Garddio

Oddi ar Wicipedia
Rhoi dŵr i blanhigion.

Y gelfyddyd a'r grefft o dyfu planhigion yw garddio. Bwriad garddio yw creu amgylchedd hardd neu tyfu planhigion i'w bwyta. Fel arfer digwydd gwaith garddio o gwmpas y cartref, mewn lle o'r enw gardd. Yn yr hen ddyddiau roedd gerddi yn rhan bwysig i gartrefi llwm, a byddai'r bythynod yn dibynnu yn drwm ar y cynnyrch a dyfai yn yr ardd gan fod eu cyflog mor isel.

Garddio yn yr 21fed ganrif[golygu | golygu cod]

Heddiw mae'r dirwasgiad yn pwyso'n drwm ar deuluoedd, ac mae hyn wedi ennyn diddordeb eto yn yr ardd, a'r llysiau a ellir dyfu ac arbed costiau bwyd i'r cartref. Gwelir tŵf ym mhoblogrwydd gerddi bychain,(cottage garden). Nid oes eisiau gardd fawr fel a welwch ar y teledu i lenwi anghenion teulu bychan. Mae'n syndod beth all gardd fychan dyfu i blesio angen y bwthyn, heb fynd i gostiau mawr. Gall ddod a llawer o bleser, fel mai bwyd ffres wedi ei dyfu eich hunan yn roddi, ac yn ôl nifer o arddwyr mae'r cynnyrch o ansawdd hollol wahanol i'r hyn a geir yn yr archfarchnadoedd.

Eginyn erthygl sydd uchod am arddio neu arddwriaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.
Chwiliwch am Garddio
yn Wiciadur.