Pokémon

Oddi ar Wicipedia
Logo swyddogol Pokémon

Cyfres o gemau fideo a grëwyd gan Satoshi Tajiri tua 1995 ac sy'n eiddo i Nintendo yw Pokémon (Japaneg: ポケモン). Crëwyd y gemau ar gyfer y Nintendo Game Boy yn wreiddiol ym 1996 yn Japan, ym 1998 yn yr Unol Daleithiau, ac ym 1999 yn Ewrop ac Awstralia. Y gemau cyntaf oedd Pokémon Coch, Pokémon Glas (Pokémon Gwyrdd yn Japan) a Pokémon Melyn. Cawsant eu dilyn gan Pokémon Aur, Pokémon Arian a Pokémon Crisial (rhwng 1999 a 2001, y daeth y Game Boy Colour); Pokémon Rhuddem, Pokémon Saffir a Pokemon Emrallt (rhwng 2002 a 2005 am y Game Boy Advance); Pokémon Fflamgoch a Pokémon Deilenwerdd (lansiwyd yn 2004 ar gyfer y Game Boy Advance. Mae'r rhain yn ailwampiadau o'r gemau gwreiddiol); a Pokémon Diemwnt, Pokémon Perl a Pokémon Platinwm (rhwng 2006 2009 am y Nintendo DS). Mae Pokémon CalonAur a Pokémon EnaidArian (ailwampiadau o Pokémon Aur a Pokémon Arian) bellach (o 2009 ymlaen) ar gael yn Japan ac fe fyddent ar gael yn yr Unol Daleithiau ac Ewrop yng nghanol 2010.

Pwrpas y gemau yw naill ai casglu pob un o'r 901 o greaduriaid ffug sy'n bodoli o fewn y drwydded, neu (wrth ddefnyddio tîm o 6 Pokémon) i frwydro fel hyfforddwr Pokémon ac i guro pob hyfforddwr arall, yna ennill y teitl o Pencampwr Pokémon y Byd.

Mae'r fasnachfraint yn cynnwys anime, manga, cardiau gwr masnachu, teganau, llyfrau a chyfryngau eraill. Erbyn hyn mae'r gyfres wedi gwneud biliynau o ddoleri ac yn 2009 cafodd y gyfres gofnod yn y Guinness Book of World Records o dan y teitl "Best Selling RPG of all time".

Bydd gem newydd sef Pokemon Sword and Shield yn cael ei ryddhau Tachwedd 15fed 2019.

Mae cymeraid newydd sef Impedimp ac nid yw wedi cael ei gyhoeddi eto.


Gêmau[golygu | golygu cod]

Cenhedlaeth Enw Saesneg Enw Cymraeg Dyddiad Rhyddhad System
Cenhedlaeth I
1996 – 1999

Rhanbarth Kanto

Pocket Monsters: Red and Green Pocket Monsters: Coch a Gwyrdd 27 Chwefror 1996JP Game Boy
Pocket Monsters: Blue Pocket Monsters: Glas 15 Hydref 1996JP
Pokémon Red and Blue Pokémon Coch a Glas 28 Medi 1998GA
23 Hydref 1998AUS
5 Hydref 1998EU
Pokémon Yellow Pokémon Melyn 12 Medi 1998JP
3 Medi 1999AUS
19 Hyfref 1999GA
16 Mehefin 2000EU
Cenhedlaeth II
1999 – 2002

Rhanbarth Johto

Rhanbarth Kanto

Pokémon Gold and Silver Pokémon Aur ac Arian 21 Tachwedd 1999JP
13 Hydref 2000AUS
14 Hydref 2000GA
6 Ebrill 2001EU
23 Ebrill 2002KO
Game Boy Color
Pokémon Crystal Pokémon Crisial 14 Rhagfyr 2000JP
29 Gorffennaf 2001GA
30 Medi 2001AUS
2 Tachwedd 2001EU
Cenhedlaeth III
2002 – 2006

Rhanbarth Hoenn

Rhanbarth Kanto

Pokémon Ruby and Sapphire Pokémon Rhuddem a Saffir 21 Tachwedd 2002JP
18 Mawrth 2003GA
3 Ebrill 2003AUS
25 Gorffennaf 2003EU
Game Boy Advance
Pokémon FireRed and LeafGreen Pokémon TânGoch a DailWyrdd 29 Ionawr 2004JP
7 Medi 2004GA
23 Medi 2004AUS
1 Hydref 2004EU
Pokémon Emerald Pokémon Emrallt 16 Medi 2004JP
30 Ebrill 2005GA
9 Mehefin 2005AUS
21 Hydref 2005EU
Cenhedlaeth IV
2006 – 2010

Rhanbarth Sinnoh

Rhanbarth Johto

Rhanbarth Kanto

Pokémon Diamond and Pearl Pokémon Diemwnt a Pherl 28 Medi 2006JP
22 Ebrill 2007GA
21 Mehefin 2007AUS
27 Gorffennaf 2007EU
14 Chwefror 2008KO
Nintendo DS
Pokémon Platinum Pokémon Platinwm 13 Medi 2008JP
22 Mawrth 2009GA
14 Mai 2009AUS
22 Mai 2009EU
2 Gorffennaf 2009KO
Pokémon HeartGold and SoulSilver Pokémon CalonAur ac EnaidArian 12 Medi 2009JP
4 Chwefror 2010KO
14 Mawrth 2010GA
25 Mawrth 2010AUS
26 Mawrth 2010EU
Cenhedlaeth V
2010 – 2013

Rhanbarth Unova

Pokémon Black and White Pokémon Du a Gwyn 18 Medi 2010JP
4 Mawrth 2011EU
6 Mawrth 2011GA
10 Mawrth 2011AUS
21 Ebrill 2011KO
Pokémon Black 2 and White 2 Pokémon Du 2 a Gwyn 2 23 Mehefin 2012JP
7 Hydref 2012GA
11 Hydref 2012AUS
12 Hydref 2012EU
Cenhedlaeth VI
2013 – 2016

Rhanbarth Kalos

Rhanbarth Hoenn

Pokémon X and Y Pokémon X ac Y 12 Hydref 2013BE Nintendo 3DS
Pokémon Omega Ruby and Alpha Sapphire Pokémon Omega Rhuddem ac Alffa Saffir 21 Tachwedd 2014JP, GA, AUS
28 Tachwedd 2014EU
Cenhedlaeth VII
2016 – 2019

Rhanbarth Alola

Rhanbarth Kanto

Pokémon Sun and Moon Pokémon Haul a Lleuad 18 Tachwedd 2016JP, GA, AUS
23 Tachwedd 2016EU
Pokémon Ultra Sun and Ultra Moon Pokémon Ultra Haul ac Ultra Lleuad 17 Tachwedd 2017BE
Pokémon: Let's Go, Pikachu! and Let's Go, Eevee! Pokémon: Let's Go Pikachu! a Let's Go, Eevee! 16 Tachwedd 2018BE Nintendo Switch
Cenhedlaeth VIII
2019 – heddiw

Rhanbarth Galar

Rhanbarth Sinnoh/Hisui

Pokémon Sword and Shield Pokémon Sword a Shield 15 Tachwedd 2019BE
Pokémon Brilliant Diamond and Shining Pearl Pokémon Diemwnt Gwych a Pherl Ddisglair 19 Tachwedd 2021BE
Pokémon Legends: Arceus Pokémon Legends: Arceus 28 Ionawr 2022BE

Cymeriadau[golygu | golygu cod]

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]

Eginyn erthygl sydd uchod am Japan. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato