29. Cyrchwyd 2020-04-24.CS1 maint: BOT: original-url status unknown (link)
  5. "EPA County FIPS Code Listing". EPA. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2004-09-22. Cyrchwyd 2020-04-29.
  6. "State of Rhode Island General Laws, Chap. 42-3".
  7. "Rhode Island Counties and Towns". 2002-12-19. Cyrchwyd 2020-04-29.
  8. 8.0 8.1 Rhode Island Quick Facts adalwyd 29 Ebrill 2020