Psyduck

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Psyduck

Un o rywogaethau ffuglennol y fasnachfraint Pokémon a greuwyd gan Satoshi Tajiri yw Psyduck (Japaneg: コダック - Kodakku). Mae Psyduck yn un o'r cymeriadau mwyaf adnabyddadwy o fewn y gyfres, o ganlyniad i'w rôl bwysig yn yr anime, y manga a'r gemau fideo.

Cynnwys

Cymeriad [golygu]

Daw'r enw Psyduck o'r geiriau Saesneg psychic (seicig) a duck (hwyaden). Gall ei enw Japaneg Kodakku meddwl 'hwyaden fach'. Fel Pikachu cafodd Psyduck ei ddylunio gan Ken Sugimori (ffrind agos i Satoshi Tajiri, crëwr Pokémon) a mae'n cael ei leisio yn yr anime gan Rikako Aikawa (Japaneg) a Michael Haigney (Saesneg).

Ffisioleg [golygu]

Psyduck yn dioddef o ben tost

Mae Psyduck (fel pob Pokémon mae'r enw yn lluosog ac unigol) yn Pokémon dŵr sydd yn edrych fel hwyaden neu hwyatbig melyn gyda llygadryth gwag a crafangau miniog ar ei adennydd er mwyn crafu ei elynnion. Mae gan Psyduck pŵerau seicig cryf a mae ganddo pen tost parhaol oherwydd ei bŵerau.

Ymddygiad [golygu]

Mae eu bennau tost yn atal Psyduck rhag meddwl yn glîr. Wrth i'r pennau tost gweithygu mae pŵerau Psyduck yn cryfhau. Oherwydd eu pennau tost, bydd Psyduck yn dal ochrau eu bennau trwy'r amser. Yn gwahanol i hwyaid, mae nhw methu hedfan.

Cynefin [golygu]

Mae Psyduck yn byw yn llynoedd dŵr croyw, pwllau fach neu afonydd.

Deiet [golygu]

Mae Psyduck yn bwyta pysgod, ffrwythau, aeron a llysiau.

Effaith Diwyllianol [golygu]

Caiff Psyduck ei ddisgrifio fel "one of the more unique Pokémon" gan y gwefan gemau fideo Americanaidd GameDaily.

Ieithoedd Gwahanol [golygu]

  • Almaeneg: Enton - o Ente (hwyaden)
  • Ffrangeg: Psykokwak - o psychique (seicig) a quack (cwac)
  • Coreeg: 고라파덕 Gorapadeok