Rheilffordd y Trallwng a Llanfair Caereinion

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Rheilffordd y Trallwng
a Llanfair Caereinion
Countess.jpg
823 COUNTESS - un o'r ddwy injan W&LLR wreiddiol
Ardal leol Canolbarth Cymru
Terminws Y Trallwng
Gweithgaredd masnachol
Enw Rheilffordd y Trallwng a Llanfair Caereinion
Maint gwreiddiol 2 ft 6 in (762 mm)
Yr hyn a gadwyd
Hyd 8.5 milltir (13.7 km)
Maint 'gauge' 2 ft 6 in (762 mm)
Hanes (diwydiannol)
Agorwyd 1903
Caewyd i deithwyr 1931
Caewyd 1956
Hanes (Cadwraeth)
1963 Ail-agorwyd fel rheilffordd dreftadaeth
1981 Estyniad i Raven Square

Rheilffordd led gul (gyda lled o 30 modfedd neu 762mm) yw Rheilffordd Y Trallwng a Llanfair Caereinion. Mae'n rheilffordd ysgafn a leolir yn sir Powys rhwng Y Trallwng a Llanfair Caereinion. Aeth y lein yn wreiddiol drwy strydoedd y Trallwng i brif orsaf y dref, yna gorsaf Rheilffordd Croesoswallt a'r Drenewydd ac yn ddiweddarach gorsaf Rheilffordd y Cambrian.

Hanes[golygu]

Agorwyd y rheilffordd ar 4 Ebrill 1903, gyda Rheilffordd y Cambrian yn ymgymeryd â'r gwaith o gynnal y gwasanaeth. Adeiladwyd y rheilffordd er mwyn cysylltu cymunedau amaethyddol Dyffryn Banwy efo tref farchnad Y Trallwng. Ym 1922, daeth Rheilffordd y Cambrian yn rhan o'r Rheilffordd Great Western. Doedd y rheilffordd ddim yn llwyddiant cyllidol ac roedd yn rhaid cystadlu yn erbyn gwasanaeth bws y Rheilffordd Great Western; cariwyd dim ond nwyddau ar ôl 1931. Daeth y Rheilffordd Great Western yn rhan o'r Rheilffyrdd Prydeinig ym 1948. Gan wynebu cystadleuaeth gynyddol gan drafnidiaeth ar y ffyrdd, caewyd y rheilffordd ar 3 Tachwedd 1956.

Ailagor[golygu]

yn agosáu at Sylfaen
Countess yn Llanfair Caereinion

Dechreuwyd paratoadau i ailagor y rheilffordd ym 1956. Ffurfiwyd cwmni cyfyngedig ym 1960, a chymerwyd y lein ar brydles o'r Rheilffyrdd Prydeinig ym 1962. Dychwelwyd The Earl ar 18 Gorffennaf 1961, wedi atgywyriad yng Nghroesoswallt a daeth sawl cerbyd o reilffordd Y Morlys yn swydd Gaint. Dechreuwyd gwasanaeth rhwng Llanfair Caereinion a Chastell Caereinion ar 6 Ebrill 1963.

Penderfynodd Gyngor Bwrdeistref Y Trallwng i beidio caniatáu rheilffordd drwy strydoedd y dref, felly mae'r rheilffordd presennol yn dechrau o Sgwâr y Gigfran. Daeth yr ail injan wreiddiol, The Countess, yn ôl i'r rheilffordd.

Oherwydd fod yr Ymerodraeth Awstro-Hwngaiaidd yn defnyddio 760mm fel mesur lled safonol i'w rheiffyrdd cul bu'n bosib i RhYTLl ddefnyddio injenni a cherbydau o wledydd megis Awstria a Rwmania ynghyd â rhai o reilffyrdd eraill Ewrop. Daeth pedwar cerbyd o'r Zillertalbahn yn Awstria ym 1968, a dilynodd ail injan o Awstria ym 1969. Ym 1972, estynwyd y lein i Sylfaen ac ym 1974 prynodd y cwmni'r lein i gyd am £8,000.

Cyrhaeddodd Joan o Antigua ym 1971 ac injan arall o Sierra Leone ym 1975, a cherbydau eraill o'r un wlad. Ar ôl cryn dipyn o waith yn gwella cyflwr y cledrau, dychwelodd trenau i'r Trallwng ar 18 Gorffennaf 1981. Yn ddiweddar, mae injan diesel wedi cyrraedd o Daiwan, injan stêm arall o Romania - Resita - a cherbydau eraill o Dde Affrica, Hwngari ac Awstria. Gwneuthpwyd hefyd tri chopi o'r cerdydau Pickering â ddefnyddiwyd gan y rheilffordd wreiddol. Daethant o Weithdy Boston Lodge ar Rheilffordd Ffestiniog.

Y sefyllfa bresennol[golygu]

Mae'r rheilffordd yn enwog am Allt y Golfa lle mae'r trenau'n dringo ar ôl gadael Y Trallwng. Lleolir pencadlys y rheilffordd yn Llanfair Caereinion. Gweithredir trenau o ddiwedd mis Mawrth hyd at ddechrau mis Tachwedd, ac mae 'Santa Specials' ym mis Rhagfyr. Mae cyrsiau hyfforddiant gyrru trên ar gael, ac mae penwythnos arbennig ar ddechrau mis Medi pob blwyddyn, pan ddefnyddir y locomotifau i gyd er mwyn gweithredu amserlen llawer brysurach nac arfer.

Locomotifau[golygu]

Adeiladwyd y ddau locomotif 0-6-0 The Earl a Countess gan Beyer Peacock yn Ffowndri Gorton, Manceinion ym 1902. Enwyd y ddau ar ôl Iarll Powys a'i wraig; Roedd yr Iarll yn gefnogol iawn at y rheilffordd yn ei ddyddiau cynnar.

Adeiladwyd yr 0-6-2, Joan, gan Kerr Stuart yn Stoke on Trent ym 1927 i weithio yn Antigua ar y rheilffyrdd siwgr.

Adeiladwyd 0-8-0, Resita gan Uzinele de Fier și Domeniile din Reșiţa S.A. yn Romania ym 1954 a chludwyd i Gymru yn 2007 ar ôl gwaith adnewyddu gan Gweithdy Locomotif Remarul 16 Februarie yn Cluj-Napoca, Romania. Mae'r injan yn un gymalog, yn defnyddio'r system Klein-Linder sydd yn galluogu ei defnydd ar reilffyrdd troillog. Cludasai 'Resita' coed ar Rheilffordd Coedwigoedd Romania yn wreiddiol, a symudodd yn ddiweddarach i gwmni sment FC Turda, cyn iddo ddod i Gymru.

Adeiladwyd 0-4-0, Dougal gan Andrew Barclay & Sons ym 1946. Gweithiasai yng ngwaith nwy Provan, Glasgow.

Adeiladwyd Chattenden gan Gwmni Car Drewry ym 1947. Daeth o'r Rheilffordd Chattenden ac Upnor, ac yn gynt o'r Morlys.

Adeiladwyd Ferret gan Cwmni Hunslet ym 1940. Daeth o'r Morlys.

Rheilffordd y Trallwng a Llanfair Caereinion
Continuation backward
Rheilffordd y Cambrian
Unknown BSicon "uexCPICla" Left side of cross-platform interchange
Y Trallwng
Unused straight waterway Continuation forward
Rheilffordd y Cambrian
Unknown BSicon "uKACCxa"
Gorsaf Reilffordd Raven Square, y Trallwng
Unknown BSicon "uSTRg"
Banc y Golfa
Urban stop on track
Gorsaf Reilffordd Sylfaen
Urban stop on track
Gorsaf Reilffordd Castell Caereinion
Urban stop on track
Gorsaf Reilffordd Cyfronydd
Urban stop on track
Gorsaf Reilffordd Heniarth
Unknown BSicon "uKACCe"
Gorsaf Reilffordd Llanfair Caereinion

Cerbydau[golygu]

Cyfeiriadau[golygu]

Dolenni allanol[golygu]