Mwdwl-eithin

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Cyfesurynnau: 53°04′N 3°37′W / 53.07°N 3.62°W / 53.07; -3.62
Mwdwl-eithin
(Mynydd Hiraethog)
Mwdwl-eithin summit.jpg
Cyfieithiad
Iaith Cymraeg
Testun y llun
Uchder (m) 532
Uchder (tr) 1745
Amlygrwydd (m) 265
Lleoliad rhwng Llandudno a Wrecsam
Map topograffig Landranger 116;
Explorer 18E 264S
Cyfesurynnau OS SH917540
Gwlad Cymru
Dosbarthiad Marilyn (mynydd) a Dewey
Mwdwl-eithin is located in Cymru
Mwdwl-eithin (Cymru)

Copa uchaf Mynydd Hiraethog yw Mwdwl-eithin. Saif yn sir Conwy, tua 10 milltir i'r dwyrain o bentref Betws y Coed ac 1km i'r gorllewin o Lyn Brenig.

Ceir carnedd ar y copa. Yn y dyffrynnoedd o'i gwmpas ceir nifer o gronfeydd: Llyn Alwen, Cronfa Alwen a Llyn Aled.

Mae Mwdwl-eithin yn gopa mynydd a geir ym Mynydd Hiraethog rhwng Llandudno a Wrecsam; cyfeiriad grid SH917540. Uchder cymharol, neu ”amlygrwydd” y copa, ydy 267 metr: dyma'r uchder mae'r copa'n codi uwchlaw'r mynydd agosaf.

Dosberthir copaon Cymru, a gweddill gwledydd Prydain, yn rhestri arbennig yn ôl uchder ac yn ôl amlygrwydd y copa; mae'r copa hwn yn cael ei alw'n Marilyn a Dewey. Mae sawl cymdeithas yn mesur, gwiro a chasglu'r rhestri hyn a dônt ynghŷd ar wefan “Database of British and Irish hills”.[1] Uchder y copa o lefel y môr ydy 532 metr (1745 tr). Cafodd yr uchder ei fesur a'i gadarnhau ar 22 Rhagfyr 2007.

Gweler hefyd[golygu]

Dolennau allanol[golygu]

Cyfeiriadau[golygu]