Effesus

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Ephesus)
Effesus
Mathsettlement site, safle archaeolegol, atyniad twristaidd, polis Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolEphesus Edit this on Wikidata
Sirİzmir, Selçuk Edit this on Wikidata
GwladTwrci Edit this on Wikidata
Arwynebedd614.76 ha Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau37.93972°N 27.34861°E Edit this on Wikidata
Map
Statws treftadaethrhan o Safle Treftadaeth y Byd Edit this on Wikidata
Sefydlwydwyd ganAndroclus Edit this on Wikidata
Manylion

Hen ddinas Rufeinig a thref bresennol yn ne-orllewin Twrci yw Effesus (neu Ephesus neu Ephessos).

Fe'i sefydlwyd gan y Groegiaid ar arfordir Ionia yn Asia Leiaf ac yn fuan daeth yn ddinas gyfoethog a flodeuai oherwydd ei safle manteisiol ar gyfer masnach. Roedd hi'n ganolfan grefyddol bwysig yn ogystal, yn arbennig ar gyfer cwlt y dduwies Artemis (Lladin: Diana); roedd Teml Artemis yn Effesus yn un o Saith Rhyfeddod yr Henfyd. Ganwyd yr athronydd Heraclitus yn y ddinas tua 500 CC.

Cipiwyd y ddinas gan y brenin Croesus o Lydia yn y flwyddyn 550 CC. Parahaodd Effesus i ffynnu dan Alecsander Fawr o Facedon a'r Ymerodraeth Bersiaidd. Erbyn i'r Rhufeiniaid ei hymgorffori yn eu hymerodraeth dim ond Alecsandria yn yr Aifft oedd yn medru cystadlu ag Effesus fel canolfan fasnach.

Tua diwedd hanner cyntaf 1g OC ymwelodd Sant Paul ag Effesus. Un o lyfrau'r Testament Newydd yn y Beibl yw Llythyr Paul at yr Effesiaid.

Cafodd ei difrodi gan y Gothiaid yn OC 262 a dirywio fu ei hanes wedi hynny.

Yn y bryniau gerllaw'r ddinas mae Tŷ'r Forwyn Fair yn sefyll; dywedir iddi dreulio ei dyddiau olaf yn Effesus. Yn ôl traddodiad bu farw Sant Ioan yn y ddinas hefyd.

Amffitheatr Effesus
Nymphaeum Trajan yn Effesus