Llyn Brenig

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Llyn Brenig

Mae Llyn Brenig (Cyfeirnod OS: 983 573) yn gronfa dŵr ar Fynydd Hiraethog yng ngogledd Cymru, ar y ffin rhwng Conwy a Sir Ddinbych.

Defnyddir Llyn Brenig i reoli llif Afon Dyfrdwy fel rhan o Gynllun Rheoli Llif Afon Dyfrdwy. Trwy reoli'r llif mae modd tynnu dŵr o'r afon yn is i lawr ar gyfer gogledd-orllewin Lloegr ac yn enwedig Lerpwl a'r cyffiniau.

Dechreuwyd adeiladu'r argae yn 1973 a gorffenwyd y gwaith yn 1976. Mae'r llyn yn dal 60 miliwn o ddŵr, ac yr oedd wedi llenwi erbyn 1979. Llyn Brenig yw'r llyn mwyaf yng Nghymru o ran arwynebedd, tua 920 acer, ond mae Llyn Tegid) yn dal mwy o ddŵr.

Archaeoleg[golygu]

Wrth adeiladu'r agrae, cafwyd hyd i nifer o olion diddorol o Oes yr Efydd ac hefyd wersyll a ddenfyddiwyd gan helwyr Mesolithig tua 5700 CC. Mae llwybr archaeolegol gerllaw'r llyn sy'n mynd heibio nifer o gladdfeydd a chylchoedd cerrig. Gellir cael mpeth gwybodaeth am archaeoleg y cylch yn y ganolfan ymwelwyr a leolwyd ar lan y llyn.

Dolenni allanol[golygu]

Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia gyfryngau sy'n berthnasol i: