Priapus

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Addoli Priapus: darlun seiliedig ar bas-relief o Pompeii

Un o dduwiau'r maes a ffrwythlondeb planhigion a diadellau ym mytholeg Glasurol oedd Priapus. Yn ôl traddodiad roedd yn fab i Aphrodite (Gwener y Rhufeiniaid) a Dionysus (neu Mercher). Fe'i portreadir fel rheol fel ffigwr lled-gomig a chanddo bidyn anferth. Roedd garddio, gwinllanoedd, bugeilio defaid a geifr, cadw gwenyn a hefyd pysgota (yn ôl rhai ffynonellau) i gyd dan ei nawdd.

Duw lleol yn Asia Leiaf oedd Priapus ar y dechrau, a addolid yn ninasoedd Groeg yr Hellespont, yn arbennig Lampsacus, ei dref enedigol yn ôl mytholeg Roeg. Cafodd ei gymhathu â'r duwiau Olympaidd ac ymledodd ei gwlt drwy Roeg a de'r Eidal. Fel rheol codid cerfluniau ohono mewn gerddi, yn arbennig ar ffurf hermau cyntefig o bren neu garreg yn dangos ei ffalws, pastwn a chryman. Offrymid iddo blaenffrwythau'r ardd a'r maes. Ceir tystiolaeth fod asynod yn cael eu hoffrymu iddo weithiau yn ogystal. Roedd y llawryf yn gysegredig iddo.

Yn ôl y chwedl ffrwyth cyfathrach rhwng Aphrodite a Bacchus/Dionysus pan ddychwelodd y duw hwnn o India oedd Priapus. Roedd yn edrych mor hyll, am fod Hera wedi difetha ei goesau wrth ei dynnu i'r byd, fel bod ei fam wedi rhoi'r baban allan ar y mynydd i gael gwared ohono. Cafodd ei achub gan fugeiliaid. Cafodd ei alltudio o Lampsacus am fod yn rhy rydd efo gwragedd y ddinas ond dychwelodd i achub y trigolion o bla a chodwyd nifer o demlau iddo yno.

Roedd 'Priapus' yn enw ar dref ger Lampsachus hefyd, yn ôl Strabo, yn ogystal â bod yn enw ar ynys fechan ger Ephesus.

Cyfeiriadau[golygu]

  • J. Lempriere, A Classical Dictionary (Llundain, d.d.)
  • Oskar Seyffert, A Dictionary of Classical Antiquities (Llundain, 1902)