Mwyalchen y Mynydd
| Mwyalchen y Mynydd | |
|---|---|
![]() |
|
| Dosbarthiad gwyddonol | |
| Teyrnas: | Animalia |
| Ffylwm: | Chordata |
| Dosbarth: | |
| Urdd: | Passeriformes |
| Teulu: | Turdidae |
| Genws: | Turdus |
| Rhywogaeth: | T. torquatus |
| Enw deuenwol | |
| Turdus torquatus Linnaeus, 1758 |
|
Mae Mwyalchen y Mynydd (Turdus torquatus) yn aelod o deulu'r Turdidae. Mae'n debyg iawn i'r Fwyalchen ond yn byw ar dir uchel, creigiog.
Dim ond yn Ewrop y mae Mwyalchen y Mynydd yn nythu, a dim ond lle mae tir uchel. Mae'n cyrraedd cyn belled i'r dwyrain a'r Cawcasws. Mae'n aderyn mudol, yn symud tua'r de yn y gaeaf.
Gellir gwahaniaethu ceiliog Mwyalchen y Mynydd oddi wrth geiliog Mwyalchen trwy fod gan Fwyalchen y Mynydd ddarn gwyn ar ffurf torch ar ei fron. Mae mwy o liw arian ar adenydd Mwyalchen y Mynydd hefyd. Mae'r ieir yn anoddach i'w gwahaniaethu, ond mae gan iâr Mwyalchen y Mynydd hefyd rywfaint o liw goleuach ar y fron, ond yn llawer llai amlwg na'r ceiliog.
Gall fwyta pryfed, ymlusgiaid a gwahanol fathau o aeron. Mae'n nythu mewn llwyni isel yn y mynyddoedd neu mewn agen yn y graig. Nid yw'n heidio fel rheol, ond weithiau gellir gweld nifer o adar gyda'i gilydd lle mae cyflenwad da o fwyd ar gael.
Mae'n aderyn gweddol gyffredin ym mynyddoedd Cymru, yn enwedig yn Eryri, ond mae'r niferoedd wedi lleihau yn ystod y blynyddoedd diwethaf.
